Dydd Sul, 27 Mai 2018

Darlleniad y Dydd:  2 Timotheus 4:16-18 (BCND:tud.236/ tud.216)

Croeso cynnes i bawb ohonoch i oedfaon olaf mis Mai. Gweddïwn y byddwn unwaith yn rhagor yn sylweddoli mawredd ein Duw sy’n Dad, Mab ac Ysbryd Glân gan brofi o’i gynhaliaeth a’i arweiniad ar gychwyn wythnos arall. Cofiwn Salm 96:4 Beibl.net – ‘Mae’r ARGLWYDD yn Dduw mawr ac yn haeddu ei foli!’

Fel y mae nifer ohonoch wedi clywed dwi’n siŵr, byddwn yn gweld cryn newid o fis Medi ymlaen wrth i dymor Gwion fel Cynorthwy-ydd Gweinidogaethol ddod i ben. Bwriad Gwion yw cychwyn ar gwrs hyfforddiant dysgu ym Mangor a dymunwn fendith Duw arno ef a Sarah dros y misoedd nesaf, a byddwn yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio a chyd-addoli gyda hwy yma ym Mro Aled. Rydw i, Mair, a ninnau fel Bro gyfan yn eithriadol o werthfawrogol i Gwion am y cyfan y mae wedi ei wneud yn ein plith dros y tair blynedd ddiwethaf. Mae ei gefnogaeth a’i gyfraniad at ein gweinidogaeth fel tîm wedi bod yn amhrisiadwy, a byddwn yn naturiol yn gweld colli ei faich dros rannu’r Efengyl hefo pobl o bob oed, ei hiwmor a’i gyfeillgarwch cynnes, a’i ffyddlondeb wrth ddod â Gair Duw yn fyw i ni mewn cyd-destunau gwahanol. Cawn gyfle i ddiolch fel gofalaeth i Gwion am ei lafur ar ddiwedd mis Gorffennaf a cheir mwy o fanylion am hynny maes o law.

Oherwydd y newid anorfod i’r tîm gweinidogaethol, byddwn fel blaenoriaid a diaconiaid y Fro yn trafod ac yn gweddïo ynglŷn â’r ffordd orau i weinidogaethu i’r dyfodol gan geisio arweiniad yr Arglwydd yn hyn i gyd. Fel mewn cymaint o agweddau o’n bywyd, mae’n debyg y bydd newidiadau sylweddol yn dod i’n rhan fel eglwysi yn y blynyddoedd nesaf, ond nid oes angen ofni’r newidiadau hyn gan y gallwn ddibynnu ar Dduw sy’n ffyddlon trwy’r cyfan. Yn ein darlleniad ar y cyd o Ail Lythyr Timotheus, mae’r Apostol Paul yn anfon cyfarchion personol at gyfeillion wrth weld y diwedd yn dod yn fuan (4:6). Ond sylwch beth yw ei bwyslais: mae Duw wedi sefyll gyda mi yn y gorffennol gan fy nerthu (ad. 17), a bydd yn fy ngwaredu eto gan fy nwyn ‘yn ddiogel i’w deyrnas nefol’ (ad. 18). Oherwydd ei brofiad o gynhaliaeth a nerth Duw yn ei alluogi i rannu’r newyddion da am Iesu i’r holl Genhedloedd, mae Paul yn hyderus i’r dyfodol na fyddai ei Waredwr yn ei siomi er gwaetha’r ffaith iddo fod o flaen ei well (ad. 16) a’i fod yn ysgrifennu o’r carchar.

Ac fel Paul, rydym ni ym Mro Aled am wynebu’r dyfodol trwy ymddiried yng ngallu Duw, a chan barhau i gyhoeddi Efengyl ein Gwaredwr sef y ‘ffordd rymus mae Duw’n gweithio i achub pawb sy’n credu.’ (Rhufeiniaid 1:16 Beibl.net) Disgwyliwn mewn ffydd i weld beth fydd y camau nesaf gan lawenhau fod gan bawb sydd wedi ymateb i alwad Crist etifeddiaeth dragwyddol. (Hebreaid 9:15)

Rhodri

Llais Bro Aled 27.05.18

Dydd Sul, 20 Mai 2018

Darlleniad y Dydd:  Salm 117 (BCND:tud.559/ tud.510)

Dewch i ni gymryd munud i roi gweddi o foliant i’r Arglwydd heddiw cyn mynd ymlaen gyda’n bywydau. Dewch i ni ystyried mawredd Duw a’r ffaith ei fod wedi dod yn berson o gig a gwaed a marw ar groes yn ein lle ni.

Mae darlleniad heddiw yn troi ein meddyliau at fawl. “Molwch yr Arglwydd, chi genhedloedd i gyd! Canwch fawl iddo, holl bobloedd y byd!” (Salm 117:1). Pa mor aml ydym ni wir yn addoli? Wrth i ni ganu emynau neu gytganau, tybed sawl gwaith mae ein meddyliau ni’n mynd i rywle arall: Sut mae fy llais yn swnio?  Ydw i mewn tiwn? Pam fod yr organydd wedi dewis tôn anghyfarwydd? Pam bod ni’n ei chanu hi mor araf neu mor gyflym? Beth mae’r gair yna’n ei olygu? Beth sydd i ginio? Mae yna lwyth o feddyliau gwahanol yn mynd a dod wrth i ni ganu emynau yn does? Felly, pa mor aml ydym ni wir yn addoli? Rŵan, efallai fod rhai o’n meddyliau / cwestiynau ni yn ddilys – nid pob emyn sy’n ddealladwy erbyn heddiw, efallai fod angen esbonio’r geiriau ychydig yn well cyn eu canu nhw – ond mae’n rhaid i ni gael ychydig o ddisgyblaeth wrth addoli. Mae emynau a chytganau, ynghyd â’u cyfeiliant weithiau, yn gallu cyfleu pethau na allem ni ei wneud ein hunain.

Dwi’n hoff iawn o eiriau’r gytgan “Tyrd, dyma dy gyfle i foli… tyrd, tyrd fel yr wyt i foli”. Mae moliant yn fraint i ni! Mae addoli Duw yn rhywbeth rhyfeddol i ni fanteisio arno ar bob cyfle. Sylwch o Salm 117:2 pam fod y bobl yn moli Duw: “Mae ei gariad aton ni mor fawr! Mae’r Arglwydd bob amser yn ffyddlon.” Nid addoliad di-reswm neu ryw ewfforia ysbrydol ydy hwn, ond mawl wedi ei ganoli ar ba mor rhyfeddol ydy ein Duw. Mor garedig a thrugarog ydy o tuag atom ni sy’n troi ein cefnau arno. Mor bwerus ydy ei gariad tuag atom ni, fel llifddwr bwerus yn llifo i mewn i bob rhan o’n bywydau pan da ni’n troi ato mewn gweddi ac edifeirwch. Dyma’r Duw sydd wedi addo bod achubiaeth yn dod i bobl y byd a ninnau rŵan yn medru tystiolaethu fod hynny’n wir!

Efo’r gwirioneddau hyn mewn cof, sut allwn ni gyfyngu ein mawl i ddydd Sul yn unig? Mae Rhufeiniaid 12 yn dweud mai’r ymateb briodol i drugaredd a chariad yr Arglwydd ydy i ni roi ein hunain fel aberth byw, hynny ydy, fod ein bywyd cyfan yn addoliad iddo. Dewch i ni fynd heddiw yn cyhoeddi ac yn byw fel mae’r Salm yn gorffen: Haleliwia, yn llythrennol molwch yr Arglwydd yn llawen.

Gwion

Llais Bro Aled 20.05.18

Dydd Sul, 13 Mai 2018

Darlleniad y Dydd:  Jwdas 24-25 (BCND:tud.270/ tud.248)

Croeso cynnes i chi i’n hoedfaon ar draws Bro Aled a hithau’n Sul Cymorth Cristnogol. Wrth feddwl am anghenion pobl mewn gwahanol rannau o’r byd, diolchwn nad yw ffiniau gwleidyddol yn atal gwaith Duw, a gweddïwn ar i drugaredd yr Arglwydd gael ei amlygu trwy waith Ei eglwys fyd-eang a’r elusennau sy’n ceisio cynorthwyo’r rhai sydd mewn angen.

Dros yr wythnos nesaf byddaf yn treulio ychydig o amser gyda Christnogion o America sydd wedi bod yn ymweld yn gyson â Chymru i gynorthwyo ac annog rhai o’r arweinwyr eglwysig Cymraeg. Mae’n braf iawn cael sgwrsio â hwy a gallu holi cwestiynau am yr hyn sy’n digwydd yn eu rhan hwy o’r byd, ond yn sydyn iawn mae’r gwahaniaethau digri rhwng Cymry Cymraeg ag Americanwyr yn codi eu pen. Oni bai am y gwahaniaeth ieithyddol amlwg, a’r acenion tra gwahanol wrth i ni siarad Saesneg, un nodwedd sy’n anodd ei anwybyddu yw’n tueddiadau gwahanol pan mae hi’n dod at annog a chanmol ein gilydd. Fel Cymry rydym ni’n tueddu i fod yn hynod o swil pan mae rhywun yn gor-ganmol, a braidd yn anghyfforddus os ydynt yn bod yn rhy gadarnhaol am yr hyn yr ydym yn ei wneud. Ond mae’r Americanwyr (o leiaf y rhai yr ydw i’n yn eu hadnabod!) yn dra gwahanol. Maent yn llawn brwdfrydedd yn annog heb wrido gan weld posibiliadau yn hytrach na chanolbwyntio ar fethiannau. Heb fynd yn rhy ddwys i mewn i seicoleg trigolion gwledydd y byd, tybed onid yw’n tueddiad ni fel Cymry Cymraeg i geisio osgoi canmoliaeth yn arwain at dlodi yn ein mawl hefyd? O droi at ein darlleniad ar y cyd o ddiwedd llythyr Jwdas gwelwn fawl bendigedig i’r Arglwydd Dduw. Mae Jwdas am ganmol Duw yn helaeth gan fynd i fanylder ynglŷn â’r rhesymau pam y dylid moliannu’r Arglwydd. Ef yw’r un sy’n gallu cadw’r Cristion rhag syrthio, Ef sydd trwy Iesu Grist wedi’n hachub o’r farn gan ddod â’i bobl yn ddi-fai i’w bresenoldeb Ef am dragwyddoldeb! Wrth i ni feddwl am hyn sut ydym ni’n ymateb? Os ydym yn perthyn i Grist trwy ffydd, mae geiriau’r mawl yma yn wirioneddau amdanom yn awr ac am byth, oni ddylem ni ymuno ym mawl Jwdas trwy ddweud “Amen”? Gweddïwn am gymorth yr Ysbryd Glân i’n harwain i foli Duw â’n holl galon, heb dawelu mewn swildod rhag canmol yr Un sy’n haeddu pob clod am ein creu, ein caru, a’n cadw trwy ei Fab annwyl.

Fy enaid, bendithia’r Arglwydd, a’r cyfan sydd ynof ei enw sanctaidd.  Fy enaid, bendithia’r Arglwydd, a phaid ag anghofio’i holl ddoniau: ef sy’n maddau fy holl gamweddau, yn iacháu fy holl afiechyd.’ (Salm 103:1-3)

Rhodri

Llais Bro Aled 13.05.18

Dydd Sul, 6 Mai 2018

Darlleniad y Dydd:  2 Brenhinoedd 4:1-7 (BCND:tud.340/ tud.311)

Croeso cynnes iawn i chi unwaith eto i wasanaethau o addoliad ym Mro Aled. Dewch i ni ddod at ein gilydd yn ein capeli ac yn Oedfa’r Fro i addoli Duw’r Goruchaf. Dewch i ni heddiw roi enw Iesu Grist uwchben pob enw arall. Gweddïwn heddiw y bydd Duw yn ei ras yn ein tynnu ni’n agos ato fo, ac yn aeddfedu ein ffydd.

Ydach chi wedi gweld Oliver y sioe gerdd? Dwi ddim y ffan mwyaf o sioeau. Dydw i erioed wedi gallu deall sut mae pawb yn y stori yn gallu cofio geiriau’r caneuon a’r symudiadau. Beth bynnag am hynny. Mae ’na ran enwog o’r stori ble mae Oliver – ar ôl gorffen bwyta – yn mentro cropian at y cogydd a gofyn am ragor o fwyd. Yr ateb ydy’r ymateb cynddeiriog “MORE?!

Tybed ai dyna sut ydan ni’n teimlo wrth weddïo weithiau? Da ni’n teimlo ein bod wedi cael rhyw ychydig gan Dduw ac yn awchu i gael mwy, ond fod gofyn yn codi ofn arnom ni. Neu efallai ein bod yn teimlo ein bod wedi cael cymaint yn barod, nad oes gennym hawl i ofyn am fwy. Neu efallai ein bod wedi colli golwg ar fawredd Duw a beth allai ei roi i ni.

Dewch i ni edrych ar sut oedd Duw yn gweithio ym mywyd un wraig weddw rhyw dair mil o flynyddoedd yn ôl (2 Brenhinoedd 4:1-7). Mae’r ddynes mewn cryn dipyn o drafferth. Mae newydd golli ei gŵr, a rŵan mae’n ymddangos ei fod wedi gadael dyled sylweddol iddi hi. Fel tâl, mae’r benthyciwr am gymryd ei meibion fel gweision i dalu’r ddyled. Mae’r ddynes yn mynd at Eliseus, proffwyd adnabyddus yr oedd Duw yn gwneud rhyfeddodau trwyddo.

Mae Duw yn ateb angen y ddynes yma trwy yn gyntaf ddangos iddi ei hangen – cyn lleied o olew a llestri oedd ganddi. Tybed, yn ei sefyllfa hi, fase ni wedi teimlo’n annigonol i ofyn am gymorth gan Dduw? Neu hyd yn oed gredu fod o ddim yn talu sylw i’n problemau ni, neu heb y gallu i newid y sefyllfa? Faint o weithiau ydan ni wedi ceisio gwella sefyllfa yn gyntaf cyn gweddïo drosti hi? Fe allwn ni bwyso ar Dduw am bob dim. Does dim byd yn rhy fach, mawr, pwysig na dibwys i Dduw. Mae o’n ein caru ni. “Mae’n gwneud llawer iawn mwy na dim y bydden ni’n mentro gofyn amdano na hyd yn oed yn gallu ei ddychmygu!” (Effesiaid 3:21).

Wrth ofyn gan Dduw, rhaid i ni wneud fel roedd Eliseus yn cynghori yn adnod 3: “Dos i fenthyg llestri gan dy gymdogion. Byddi angen casglu cymaint ag y medri o lestri gweigion”. Nid casglu ychydig bach, ond casglu cymaint â phosib. Wrth ofyn yn hy i Dduw, roedd y fendith a gafwyd hefyd yn fawr.

Gwion

Llais Bro Aled 06.05.18

Dydd Sul, 29 Ebrill 2018

Darlleniad y Dydd:  Ioan 20:30-31 (BCND:tud.127/ tud.116)

Croeso cynnes i bawb ohonoch i oedfaon Sul olaf mis Ebrill. Cofiwch na fydd Oedfa’r Fro heno yn Llansannan ond yn hytrach yng Nghefn Berain, a bydd croeso i unrhyw un sydd am ymuno hefo ni. Lle bynnag y byddwn yn addoli Duw heddiw, gweddïwn am arweiniad yr Ysbryd Glân i’n tywys at Grist fel y gallwn fel y salmydd ymbil – ‘Arglwydd, adfywia fi yn ôl dy air.’ (Salm 119:107)

Un o’r cwestiynau yr ydw i’n cofio eu gofyn yn aml i’m rhieni pan oeddwn i’n blentyn oedd ‘pam’? Fel un oedd ddim yn tueddu i dderbyn yr ateb cyntaf i gwestiynau, gallaf ddychmygu fy mod wedi achosi rhwystredigaeth i dad a mam lawer gwaith! Ond fel oedolion, rydym yn sylweddoli mai trwy ofyn pam y mae plant o bob oed yn dod i ddeall mwy am y byd o’u cwmpas. Mae’r cwestiwn pam yn codi’n aml wrth i ni ddod at y Beibl – gan awduron yr amrywiol lyfrau a’r darllenwyr. Ac os ydych erioed wedi gofyn y cwestiwn pam fod hyn a hyn wedi cael ei gynnwys, mae un awdur dynol wedi rhoi ateb i ni. Wrth i ni droi at ein darlleniad ar y cyd heddiw, gwelwn fod Ioan yn dweud yn blaen tua diwedd ei Efengyl pam y mae wedi mynd i’r fath drafferth i gofnodi’r hanesion am fywyd a gweinidogaeth Iesu o Nasareth. Mae’n pwysleisio fod llawer mwy y gallai fod wedi ei gynnwys wrth ysgrifennu, ond dewisodd yr hyn sydd gennym yn ein Testament Newydd i bwrpas penodol. Nid yw’n cyflwyno Iesu i’w ddarllenwyr gan ei fod yn ddyn diddorol yn unig, er bod y diddordeb ynddo yn parhau filoedd o flynyddoedd wedi iddo droedio ar y ddaear. Na, prif bwrpas Ioan oedd cofnodi’r arwyddion pwysig am Iesu fel Duw a dyn er mwyn i’w ddarllenwyr (ym mhob oes) gael bywyd trwy gredu ynddo. (Ioan 20:31) Ac wrth gwrs mae Ioan hefyd wedi egluro fod y bywyd hwn yn berthynas fywiol a chariadus lle mae’r crediniwr yn adnabod Iesu drosto’i hun. (Ioan 17:3)

Fyddwch chi’n ystyried hynny wrth ddarllen eich Beibl? Ydych chi’n gweddïo cyn mynd i wasanaeth yn y capel y bydd Duw yn siarad yn uniongyrchol i mewn i’ch bywydau wrth i chi wrando ar Air Duw yn cael ei ddarllen a’i bregethu? Oherwydd dyna’r darlun o fywyd i’r Cristion a gawn yn y Beibl. Gan fod Crist wedi codi o’r bedd, mae’n fyw yn awr, ac yn galw pobl o bob math i ddod ato, i ymddiried ynddo, a thrwy hynny i dderbyn maddeuant pechodau a bywyd newydd na fydd diwedd arno.

Beth am i ni gymryd Ioan ar ei air felly, a mynd ati i ddarllen trwy Efengyl Ioan gan holi’n hunain, ydw i wir yn credu mai Iesu yw’r Meseia, Mab Duw? Ac ydw i wedi ymddiried ynddo o ddifri trwy ildio fy hun iddo a throi cefn ar fy hen fywyd hunan-ganolog?

Rhodri

Llais Bro Aled 29.04.18

Dydd Sul, 22 Ebrill 2018

Darlleniad y Dydd:  Eseciel 12:1-7 (BCND:tud.760/ tud.692)

Croeso cynnes i chi i’n hoedfaon heddiw. Dwi ar hyn o bryd (prynhawn dydd Iau) yn rhyfeddu at y tywydd hafaidd yr ydym yn ei fwynhau (ymddiheuriadau mawr os ydych yn darllen hwn ar ddydd Sul a hithau’n oer a glawog eto!) O’r diwedd mae’r gwanwyn wedi cyrraedd – ond beth fydd hynny’n ei olygu i chi? Llawenydd o allu edrych ymlaen at adael y sied wyna, neu obaith o bosib y gallwch fynd am dro braf heb gap a menyg?! Arwydd clir fod pethau’n newid o ran y tymhorau yw’r anifeiliaid sy’n dangos eu pennau fel gwenoliaid neu’r gôg. A phryd oedd y tro diwethaf i chi glywed sŵn unigryw’r gwcw? Mae tipyn o flynyddoedd ers i mi ei chlywed ddiwethaf, ond mae hynny’n dweud mwy amdanaf i na’r gôg! Dwi ddim wedi clywed y gôg, gan nad ydw i wedi bod yn gwrando, nac yn treulio cymaint â hynny o amser allan yn yr awyr agored!

Mae’r Beibl yn ein rhybuddio yn aml fod methu clywed a deall yr hyn a ddywed Duw yn broblem gyffredin ymysg pobl. Nos Fercher daethom i ddiwedd y gyfres o gyfarfodydd Dal i Gredu a gynhaliwyd yng Nghefn Meiriadog ac yn y sesiwn olaf roeddem yn ystyried sut yr oedd y disgyblion yn meddwl am Iesu yn ôl Efengyl Marc. Dyma’r bobl oedd wedi cael y seddi gorau i weld awdurdod Mab Duw wrth i Iesu ddysgu, iacháu a maddau pechod. Ond er y fraint aruthrol yma, llwyddodd y disgyblion i gam-ddeall, i fethu gweld yn glir pwy oedd Iesu a pham yr oedd wedi dod atynt. Yn Marc 8:18 mae Iesu yn troi atynt ac yn gofyn iddynt: ‘A llygaid gennych, onid ydych yn gweld, ac a chlustiau gennych, onid ydych yn clywed?’ Er eu bod yn tybio eu bod yn deall ac yn gweld yn gywir pwy oedd Iesu, nid felly yr oedd. Cyhuddiad ddigon tebyg a welwn yn ein darlleniad o Eseciel 12 heddiw hefyd. Pobl Dduw sydd ar fai gan eu bod yn wrthryfelgar ac oherwydd hynny’n methu gweld, clywed na deall neges Duw am eu cyflwr. Dyna pam mae Eseciel yn dangos iddynt trwy ddarn o ddrama gyhoeddus fod tro ar fyd. Mae’n pacio’i fagiau fel petai’n mynd ar daith bell ac yn cloddio trwy wal y ddinas i arwyddo’r ffaith y byddai pobl Dduw yn cael eu cipio o’u tir gan y gelyn.

Er y rhybudd a ddaeth i bobl trwy Eseciel, roedd gobaith hefyd – fod Duw am weithredu i achub ei bobl. Ac mae’n gwneud hynny trwy Fab Dafydd, y Bugail da roddodd ei fywyd dros y defaid – ‘Byddaf yn gosod arnynt un bugail, fy ngwas Dafydd, a bydd ef yn gofalu amdanynt; ef fydd yn gofalu amdanynt ac ef fydd eu bugail.’ (Eseciel 34:23) Gweddïwn heddiw am i’r Ysbryd Glân roi llygaid ffydd i ni edrych ar Iesu, a chlustiau parod i wrando ac ufuddhau i’r Un sy’n ein galw ato’i hun.

Rhodri

Llais Bro Aled 22.04.18

Dydd Sul, 15 Ebrill 2018

Darlleniad y Dydd:  Hebreaid 13:1-6 (BCND:tud.250 / tud.229)

Bore da i chi gyd a chroeso i’r oedfaon ar draws Bro Aled. Dewch i ni weddïo efo’n gilydd heddiw am bresenoldeb Arglwydd y Nefoedd yn ein bywydau. Dewch i ni hefyd groesawu’r Ysbryd Glân, sy’n rhoi bywyd a nerth i mewn i’n gwasanaethau ni heddiw.

Pwy ydy Duw i chi? Beth ydy rôl Duw yn eich bywyd chi? Mae nifer o ddarluniau gwahanol allem bwyso arnyn nhw i ddisgrifio ein perthynas efo Duw. Efallai ein bod yn meddwl ei fod fel heddwas neu farnwr – mae’n bell, amhersonol ac yn ceisio ein dal allan. Dydy Duw ddim ond yn ymddangos yn ein bywydau pan da ni’n gwneud rhywbeth o’i le, a hyd yn oed bryd hynny, dim ond yna i farnu neu gosbi mae o. Neu tybed ydy Duw fel ‘lifeguard’ yn ein bywydau. Da chi’n gwybod, mae o ar yr ochrau yn ein gwylio ac yn neidio i mewn i’n hachub pan da ni mewn trwbl. Pan mae pethau’n mynd yn ormod yn ein bywydau, dyna pryd da ni’n troi at Dduw gan wybod, neu hyd yn oed ddisgwyl ei fod yn gallu ein hachub.

Dewch i ni edrych ar berthynas y Salmydd gyda’r Arglwydd. “Y mae’r ARGLWYDD o’m tu, nid ofnaf; beth a wna pobl i mi?” Mae’r Arglwydd o’n plaid ni. Mae o ar ein hochr ni, ac yn helpu. I’r rhai sy’n trystio yn yr Arglwydd, mae o yna. Mae adnodau 8 a 9 o Salm 118 yn cynnig bod lloches i’w gael yn Nuw. Mae’r lloches allem ei gael yn Nuw yn fwy saff ac yn fwy dibynadwy nag allwn ei gael yn unman arall. Ym mhob sefyllfa mewn bywyd, mae Duw yna i’n cynnal ac yn brwydro o’n plaid: “Roedden nhw’n gwasgu arna i’n galed, a bu bron i mi syrthio; ond dyma’r ARGLWYDD yn fy helpu.” (Salm 118:13)

Dyna’r sicrwydd mae’r Arglwydd yn ei roi. Does dim rhaid i ni ofni, ond beth am berthynas? Mae Salm 118 yn mynegi cymaint o emosiynau a phrofiadau gwahanol, ond beth sy’n gyffredin yn y rhain i gyd ydy presenoldeb Duw a dibyniaeth y Salmydd ar Dduw yn y sefyllfaoedd gwahanol yma. “Yr Arglwydd sy’n rhoi nerth a chân i mi.” (Salm 118:14) Tybed ydym ni’n ystyried Duw fel yr un sy’n rhoi’r nerth i ni wynebu’r dydd, neu fel yr un sy’n rhoi gwir lawenydd i ni? Neu ydym ni’n sylweddoli ei fod o hyd yn oed yn gallu rhoi’r pethau yna i ni yn y lle cyntaf?

Pam na wnawn ni heddiw gymryd y cyfle i wneud ymchwil i fewn i pwy ydy Duw a sut gymeriad sydd ganddo? Tybed pa fath o Dduw wnawn ni ei ddarganfod wrth ddarllen amdano?

Gwion

Llais Bro Aled 15.04.18

Dydd Sul, 8 Ebrill 2018

Darlleniad y Dydd:  Nehemeia 1:8-11 (BCND:tud.437 / tud.400)

Bore da iawn i bawb a diolch i Rhodri am y gwahoddiad i sgwennu Llais Bro Aled heddiw am y tro cyntaf ers sbel! Dwn i ddim yn iawn ble i ddechrau – does yna gymaint wedi digwydd ac amgylchiadau a phrofiadau newydd i’w rhannu. Y lle gorau i ddechrau siŵr o fod ydi trwy ddiolch – diolch i Dduw am ei faith amynedd a’i ofal ac am y fraint o gael bod yn rhan o’i Eglwys. Mewn ffydd credwn fod yna fendith newydd i ni bob tro y byddwn yn diolch iddo, a’r fendith o gael adnabod ‘grym ei atgyfodiad’ wrth i ni wynebu bob dydd yn ei gwmni.

Mae’r plantos wedi llenwi ein byd yma ers yr ymddeoliad fel y gallwch ddychmygu! Hen dro na fuaswn i mor hirben wrth fagu ein plant ag yr ydw i rŵan wrth warchod ein wyresau, ond peth mawr ydi profiad. Diolch fyddwn ni amdanyn nhw ac wrth wneud hynny, diolch am ofal holl deuluoedd y Fro dros y plant a gweddïo bendith Duw ar bob un.

Does gan Dduw ddim wyrion na wyresau. Mae yn geni plant o’r newydd trwy’r Ysbryd ac yn rhoi ‘Abba, Dad’ yn eu calonnau ac yn eu genau. Rwy’n cofio mynd i Mizoram yn 1994 a dweud wrth y genhedlaeth newydd o Gristnogion yno nad oedd y ffaith fod fy nhad yn Genhadwr yn fy ngwneud i yn Gristion a bod yn rhaid i minnau ddod fy hun at Grist a chael fy ngeni o’r newydd yn blentyn iddo. Roedd hynny yn sioc i rai ond yn taro nodyn cywir i eraill.

Ond fe fyddwn yn hoffi meddwl ar yr un pryd fod elfen o ofal taid a nain yn Nuw hefyd yn ogystal â gofal a chariad tad a mam.

Yn y Beibl sylwn fod Duw yn cofio cenedlaethau o bobl a theuluoedd, ac y mae wedi gosod i bob cenhedlaeth ei chyfrifoldeb y naill i’r llall. Yn y gorchymyn syml “anrhydedda dy dad a’th fam” mae pob cenhedlaeth yn cael ei chynnwys a chyfrifoldeb y naill am y llall yn glir.

Yn ôl Ioan (19:26), dyma ddywedodd Iesu wrtho a Mair pan oedd yn cael ei groeshoelio “Mam annwyl, cymer o fel mab i ti,” 27 ac wrth y disgybl, “Gofala amdani hi fel petai’n fam i ti.” Anrhydeddodd ei Dad nefol trwy gadw pob gorchymyn i’r eithaf. Wrth i ninnau geisio anrhydeddu Duw ein Tad nefol mwynhawn bob cyfle i ddangos gofal a chariad y naill genhedlaeth tuag at y llall – hyd yn oed os ydio’n golygu gwylio’r un rhaglen Peppa am y degfed tro!!

Aneurin

Llais Bro Aled 08.04.18

Dydd Sul, 1 Ebrill 2018

Darlleniad y Dydd:  Mathew 28:1-7 (BCND:tud.36 / tud.33)

‘Nid yw ef yma, oherwydd y mae wedi ei gyfodi fel y dywedodd y byddai…’ Dyma’r geiriau chwyldroadol a glywyd ddeuddydd wedi’r croeshoeliad ac sy’n parhau’n sylfaen i ffydd, cysur a gobaith Cristnogion ar hyd a lled y byd. Wrth i ni ddod at ein gilydd dros wasanaethau Pasg 2018 ym Mro Aled, gweddïwn y bydd y Crist byw yn teyrnasu ar bob rhan o’n bywydau. A gofynnwn am gymorth yr Ysbryd i foli mewn rhyfeddod a thrysori’r newydd da fod marw ac atgyfodi Iesu yn golygu fod gennym ‘fuddugoliaeth lwyr trwy’r hwn a’n carodd ni.’ (Rhufeiniaid 8:37)

Wn i ddim os ydych chi’n bobl sy’n tueddu i ddefnyddio dywediadau sydd wedi cael eu gwneud yn boblogaidd gan gymeriadau teledu? Yn y Gymraeg, un o’r rhai mwyaf cyfarwydd yw bloedd rwystredig Mr Picton, rheolwr blin y gyfres C’Mon Midffîld: “ddudish i do!” Mae’r geiriau hyn yn gallu awgrymu amrywiaeth o ymatebion gwahanol yn dibynnu ar y ffordd y maent yn cael eu hyngan. Gallant fod yn llawn hunan gyfiawnder hyll wrth i rywun gael ei brofi’n gywir. Neu ar y llaw arall gallant amlygu digalondid anobeithiol wrth i’r ofnau gwaethaf gael eu gwireddu. Ond gwedd wahanol a welwn ar fore Sul yr atgyfodiad. Does yna neb o’r disgyblion yn dweud “ddudish i do” wrth ei gilydd. Er bod Iesu wedi dysgu droeon y byddai’n rhaid iddo fynd i Jerwsalem i ddioddef ac yna atgyfodi ar y trydydd dydd, mae dilynwyr Crist, yn ddynion a merched, mewn braw. Yr angel sy’n atgoffa’r merched o’r hyn a ddywedodd Crist ynglŷn â’i atgyfodiad, a hynny wrth iddo’u cymell i beidio ofni, ac i fynd a datgan y newyddion da wrth y disgyblion wedi iddynt weld y bedd gwag. (Mathew 28:5-7)

Gallwn gydymdeimlo’n llwyr â dryswch ac ofn y merched yn ystod y darganfyddiad dramatig hwn. Wrth gwrs eu bod mewn penbleth yn ceisio deall beth oedd ystyr y cyfan yr oeddynt wedi’i weld a’i glywed. Ond roedd Iesu wedi bod yn eu paratoi yn barod, fel ag yr oedd gair Duw yn yr holl Ysgrythurau (Luc 24:25-27)

Wrth i ni fyfyrio ar fuddugoliaeth Iesu dros farwolaeth a phechod heddiw, faint ohonom ni’n sy’n crefu am arweiniad Ysbryd Duw i ni allu byw ‘yn ôl beth dŷn ni’n ei gredu, dim yn ôl beth dŷn ni’n ei weld.’? (2 Cor. 5:7 Beibl.net) Gallwn ddweud fod y Beibl yn llusern i’m troed ac yn llewyrch i’m llwybr, ond heb i ni ei ddarllen, ac ymateb i lais y Bugail trwy roi ein hunain iddo, ar goll y byddwn o hyd.

Rhodri

Llais Bro Aled 01.04.18

Dydd Sul, 25 Mawrth 2018

Darlleniad y Dydd:  Ioan 12:14-19 (BCND:tud.116 / tud.106)

Bore da a chroeso i oedfaon ar draws y Fro heddiw ar Sul y Blodau. Heddiw, o bob diwrnod, pam na rown ni amser i fyfyrio ar Iesu fel Brenin buddugoliaethus? Beth am roi yr amser iddo Fo heddiw a rhoi’r parch mae o’n ei haeddu fel Brenin ar ein calonnau?

Sut mae eich cof chi? Nid sôn am gofio beth gawsoch chi i frecwast, neu beth oedd y tywydd ddydd Mawrth diwethaf ydw i, ond am eich cof tymor hir. Ydych chi’n cofio pethau ddysgoch chi yn yr ysgol? Neu tybed pa mor dda fase chi yn chwarae Who Wants To Be a Millionaire? Neu, beth oedd enw’r rhaglen deledu yna efo Cilla Black arni, lle roedd cystadleuwyr yn cael sialens i gofio’r llyfr ffôn?

I ddod at ein darlleniad heddiw, tybed faint ohonom ni oedd yn arfer, neu sy’n dal i ddysgu rhannau o’r Beibl yn gyson? Mae rhoi adnodau ar ein cof yn arferiad sydd braidd wedi mynd allan o ffasiwn yn ddiweddar (os ydy o’n deg dweud mai ffasiwn ydy cofio’r Beibl!). Tybed ydych chi’n berson all ddyfynnu llinellau o Salmau ar ôl cael y linell gyntaf wedi ei rhoi i chi? Neu efallai yn adnabod Salm o’i rhif yn unig! I fynd gam ymhellach, tybed ydy’r rhannau yna o’r Beibl sydd ar eich cof yn rhan o’ch bywyd bob dydd? Hynny ydy, ydych chi’n ffeindio eich hunain mewn sefyllfa anodd, a’ch meddwl yn dod a chi at Salm 23?

Wrth ddarllen trwy’r rhan yma o Ioan, y peth sydd wedi fy nharo i ydy, ymysg y dathlu a’r taflu dail palmwydd a chotiau, mae’r bobl yn cyd-weiddi “Hosanna! Clod iddo!” “Mae’r un sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd wedi’i fendithio’n fawr!”, sef rhan o Salm 118. Maent yn gweld beth sy’n digwydd o’u blaenau, ac mae eu meddyliau yn cael ei arwain yn syth at y Beibl.  Oherwydd eu bod yn ’nabod eu Beibl, mae’r dyrfa yn gallu ’nabod fod y ffaith mai Iesu Grist, y dyn sy’n marchoga ar gefn asyn,  ydy’r “Un sy’n cynrychioli’r Arglwydd”.  Mae nhw’n cysylltu Salm 118 gyda’r broffwydoliaeth o Sechareia 9 oedd yn cyhoeddi fod Brenin Israel yn mynd i ddod atyn nhw ar gefn asyn.

Roedden nhw’n adnabod fod Arglwyddiaeth Iesu yn mynd i ddod â heddwch i’w bywydau nhw ac i’w gwlad nhw. Roedden nhw’n gweld fod dydd ffafr Duw yn dod ym mherson Iesu Grist ac roedden nhw’n dathlu! Yn gweiddi a moli Duw yn llawen. Tybed ydyn ni’n gweld Iesu fel yna heddiw?

Gwion

Llais Bro Aled 25.03.18