Croeso cynnes i chi i’n gwasanaethau heddiw! O dro i dro, byddwn yn defnyddio Llais Bro Aled i geisio mynd i’r afael â rhai o gwestiynau sylfaenol Cristnogaeth. Yr wythnos hon, byddwn yn ystyried y cwestiwn – beth yw Cristion? Mae’r ateb canlynol i’w gael ar wefan ddefnyddiol www.gotquestions.org:
Ymddengys y gair Cristion deirgwaith yn y Testament Newydd (Actau 11:26; Actau 26:28; 1 Pedr 4:16). Galwyd dilynwyr Iesu Grist yn “Gristnogion” yn gyntaf yn Antiochia (Actau 11:26) gan fod eu hymddygiad, eu gweithgaredd, a’u llefaru fel Crist. Defnyddiwyd y gair i ddechrau gan bobl Antiochia nad oedd wedi’u hachub fel llysenw i wneud sbort ar y Cristnogion. Ystyr llythrennol y gair yw ‘perthyn i garfan Crist’ neu ‘credwr neu ddilynwr Crist’, sydd yn debyg iawn i ddiffiniad Geiriadur Prifysgol Cymru.
Yn anffodus dros amser mae’r gair “Cristion” wedi colli llawer iawn o’i arwyddocâd, ac fe’i defnyddir yn aml am bobl sydd ond yn grefyddol, neu’n foesol, ac nid am rywun sy’n dilyn Iesu Grist. Mae llawer o bobl sydd ddim yn credu nac yn ymddiried yn Iesu Grist yn ystyried eu hunain yn Gristnogion am eu bod yn mynd i’r capel, neu am eu bod yn byw mewn gwlad “Gristnogol”. Ond nid yw mynd i’r eglwys/capel, gwasanaethu rhai llai ffodus, na bod yn berson da yn gwneud rhywun yn Gristion. Fel y dywedodd rhywun unwaith “Nid yw mynd i’r eglwys yn gwneud rhywun yn Gristion, yn fwy nag yw mynd i garej yn gwneud rhywun yn gar.” Nid yw bod yn aelod o eglwys, mynd i wasanaethau yn aml, na rhoi i’r eglwys yn eich gwneud yn Gristion.
Mae’r Beibl yn ein dysgu na all gweithredoedd da ein gwneud yn dderbyniol i Dduw. Dywed Titus 3:5 wrthym (Beibl.net) ‘Wnaeth e ddim ein hachub ni am ein bod ni’n dda, ond am ei fod e’i hun mor drugarog! Golchodd ni’n lân o’n pechod a rhoi bywyd newydd i ni drwy’r Ysbryd Glân.’ Felly Cristion yw rhywun sydd wedi ei eni o’r newydd drwy Dduw (Ioan 3:3; Ioan 3:7; 1 Pedr 1:23). Dywed Effesiaid 2:8 wrthym mai ‘Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw.’ Gwir Gristion yw rhywun sydd wedi edifarhau, ac wedi rhoi ei ffydd a’i ymddiriedaeth yn Iesu Grist yn unig.
Golyga hyn ymddiried ym mherson Iesu Grist, a’r ffaith iddo farw ar y groes i dalu am ein pechodau, cyn atgyfodi ar y trydydd dydd i ddangos ei fuddugoliaeth dros farwolaeth. Dywed Ioan 1:12 wrthym: ‘Ond cafodd pawb wnaeth ei dderbyn, sef y rhai sy’n credu ynddo, hawl i ddod yn blant Duw.’ Mae gwir Gristion felly yn blentyn i Dduw, ac wedi derbyn bywyd newydd yng Nghrist, ac fe welir hyn yn eu cariad tuag at eraill, a’u hufudd-dod i Air Duw (1 Ioan 2:4; 1 Ioan 2:10).