Dydd Sul, 15 Hydref 2017

Darlleniad y Dydd:   Josua 4:1-8 (BCND:tud.199/ tud.182)

Bore da a chroeso cynnes i’r gwasanaethau ar draws Bro Aled. Gweddïwn heddiw y bydd Duw yn ein cynnal ac yn ein nerthu ac y byddwn yn dod i sylweddoli pa mor anhygoel ydy ei nerth a’i gariad drosom ni.

Ein darlleniad heddiw ydy hanes yr Israeliaid yn croesi’r afon Iorddonen ar ôl i Dduw achosi i’r afon stopio llifo er mwyn iddynt ei chroesi. Ar ôl hyn mae Duw yn dweud wrth Josua i godi carnedd hefo cerrig o wely’r afon i gofio beth ddigwyddodd yno. Mae hwn yn un o hanesion enwocaf yr Hen Destament ac mae’n dod yn syth cyn yr hanes enwog arall o goncro dinas Jericho. Mae’n cyfuno arddangosiad o rym Duw, pwysigrwydd ei Sancteiddrwydd ac ymateb pobl i’r Duw yma. Ond beth sydd gan yr hanes yma i ddweud wrthym ni heddiw?

Un o’r pethau sy’n gyffredin i ni i gyd ydy ein cof. Mae’n rhyfedd ein bod ddim ond yn ystyried ein cof pan mae’n methu, neu pan mae’n llwyddo. Rydym unai’n dweud “Sut allwn i fod wedi anghofio!” neu “Dyna i chi gof da sydd gan hwn a hwn.” Sawl gwaith wrth i ni straffaglu i gofio rhywbeth, mae ein cof yn cael kickstart wrth i ni sylwi ar rywbeth o’n cwmpas ni fydd yn ein hatgoffa?

Mae’r garnedd o gerrig gafodd ei godi gan ddeuddeg o’r Israeliaid yn gweithio yn yr un modd. Roedd yno i atgoffa’r bobl o’r hyn oedd wedi digwydd yn y fan honno. Yn debyg i garreg Ebeneser a godwyd yn nes ymlaen (1 Samuel 7), roedd y garnedd yn atgoffa’r bobl o’r ffordd yr oedd Duw wedi gweithio yn eu cenedl o’r blaen, o ble yr oedd wedi dod â nhw, i ble roedden nhw’n mynd a pha bŵer oedd gan y Duw yma. Wrth edrych ar y garnedd yma a chofio’r hanes oedd yn mynd gyda hi, mi fyddai’r Israeliaid wedi cofio’r Duw oedd o’u plaid nhw. Fedrwch chi ddychmygu mewn amser o galedi, rhywun yn mynd at yr Iorddonen a rhyw hanner meddwl fod pethau wedi bod yn well cyn iddyn nhw groesi i wlad yr addewid? Yna’n sylwi ar y garnedd a chofio hyd yn oed llif afon lydan Yr Iorddonen wedi ymostwng a sychu er mwyn i bobl ac Arch Cyfamod Duw ei chroesi. Dychmygwch gymaint o hwb fyddai hynny o gofio fod y Duw yma yn dal o blaid y genedl!

Tybed beth yn ein bywydau ni sy’n ein hatgoffa ni o ba mor anhygoel ydy yr Arglwydd? Tybed ydyn ni heddiw angen cael ein hatgoffa o’r hyn mae Duw wedi ei wneud trosom a beth mae’n dal i wneud trosom?

Gwion

Llais Bro Aled 15.10.17 (PDF)

Llais Bro Aled 15.10.17 (Word)

Dydd Sul, 8 Hydref 2017

Darlleniad y Dydd:   Hebreaid 4:12-13 (BCND:tud.242/ tud.222)

Bore da a chroeso i’r gwasanaethau ar draws Bro Aled heddiw. Gweddïwn y byddwn ni i gyd yn gallu dod at ein gilydd i ymlacio yng nghymdeithas pobl yr Arglwydd. Dewch i ni hefyd roi amser heddiw i weddïo dros ein Bro, y bydd enw’r Iesu yn cael ei godi uwchben pob enw arall yn ein pentrefi. Dewch i ni weddïo’n hyderus gan wybod fod Duw, sy’n clywed ein gweddi yn un sy’n gallu cyflawni unrhyw beth er mwyn ei enw.

Tybed a ydych chi’n bobl sy’n hoffi gwylio Match of the Day, neu ddarllen adolygiadau o raglenni teledu neu lyfr? Mae’n rhaid i mi gyfaddef, pan dwi’n gwylio gêm chwaraeon, neu ddarllen llyfr neu wylio rhaglen, dydw i ddim yn meddwl yn ddwfn iawn am y peth wrth wneud. Wrth wylio gêm bêl-droed, fe wna i weiddi ‘COME ON!!’ yn hytrach na dadansoddi pam nad ydy’r tîm yn dod yn eu blaenau! Neu wrth wylio rhaglen dditectif, fydd gen i ddim syniad pwy gyflawnodd y drosedd ar y diwedd. Ond, wrth wylio Match of the Day, neu ddarllen yr adolygiad, mae’r holl beth yn dod yn glir. Wrth wrando ar eu sylwadau treiddgar, mae’n dod yn gwbl amlwg pam fod un tîm wedi ennill ar draul y llall. Neu wrth ddarllen yr adolygiad, rydw i’n cicio fy hun nad oeddwn i wedi gweld y cliwiau yn y rhaglen dditectif.

Mae ein darlleniad ni heddiw yn dangos i ni rym y Beibl, Gair Duw. Yn aml, fe allwn ni fynd trwy fywyd yn meddwl ein bod yn gwneud yn weddol, neu’n byw bywyd da. Mae awdur yr Hebreaid yn dangos i ni mai dim ond trwy ddarllen Gair Duw mae’n bosib i ni ddirnad hynny.

Darllenwn yn adnod 12 fod Gair Duw fel cleddyf miniog sy’n treiddio i mewn yn bellach na chnawd nac esgyrn na mêr, yr holl ffordd i’n heneidiau ni. Mae hyn yn ddyfnach nag unrhyw adolygiad. Mae Gair Duw yn treiddio i lawr drwy bob haen o’n person ac yn gweld y pethau dyfnaf yn glir. Mae’n mynd yn ddyfnach na’n geiriau a’n gweithredoedd, yr holl ffordd i’n bwriadau, meddyliau a’n cymeriad.

Ar y lefel ddofn yma, mae Gair Duw yn cael effaith arnom ni ac yn trawsffurfio pwy ydym ni. Mae’n dysgu ni beth sy’n wir a beth sy’n anghywir. Mae’n cysuro’r galon. Mae’n ein hargyhoeddi o bechod ac yn ein cyfeirio at yr Un all ein glanhau o’r pechod yna. Mae Salm 37:31 yn dweud am bobl Dduw: “Cyfraith Duw sy’n rheoli eu ffordd o feddwl, a dyn nhw byth yn llithro”. Tybed ydym ni am fod yn bobl fel yma?

Gwion

Llais Bro Aled 08.10.17 (PDF)

Llais Bro Aled 08.10.17 (Word)

Dydd Sul, 1 Hydref 2017

Croeso cynnes i bawb ohonoch i’n hoedfaon arbennig ym Mro Aled heddiw i ddathlu 450 o flynyddoedd ers rhyddhau’r Testament Newydd yn y Gymraeg. Ar Hydref 7fed, 1567 y cyhoeddwyd y Testament Newydd Cymraeg cyntaf, a William Salesbury o Gae Du, Llansannan oedd yn bennaf gyfrifol am yr orchest hon ynghyd â chyfieithu rhannau eraill o’r Beibl o’r ieithoedd gwreiddiol i’r Gymraeg ar gyfer y Llyfr Gweddi Cyffredin a gyhoeddwyd yr un flwyddyn. Yn ystod yr oedfaon heddiw byddwn yn diolch i Dduw am gael derbyn y Beibl yn ein hiaith ein hunain, ac yn llawenhau fod hynny wedi golygu bod cenedlaethau o Gymry Cymraeg wedi cael clywed y newyddion gwych am Iesu Grist.

Ond nid edrych yn ôl ar y gorffennol yn unig y byddwn yn ei wneud (cawn fwy o gyfle i wneud hynny nos Fercher am 7.30 trwy gyfrwng darlith ar William Salesbury gan Gwynn Matthews.) Cofiwn fod ein Harglwydd Iesu Grist yr un ddoe, heddiw ac am byth (Hebreaid 13:8) a bod galwad Iesu ar i bobl ddod i’w ddilyn a’i adnabod yr un mor berthnasol heddiw ag erioed. Dywedodd yr Apostol Paul nad oedd ganddo gywilydd o’r Efengyl oherwydd mai ‘Dyma’r ffordd rymus mae Duw’n gweithio i achub pawb sy’n credu – yr Iddew a phawb arall hefyd. Dyma’r newyddion da sy’n dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn â Duw.’ (Rhufeiniaid 1:16-17 Beibl.net) Ac oherwydd ein bod ninnau ym Mro Aled yn 2017 yn argyhoeddiedig mai trwy ffydd yn Iesu Grist y mae pobl yn dod i berthynas iawn â Duw, fel rhan o’n mawl byddwn yn gweddïo ar i Dduw barhau i weithio trwy ei Ysbryd Glân arnom fel Cymry fel bod yr Efengyl yn dwyn ffrwyth a llawer mwy yn dod i glywed, ac o glywed yn dod i gredu yn Iesu Grist fel eu Gwaredwr. I gyd-fynd â’n dyhead i weld gwaith Duw’n llwyddo yng Nghymru heddiw rydym wrth ein boddau yn cael croesawu Arfon Jones o Gaerdydd atom i’n dwy oedfa. Er bod ei wreiddiau yn Nyffryn Clwyd, mae Arfon wedi byw yn y brifddinas ers blynyddoedd bellach ac wedi cyfrannu’n helaeth at Gristnogaeth yn y Gymru gyfoes trwy gyfieithu nifer fawr o ganeuon mawl ac wrth gwrs y campwaith o gynhyrchu cyfieithiad Cymraeg cyfoes o’r Beibl trwy Beibl.net. Diolchwn i Dduw am y doniau a’r dyfalbarhad a roddodd i bobl fel William Salesbury, William Morgan, Arfon Jones ac eraill i sicrhau fod Gair Duw ar gael i bobl mewn iaith ddealladwy, a gweddïwn y bydd y broses honno’n mynd rhagddi i bobl ym mhob cornel o’r byd sydd eto i ddarllen y Beibl yn eu mamiaith.

Rhodri

Llais Bro Aled 01.10.17 (PDF)

Llais Bro Aled 01.10.17 (Word)

Dydd Sul, 24 Medi 2017

Darlleniad y Dydd:   2 Cronicl 34:29-32 (BCND:tud.425/ tud.389)

Bore da a chroeso i’r gwasanaethau ar draws y Fro heddiw. Gweddïwn y byddwn ni’n dod i adnabyddiaeth ddyfnach o’r Arglwydd Dduw ac yn sylweddoli dyfnder y pethau mae wedi ei wneud drosom ni.

Tybed ydych chi’r math o bobl sy’n cymryd un golwg ar y byd ac yn meddwl: “Doedd pethau ddim fel yma ers talwm” neu “Roedd y byd yn well pan oeddwn i’n iau”? Mae’n gallu bod yn bleserus i hel atgofion am ein bywydau a’r hyn ddigwyddodd dros y byd, a dechrau meddwl fod y byd wedi bod yn fêl i gyd yn y gorffennol. Awn i hel atgofion am amser cyn ffonau symudol a chyfrifiaduron, neu am ryw adegau hanesyddol mewn chwaraeon, neu ryw swydd arbennig oeddem ni’n ei fwynhau. Gallwn feddwl yn ôl weithiau at amser pan oedd ein capeli’n llawn a sŵn da wrth i’r gynulleidfa ganu emynau. Tybed ydym ni weithiau yn edrych ar gymdeithas ac yn tristáu wrth weld y “cyfeiriad mae hi wedi mynd iddi”?

Wrth i ni ystyried ein darlleniad heddiw, hawdd fyddai i ni ddechrau cael rhyw fath o hiraeth am arweinydd fel Joseia – yn uno’r wlad o dan faner yr Efengyl ac yn pwyntio pobl tuag at yr Arglwydd a’r ffordd gywir o fyw. Wrth ddarllen yr hanes am y brenin ifanc ffyddlon, mae’n codi ein hysbryd, ond hefyd yn gallu gwneud i ni feddwl: Pam na all hyn ddigwydd heddiw?

Dowch i ni felly edrych o dan yr wyneb i weld beth sydd wir yn mynd ymlaen yn y fan hyn. Mae gennym ni genedl (Jwda) sy’n adnabyddus am fod yn chwit-chwat am ei ffydd yn Nuw. Wedyn, allan o nunlle, mae Joseia yn dod yn frenin, yn darganfod sgroliau’r Gyfraith ac yn sylweddoli mai dyma’r ffordd y dylai Jwda fod yn byw. Mae wedyn yn dechrau cyfres o ddiwygiadau crefyddol yn y deyrnas. Da iawn. Ochr arall y geiniog ydy proffwydoliaeth Jeremeia (3:6-10). Yma cawn olygfa dra wahanol o beth sy’n digwydd. “Ond er gwaetha hyn i gyd, dydy Jwda, ei chwaer anffyddlon, ddim wedi troi’n ôl ata i go iawn. Dydy hi ddim ond yn esgus bod yn sori” (Jeremeia 3: 10). Er gwaetha’r holl newidiadau i’r grefydd ac i’r wladwriaeth ac i addoliad, mae Duw yn dweud mai dim ond newid yr arwyneb oedd pobl Jwda, dim ond esgus ei bod yn sori. Tystiolaeth hyn oedd sut wnaethon nhw gefnu ar Dduw ar ôl diwedd teyrnasiad Joseia. Roedd Duw eisiau i galonnau pobl newid a throi yn ôl ato fo.

Rydym yn byw mewn cyfnod sy’n anodd i fod yn Gristion yn y gymdeithas, ond mae’n rhaid i ni gofio fod gan Dduw ddiddordeb yn ein calonnau ni ac mewn cael perthynas glos efo ni. Felly, yn lle poeni a gofidio am ein cymdeithas, llywodraeth, neu eglwysi, dewch i ni – o flaen pob peth arall – ddod at Dduw a gwneud ein perthynas gydag Ef yn iawn.

Gwion

Llais Bro Aled 24.09.17 (PDF)

Llais Bro Aled 24.09.17 (Word)

Dydd Sul, 17 Medi 2017

Darlleniad y Dydd:   Luc 9:1-6 (BCND:tud.74/ tud.68)

‘Codaf fy llygaid i’r mynyddoedd; o ble y daw cymorth i mi? Daw fy nghymorth oddi wrth yr Arglwydd, creawdwr nefoedd a daear.’ Gyda’r geiriau cyfarwydd yna mae’r Salmydd yn dechrau Salm 121, ond maent hefyd yn gyfarwyddyd gwych i bawb ohonom ar gychwyn Sul arall. Os ydy pethau’n dda arnom neu ddim, gweddïwn ar i’r Ysbryd Glân ein harwain i sylweddoli mai creawdwr yr holl greadigaeth sy’n rhoi cymorth i’w bobl – a’i fod wedi mynd i’r eithaf i wneud hynny wrth i’r Arglwydd Iesu wisgo cnawd a dod i’n plith.

Dros yr wythnosau diwethaf cafodd effaith y stormydd enbyd yng ngogledd a chanolbarth America sylw helaeth ar y newyddion. Gydag un corwynt ar ôl y llall yn chwipio trwy Fôr y Caribî dinistriwyd eiddo a chartrefi miliynau o bobl. Y penwythnos diwethaf, roedd yr arbenigwyr tywydd yn darogan y byddai corwynt Irma yn taro talaith Florida yn yr Unol Daleithiau gydag adroddiadau fod rhwng 5 a 7 miliwn o bobl wedi cael eu hannog i adael eu cartrefi a dianc i ddiogelwch. Beth fyddai’n hymateb ni yn y fath sefyllfa tybed? Mae’n debyg y byddem yn dilyn y cyngor a roir pan mae larwm tân yn canu mewn adeiladau cyhoeddus – gadewch bopeth ac ewch allan cyn gynted â phosib. Dyna sut ydym ni’n tueddu i ymateb mewn argyfwng – sylweddoli beth sy’n bwysig a chymryd y pethau angenrheidiol yn unig.

Dyma’r pwyslais a welwn yn ein darlleniad o Efengyl Luc hefyd wrth i Iesu anfon ei ddisgyblion allan ar daith i ledaenu ei weinidogaeth Ef ar draws Galilea. Roedd y disgyblion i fynd gydag awdurdod Iesu i ddelio ag afiechyd, ysbrydion dieflig ac i gyhoeddi’r newydd da ym mhob man. A chan eu bod yn gweinidogaethu trwy nerth Crist, mae’n naturiol eu bod hefyd i fynd â’r hyn oedd yn angenrheidiol yn unig ar eu taith, i sicrhau eu bod yn dibynnu’n llwyr ar Dduw, ac nid ar eu galluoedd neu eu meddiannau eu hunain. Oherwydd nid cyflwyno gwaith didrafferth i’w ddisgyblion y mae Iesu yma gan ei fod hefyd yn codi’r posibilrwydd real y byddai pobl yn eu gwrthod oherwydd cynnwys eu neges a phwy a’u hanfonodd.

Erbyn Luc 9:10 gwelwn yr apostolion yn dychwelyd at Iesu gan roi adborth iddo o’r hyn a wnaethant. Onid yw hynny’n wers bwysig i Gristnogion heddiw hefyd, boed mewn cenhadaeth neu fywyd yn gyffredinol? Rydym i fyw ein bywydau o dan awdurdod, cyfarwyddyd, a thrwy nerth yr Un a’n carodd, ond gan wneud yn siŵr fod ein perthynas glos gydag Iesu yn parhau. Sut allwn ni wneud hyn? Trwy weddi, darllen ei Air a chwarae’n rhan fel aelodau o’r eglwys, gan ddiolch fod Iesu wrth roi comisiwn i’w ddisgyblion wedi eu hatgoffa: “Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.” (Mathew 28:20)

Rhodri

Llais Bro Aled 17.09.17 (PDF)

Llais Bro Aled 17.09.17 (Word)

Dydd Sul, 10 Medi 2017

Darlleniad y Dydd:  2 Samuel 6:20-23 (BCND:tud.286/ tud.261)

Bore da a chroeso i’r oedfaon ym Mro Aled heddiw. Beth am i ni i gyd gymryd y cyfle heddiw i ddod o flaen yr Arglwydd a’i addoli a dysgu o’i Air?  Gweddïwn y byddwn ni’n dod i’w adnabod o’n well, ac yn dod i garu ein gilydd yn well yn y cyfnod yma.

Tybed a ydych chi’n bobl o arferion, hynny ydy, fod gennych chi ffordd o wneud pethau ac yn hapus yn yr arferiad yna – efallai bwyta uwd gyda llwyaid o siwgr ynddo i frecwast; gwylio’r teledu yr un amser bob wythnos; cyfarfod â ffrindiau yn yr un llefydd yn gyson? Tybed a ydym yn dilyn yr un patrwm tra’n ystyried ein ffydd a’n capeli?  Ydym ni wedi colli golwg ar y rhesymau rydym ni’n gwneud y pethau rydym ni’n gwneud ar fore ddydd Sul?

Mae ein darlleniad ni heddiw yn adrodd rhan o fywyd y brenin Dafydd yn fuan wedi iddo ddod yn frenin ar Israel. A bod yn onest, dydy o ddim yn amlwg ar y darlleniad cyntaf beth sy’n digwydd – mae’n ddigon posib ein bod yn cochi wrth ddarllen fod y brenin wedi dinoethi ei hun o flaen ei weision!  Dychmygwch – yn fuan ar ôl iddo gael ei eneinio yn frenin oedd newydd gipio Jerwsalem – y Brenin yn neidio a dawnsio heb y rhan fwyaf o’i ddillad ymlaen!  Doedd neb wedi gweld unrhyw beth fel yma o’r blaen, roedden nhw wedi arfer gyda’r brenin Saul, oedd wedi troi yn frenin balch, oedd ddim yn addoli’r Arglwydd ac â meddwl mawr o farn pobl amdano.

Rŵan, mae Michal, gwraig Dafydd a merch Saul, yn troi at ei gŵr gan ei wawdio am ddangos ei hun yn ffŵl o flaen y gweision. Tybed ydym ni’n rhannu yr un farn â Michal nad ydy o’n weddus i frenin fihafio yn y modd yna ac y dylai fod yn fwy cyfrifol neu ffurfiol?

Roedd Michal wedi arfer gweld ei thad yn addoli. Roedd hi wedi arfer gweld dyn yn addoli Duw nad oedd yn ei barchu na’i garu.  Roedd wedi arfer gweld dyn nad oedd yn parchu Arch y Cyfamod, lle roedd yr Arglwydd yn byw.  Mae Dafydd yn addoli go iawn – allan o gariad a llawenydd yn yr Arglwydd – ac yn ystyried Duw uwchben pawb arall.  Dyma oedd wedi gwneud Michal yn anghyfforddus.  Tybed ydym ni’n debyg i Michal?  Ydy’r syniad o wir addoliad yn ein gwneud ni’n anghyfforddus?  Tybed ydyn ni’n meddwl gormod am beth mae pobl yn ei feddwl amdanom ni i wir addoli yr Arglwydd?  Fel Cristnogion, yr Arglwydd ddylai fod y peth pwysicaf yn ein bywydau ni, ac felly, mae ein haddoliad ni a’n capeli ni i fod i adlewyrchu’r ffaith yna.

Gwion

Llais Bro Aled 10.09.17 (PDF)

Llais Bro Aled 10.09.17(Word)

Dydd Sul, 3 Medi 2017

Darlleniad y Dydd:  2 Timotheus 2:8-10 (BCND:tud.234/ tud.214)

Croeso cynnes i’r oedfaon heddiw ac i Lais Bro Aled cyntaf tymor yr Hydref. Gobeithio i bawb ohonoch fwynhau’r haf a’ch bod yn edrych ymlaen at ailgychwyn gweithgareddau a chyfarfodydd arferol yr eglwysi a’r Fro. Gweddïwn ar i’r Ysbryd Glân barhau i’n hadnewyddu er mwyn i ni brofi sêl o’r newydd i addoli a gwasanaethu’r Arglwydd gyda’n gilydd.

Dros fis Awst cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau yn ardal Beddgelert i gofio’r diwygiad grymus fu yno ddau gan mlynedd yn ôl. Ac ar draws y byd bydd gwahanol weithgareddau yn cael eu cynnal i goffáu 500 mlynedd ers dechrau’r Diwygiad Protestannaidd. Rydym ni yma ym Mro Aled hefyd â rhan mewn dathliadau arbennig ar ddechrau mis Hydref wrth i ni ddathlu 450 o flynyddoedd ers i’r Testament Newydd gael ei gyhoeddi yn y Gymraeg, gyda gŵr o Lansannan, William Salesbury yn bennaf gyfrifol am ei gyfieithu.

Gallaf yn hawdd ddychmygu rhai o ddarllenwyr Llais Bro Aled yn ochneidio wrth ddarllen y paragraff blaenorol gan holi eu hunain – pam fod angen sôn cymaint am y gorffennol trwy’r amser? Onid Duw byw sydd gennym a galwad i ni ddilyn Iesu heddiw? Wrth gwrs fod yr Arglwydd yn ein galw i fod yn ddisgyblion ac yn dystion iddo mewn cyfnodau penodol, ond ffolineb o’r mwyaf fyddai diystyru beth mae Duw wedi ei wneud yn y gorffennol. Pan ddarllenwn trwy’r Hen Destament gwelwn batrwm yn codi ei ben yn aml wrth i bobl Dduw anghofio’r hyn a ddigwyddodd cynt, cyn iddynt grwydro mewn ffyrdd rhyfeddol o debyg i’w cyndeidiau! A beth oedd cyngor yr Apostol Paul i Timotheus yn 2 Timotheus 2:8? ‘Cofia Iesu Grist: ei gyfodi oddi wrth y meirw, ei eni o linach Dafydd, yn ôl yr Efengyl yr wyf fi yn ei phregethu.’ Mae’r broses o gofio pwy yw’r Arglwydd, a beth a wnaeth yn y gorffennol (yn enwedig wrth iddo ddod yn gnawd yng Nghrist) yn rhan allweddol o’n ffydd ni rwan, ac i’r dyfodol. Ac felly wrth i ni ddathlu’r hyn a fu, rydym am wneud (o leiaf!) dau beth. Yn gyntaf, rydym am ddiolch i’r Arglwydd am ei ffyddlondeb a’i ras gan ein bod yn parhau i dderbyn y fath fendith trwy foli Duw gydag emynau Pantycelyn a thrwy allu darllen Gair Duw yn ein hiaith ein hunain. Ond yn ail, rydym am i’r cofio a’r diolch droi’n weddïo disgwylgar y bydd ein Tad Nefol unwaith yn rhagor yn trugarhau wrthym. Gweddïwn am i Gristnogion dyfu yn eu hadnabyddiaeth o’u Gwaredwr ac i ni fyw bywydau sy’n amlygu Ei gariad mewn gair a gweithred. A gofynnwn ar i Dduw weithredu’n nerthol eto trwy’r Ysbryd fel bod Ei Efengyl yn cael ei chyhoeddi’n eang a phobl o bob cefndir ac oed yn dod i gredu yn Iesu Grist.

Rhodri

Llais Bro Aled 03.09.17 (PDF)

Llais Bro Aled 03.09.17 (Word)

Dydd Sul, 23 Gorffennaf 2017

Darlleniad y Dydd: Numeri 6: 22-27 (BCND:tud.127/ tud.116)

Bore da a chroeso cynnes i bawb ohonoch sydd ym Mro Aled, a gobeithio y caiff bawb sy’n ymweld â’r Sioe yn Llanelwedd wythnos lwyddiannus yno. Wrth i ni ddod at gyfnod o orffwys ar gyfer nifer o weithgareddau’r ofalaeth dros yr haf, diolchwn fod cynhaliaeth yr Arglwydd i’w bobl yn gyson, ac y gallwn ddibynnu arno am ras a chariad ym mhob sefyllfa trwy’r Arglwydd Iesu Grist. Gweddïwn am fendith Duw ar oedfaon y dydd fel y cyflwynwn holl weithgareddau’r haf iddo, yn arbennig felly’r holl gyrsiau plant a phobl ifanc a gynhelir ar draws y wlad.

Pan glywch y gair bendith, be ddaw i’ch meddwl? Y weddi arferol ar ddiwedd gwasanaeth Cristnogol, gofyn bendith cyn bwyta, neu’r hyn a ddywed rhai pobl ar ôl i chi disian?! Yn y Beibl mae’n air sy’n codi’n aml oherwydd ei fod yn disgrifio’r cyflwr o les a daioni a ddaw i bobl trwy haelioni’r Arglwydd Dduw. Y gwrthwyneb i fendith yw melltith ac fe roddir rhybuddion cyson trwy’r Hen Destament fod bendith yn dod o gadw at y cyfamod a wnaeth Duw â’i bobl, a melltith yn sgil torri’r cyfamod a throi cefn ar y Duw graslon a’u hachubodd. Yn ein darlleniad ar y cyd heddiw, cawn glywed un o’r bendithion Beiblaidd cyfarwydd hynny a gaiff eu hadrodd mewn nifer o wasanaethau Cristnogol arbennig. Boed mewn bedydd, priodas neu wrth neilltuo rhywun i waith arbennig o fewn yr eglwys, adroddir y fendith o Numeri 6 fel arwydd o’n dyhead i weld Duw yn gweithredu er lles ei bobl.

Mae’r weddi hon yr oedd yr offeiriaid i’w dweud yn atgyfnerthu un o wirioneddau mwyaf rhyfeddol yr holl Feibl – fod y Duw sy’n greawdwr â bwriadau daionus ar gyfer ei bobl er nad ydynt yn haeddu dim o hynny oherwydd eu gwrthryfel. Cofiwn mai’r Arglwydd ei hun sy’n gorchymyn Moses i sicrhau fod y fendith hon i gael ei hadrodd, nid pobl yn ceisio gwneud i’w hunain deimlo’n well! Cyfeiria’r fendith mewn termau Iddewig at yr Arglwydd yn gwenu’n garedig ac yn bod yn dda hefo’i bobl (beibl.net). Sonnir am amddiffyn a Duw yn dangos trugaredd gan roi heddwch a threfn i’w greadigaeth. Wrth i ni glywed y geiriau hyn dylem sylweddoli sut y mae bendith Duw wedi dod atom ni yn ei Fab, Iesu Grist. Felly os ydym am ystyried ydw i yn cael fy mendithio gan Dduw, rhaid gofyn i ddechrau, ydw i wedi rhoi fy ffydd yn Iesu Grist? Os ydym, mae geiriau Iesu ei hun yn dweud ein bod wedi’n bendithio’n fawr, neu’n wyn ein byd hyd yn oed os cawn ein herlid a’n sarhau. (Mathew 5:11) Diolchwn i Dduw am ei holl ddaioni tuag atom, a gofynnwn am gymorth ei Ysbryd i fwynhau’r cyfan o’i fendithion sy’n eiddo i ni yng Nghrist.

Rhodri

Llais Bro Aled 23.07.17 (PDF)

Llais Bro Aled 23.07.17 (Word)

 

Dydd Sul, 16 Gorffennaf 2017

Darlleniad y Dydd: 1 Corinthiaid 13: 4-7 (BCND:tud.191/ tud.174)

‘Molwch yr Arglwydd. Da yw canu mawl i’n Duw ni, oherwydd hyfryd a gweddus yw mawl.’ Dyna’r ffordd y mae’r Salmydd yn dechrau Salm 147 ac maent yn eiriau i’n hannog ninnau hefyd i roi clod i Dduw gyda’n gilydd yn ein hoedfaon heddiw. Meddyliwch am y peth – mae rhoi mawl i’r Arglwydd ardderchog yn gwbl addas oherwydd mai dyna mae’r Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân yn ei haeddu. Diolchwn fod Duw yn ein cynorthwyo yn ein gwendid a gweddïwn ar i’r Ysbryd Glân weithio ynom i’n harwain i foli’r Arglwydd â’n holl galon.

Dwi am fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb ohonoch fu’n rhan o Ddiwrnod Gweddi Bro Aled ddydd Mercher. Cawsom amser hyfryd yn ceisio Duw gyda’n gilydd gan gyflwyno’n hardal a’n gwlad i Dduw. Hyd yn oed os na fu hi’n bosib i chi ddod atom, diolch am y ceisiadau gweddi ac am eich gweddïau o bell! Bu’n fendith fawr myfyrio ar wahanol rannau o’r Beibl a chael cyflwyno’n deisyfiadau i Dduw yn yr hyder y gall Ef wneud llawer mwy na’r hyn yr ydym yn ei ofyn neu hyd yn oed yn ei ddychmygu! (Effesiaid 3:20)

Rydym am ddiolch hefyd fod Sarah wedi dychwelyd yn ddiogel o Ethiopia ers ychydig o wythnosau, a chawn gyfle i gael clywed ychydig am ei thaith a gwaith gwych Tearfund yn Ethiopia yn oedfa’r fro heno lle y byddwn hefyd yn croesawu Rhun Murphy atom i bregethu. Cofiwch fod croeso cynnes i bawb ohonoch fel arfer.

Dwi’n siŵr fod darlleniad y dydd heddiw’n un cyfarwydd i’r rhan fwyaf ohonom oherwydd y disgrifiad cofiadwy a gawn ynddo. Ond rhaid i ni beidio bod yn sentimental a’i weld fel llenyddiaeth gelfydd yn unig. Mae Paul yn darlunio cariad yn y ffordd hon er mwyn atgoffa Cristnogion Corinth: dyma’r hyn sydd i fod yn amlwg yn eich plith chi! Nid doniau ysbrydol a galluoedd ddylai gyfrif fwyaf ymhlith pobl Dduw ond cariad. Cofiwn nad teimlad anwadal yw cariad yn y Beibl ond gweithredu er daioni eraill fel y gwelwyd ar ei fwyaf clir ym marwolaeth Iesu Grist dros bechaduriaid. Felly wrth i ni ddarllen y portread hwn o natur cariad, nid yw’n syndod y cawn ein hatgoffa o gymeriad Iesu – yr un sy’n amyneddgar, yn gymwynasgar, ac yn cydlawenhau â’r gwirionedd. Ac os awn ymlaen i fesur ein bywydau ein hunain yn erbyn disgrifiad Paul o gariad byddwn yn sicr o syrthio’n brin. Er hyn, cyfleu’r cariad y mae’r Cristion wedi ei dderbyn eisoes trwy ei berthynas ag Iesu Grist y mae Paul ac felly ni ddylem anobeithio. Ar sail y cariad dwyfol hwnnw, ac yng ngrym yr Ysbryd a ddaeth i ni yng Nghrist yr ydym i ymdrechu i garu’n gilydd trwy’r amser. ‘Yr ydym ni’n caru, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.’ (1 Ioan 4:19).

Rhodri

Llais Bro Aled 16.07.17 (PDF)

Llais Bro Aled 16.07.17 (Word)

Dydd Sul, 9 Gorffennaf 2017

Darlleniad y Dydd: Hosea 14:1-4 (BCND:tud.826/ tud.752)

Bore da a chroeso unwaith eto i’r gwasanaethau ar draws y Fro. Dewch i ni ddod at ein gilydd i gydaddoli a rhoi ein hunain o dan awdurdod Gair Duw heddiw. Gweddïwn y byddwn fel unigolion yn dod i nabod yr Iesu yn well.  Pwy bynnag ydym ni, beth bynnag sydd wedi digwydd yn ein hwythnos, dewch i ni ddod heddiw a rhoi ein hunain o flaen yr Hollalluog.

Wrth edrych ar ein darlleniad heddiw, gallwn weld agwedd debyg trwy alwad Hosea i bobl Israel. Roedd pobl Israel yn y cyfnod yma yn bobl oedd, i raddau helaeth, wedi cefnu ar yr Arglwydd.  Roeddent yn addoli duwiau wedi’u gwneud o aur, arian a phren, ac yn cael eu harwain gan frenin oedd yn eu tynnu oddi wrth Dduw a thuag at ffug-dduwiau eraill.  Arweiniodd hyn at ddirywiad o ddiwylliant Iddewig wrth i bobl Israel fynd ymhellach i mewn i afael pechod ac ildio i bob math o bechodau.

Rŵan, nid i ddweud bod ein bywydau ni yn y fath stad â hyn, ond allwn ni uniaethu gydag Israel yn y sefyllfa yma? Yn ein bywydau ni, ydym ni wedi troi oddi wrth Dduw ac wedi cael ein harwain oddi wrth y gwirionedd?  Neu hyd yn oed, fel mae’n hawdd gwneud ar ddiwrnodau hir o haf (os ydy’r silwair i gyd i mewn), ydym ni’n llithro i ffwrdd heb sylweddoli?  Os ydym, mae neges Hosea i ni.

Ynghanol hyn i gyd, wrth i bethau fynd o ddrwg i waeth i’r wlad, mae Duw yn cynnig ffordd yn ôl. Mae’n cynnig maddeuant i’w bobl.  Mae Hosea yn y fan yma yn trosglwyddo galwad Duw i’w bobl a gofyn iddyn nhw edifarhau: “Tro yn ôl ato, a dweud “Maddau’n llwyr i ni…” (Hosea 14:2).  Ein drygioni ni sy’n achosi i ni syrthio oddi wrth Dduw, ond eto mae Duw yn cynnig ein codi.  Fel Israel yn troi at Asyria, er ein bod ni’n trio pob peth arall i wella’n sefyllfa, mae Duw yn cynnig Ei law i’n codi.  Er ein bod ni eisiau brifo pobl eraill, neu achosi iddyn nhw syrthio weithiau, mae Duw eisiau i ni droi yn ôl ato fo.

Mae’r Arglwydd yn Dduw sy’n llawn o gariad ac sy’n sicr o faddau i ni, beth bynnag yw ein sefyllfa. Dim ots pa mor hir ryda ni wedi bod yn cysgu, neu osgoi mynd i’r capel, neu gwrdd gweddi, mae Duw yn ein gwella o’n gwrthgiliad ac yn ein caru ni’n ddiamod! (Hosea 14:4)  Pa mor anhygoel ydy’r newyddion yma: 38 Dw i’n hollol sicr fod dim byd yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth ei gariad e.  Dydy marwolaeth ddim yn gallu, na’r un profiad gawn ni mewn bywyd chwaith.  Dydy angylion ddim yn gallu, na phwerau ysbrydol drwg.  Dim byd yn y presennol nac yn y dyfodol.  39 Dim byd ym mhellteroedd eitha’r gofod nac yn nyfnderoedd y ddaear!  Na, does dim yn y bydysawd yma greodd Duw yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yn ein Harglwydd ni, y Meseia Iesu!  (Rhufeiniaid 8:38-39)

Gwion

Llais Bro Aled 09.07.17 (PDF)

Llais Bro Aled 09.07.17 (Word)