Eglwysi Bro Aled

• Y Neges i Philadelffia (Datguddiad 3:7-13) – Aneurin Owen (19.05.2013)

Dydd Sul, 19 Mai 2013
Darlleniad y Dydd:  Barnwyr 2:6-10 (BCND tud.222 / BCN: tud.202)

Mae’r darlleniad heddiw yn un i’n sobri. Hanes sydd yma o’r hyn a ddigwyddodd i Joshua a oedd wedi dilyn Moses fel arweinydd ac a oedd wedi cael dod â’r genedl i mewn i wlad yr addewid. Roedd Duw wedi ei lwyddo trwy fuddugoliaethau mawr a bach. Ond mae’r Gair yn dweud fod y genhedlaeth wedyn yn codi “nad oedd yn adnabod yr Arglwydd na chwaith yn gwybod am yr hyn a wnaeth dros Israel.” (2:10)

Meddyliwch am y gwahaniaeth rhwng y ddwy genhedlaeth! Un yn profi Duw ar waith ac yn ei adnabod, a’r llall mor ddieithr i’r cyfan – cenhedlaeth heb wybod am yr hyn y mae Duw wedi ei wneud trosti – heb wybod fod Crist wedi marw drosti na’i fod yn Waredwr iddi! Onid dyna faich trwm ein tristwch ni dros ein cenhedlaeth ninnau?

Ond wedyn, wedi meddwl, onid ar genhedlaeth debyg y syrthiodd yr Ysbryd ar ddydd y Pentecost? Cenhedlaeth a oedd heb adnabod Duw yng Nghrist. Mae’n rhaid i ni barhau i ryfeddu at yr hyn a ddigwyddodd dan allu’r Ysbryd, dod â’r rhai a oedd wedi croeshoelio Crist i gredu ynddo a chael eu bedyddio yn ei enw!

Wrth i ni ystyried ein cenhedlaeth ni a’r pellter sydd rhyngom yn ein hadnabyddiaeth o Dduw a’r hyn y mae wedi ei wneud trosom, cofiwn mai gwaith yr Ysbryd ym mhob man trwy hanes yw agor calonnau pobl a’u dwyn i adnabod mawredd Crist a’i waith ‘trosom ni’.

Mae’r Ysbryd wrthi’n gwneud hyn ar raddfa eithriadol yng Nghwmbran ar hyn o bryd. Cafodd 60 eu bedyddio yn enw Iesu Grist yno’r dydd o’r blaen! Ac yma ym Mro Aled daeth ag amryw o sawl cenhedlaeth a fu ymhell yn agos, trwy waed Crist, i adnabod Duw yn Dad (Effesiaid 2). Rhyfeddol yw gwaith Ysbryd Duw!

Clywsom am hyn gan Gwawr nos Sul o’i phrofiad personol. Diolch i Gwawr am arwain yr oedfa, am rannu ei phrofiad o ddod i adnabod Crist a’i ogoniant ac am ei gweddi hyfryd dros ei chenhedlaeth a’i chyfoedion, a thros Rhodri a Gwenno.

Llawenhawn yn yr Arglwydd ar drothwy eu bywyd priodasol ynghyd ag am yr undod rhwng y ddau, a’u teuluoedd, sydd mor ffyddlon yn eu cariad tuag at eu Harglwydd. Dyma dystiolaeth arall i ddaioni’r Gwaredwr – fod gennym gymaint o deuluoedd sy’n tystio i gariad Iesu ac am weld pawb yn ei gofleidio’n Waredwr. Diolchwn ac addolwn ein Duw a dymunwn fendith helaeth arnynt yn eu bywyd ynghyd. Edrychwn ymlaen hefyd at gael eu croesawu’n ôl i’w cartref newydd yn Heulfryn a bydded tangnefedd Duw iddynt ar eu haelwyd.

Aneurin

Llais Bro Aled 19.05.13(PDF)

Llais Bro Aled 19.05.13(Word)

• Y Neges i Sardis (Datguddiad 3:1-6) – Rhodri Glyn (12.05.2013)

Dydd Sul, 12 Mai 2013
Darlleniad y Dydd:  Actau 1:1-11 (BCND tud.128 / BCN: tud.118)

Croeso cynnes i bawb ohonoch i foli a chanmol ein Harglwydd heddiw.

Faint ohonoch fu’n dilyn yr hanes am etholiadau Cyngor Sir Ynys Môn yr wythnos ddiwethaf? Hanes digon od sydd wedi bod yno’n ddiweddar wrth i’r hen gynghorwyr gael eu gwahardd gan nad oeddynt yn gwneud eu gwaith yn iawn, a chomisiynwyr anetholedig yn gwneud y gwaith yn eu lle. Wedi pum mlynedd heb gael ethol cynrychiolwyr, cafodd pobl Ynys Môn gyfle i wneud hynny ddydd Iau diwethaf gyda’r canlyniadau yn gymysg a neb yn hollol siŵr beth fydd yn digwydd nesaf! Mae’r hanes am Gyngor Môn a phroblemau mewn cynghorau sir eraill yn dangos mor eiddgar yr ydym fel pobl am gael cynrychiolwyr ac arweinwyr y gallwn ymddiried ynddynt i wneud eu gwaith yn iawn, a chyflawni’r addewidion y maent yn eu rhoi i ni. Yn ein darlleniad Beiblaidd heddiw, cawn gip ar fath cwbl unigryw o gynrychiolydd ac arweinydd. Cawn glywed yr hanes am Iesu yn esgyn oddi ar y ddaear ar ôl iddo dreulio 40 diwrnod gyda’i ddisgyblion wedi ei atgyfodiad. Dyma pam y bu’r eglwys ar draws y byd yn dathlu dydd Iau Dyrchafael yr wythnos aeth heibio. Gwelwn trwy’r esgyniad fod Iesu bellach yn y nef, wrth ochr ei Dad yn teyrnasu’n frenin y bydysawd. Ond ar ben hyn, mae hefyd yn ein cynrychioli ac yn pledio dros ei bobl ar sail ei fywyd a’i farw aberthol. Os ydym byth yn cael ein llethu gan amheuon am ein ffydd a’r cwestiwn “A yw Iesu’n fyw heddiw?” cawn weld yn glir ei fod yn fyw, ac yn fwy na hynny bod Duw’r Tad wedi derbyn ei aberth dros bechod ar y groes trwy ei atgyfodi a’i dderbyn yn ôl i’r nefoedd. Os ydym yn llawn pryderon am y dyfodol neu ddylanwad drygioni arnom a’n byd, bendigedig yw sylweddoli fod Iesu yn teyrnasu ar orsedd, y bydd yn dychwelyd mewn grym a chyfiawnder ymhen amser ac y caiff y saint fod gydag Ef yn dragywydd. Dyna i chi obaith a hyder a gawn wrth bwyso ar Iesu! Yn wahanol i gynghorwyr a gwleidyddion all ar brydiau ein siomi a thorri addewidion, gall y Cristion fod yn dawel ei feddwl ac yn hollol hyderus y bydd Iesu yn gwneud yr hyn a ddywedodd. Dyma pam y mae ein hyder yn Iesu yn allweddol – heb roi’n hymddiriedaeth ynddo, pa obaith sydd gennym? Wrth i ni ryfeddu at y brenin Iesu, ac edrych ymlaen at ei ailddyfodiad gogoneddus, cofiwn am eiriau William Williams, Pantycelyn

Esgyn a wnaeth i entrych nef

i eiriol dros y gwan;

fe sugna f’enaid innau’n lân

i’w fynwes yn y man.

Rhodri

Llais Bro Aled 12.05.13(PDF)

Llais Bro Aled 12.05.13(Word)

• Y Neges i Thyatira (Datguddiad 2:18-29) – Aneurin Owen (05.05.2013)

Dydd Sul, 5 Mai 2013
Darlleniad y Dydd:  Josua 1:1-9 (BCND tud.197 / BCN: tud.180)

Rwy’n edrych ymlaen at ddydd Sul! Cael bod yng nghlyw Gair Duw a chydaddoli yw’r hyn sydd yn fy nghadw’n obeithiol ynghanol y byd. Dwi angen cael f’atgoffa’n aml am wirioneddau mawr y ffydd Gristnogol oherwydd mae hi mor hawdd anghofio yng nghanol gofynion a phrysurdeb bywyd. Un o’r gwirioneddau mawr yw fod budd mawr wedi dod i’r byd am fod Iesu wedi gadael y byd. Gadewch i eiriau Crist esbonio: “ Yr wyf fi yn dweud y gwir wrthych: y mae’n fuddiol i chwi fy mod yn mynd ymaith. Oherwydd os nad af, ni ddaw’r Eiriolwr atoch chwi. Ond os af, fe’i hanfonaf ef atoch.” ( Ioan 16:7)

Fe aeth Crist o’r byd trwy angau’r groes, trwy’r atgyfodiad a’r esgyniad, a do, anfonodd yr Ysbryd Glân i’r byd yn ôl ei addewid! Ei Ysbryd yw’r Eiriolwr arall sy’n aros gyda ni ac sy’n gogoneddu Crist! Yr Ysbryd sy’n rhoi y sicrwydd i ni fod Iesu wedi marw trosom a’i fod yn fyw ac mai Crist ydi Arglwydd yr Arglwyddi, Tywysog bywyd a’r un sydd yn deilwng o fawl y nef ac o’m bywyd i. Yr Ysbryd sy’n dod â holl wirionedd yr Efengyl a’i holl freintiau a’i bendithion yn eiddo i bechadur tlawd, diobaith. Yr Ysbryd hefyd sy’n rhoi’r sicrwydd hyfryd yna i ni fod Crist gyda ni ‘hyd ddiwedd y byd’ ac na adawodd ni’n amddifad.

Yr Ysbryd hefyd sydd yn gwneud yr eglwys yn debyg i Grist. Un o freintiau mawr y Cristion ydi cael gwasanaethu eraill fel y gwnaeth Crist. Ond fedrwn ni ddim gwasanaethu na chyfarfod anghenion mawr ein cydaelodau, ein teuluoedd na’n ffrindiau, nag anghenion mawr y byd chwaith heb dderbyn nerth yr Ysbryd. Roedd Crist yn gwella’r cleifion ac yn cyhoeddi Gair Duw yn nerth yr Ysbryd. Ac hyd heddiw mae’r Eglwys yn derbyn nerth yr Ysbryd i’w gwneud yn debyg i Grist.

Roeddwn i reit bryderus am ddyfodol tîm rygbi Cymru pan dderbyniodd Gatland y dasg o fod yn hyfforddwr i’r Llewod flwyddyn a mwy yn ôl. Yr wythnos yma cyhoeddodd ei sgwad ac y mae mwy o Gymry yn y sgwad nag sydd wedi bod ers 36 o flynyddoedd! ‘Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith’?! Do, mae cyfleon newydd wedi dod i’r chwaraewyr hynny oherwydd ymadawiad Gatland.

Daw’r Ysbryd i roi cyfleon newydd i ni fel ein bod ninnau yn cael gwasanaethu Duw a bod yn yr un tîm â Duw ei hun! Dyna beth yw bod mewn tîm! Mae’r Ysbryd ar waith yn gwneud pobl yn bobl newydd, yn ddynoliaeth newydd ‘yng Nghrist’. (Effesiaid 2:14-19) Ac mae’n siŵr fod gwybod hyn hefyd yn help i mi edrych ymlaen at gael addoli Duw gyda chi o Sul i Sul! Croeso i’r oedfaon a gweddïwn eto ar Dduw am gael profiad o rym yr Ysbryd yn gogoneddu Crist yn ein plith.

Aneurin

Llais Bro Aled 05.05.13(PDF)

Llais Bro Aled 05.05.13(Word)

Dydd Sul, 28 Ebrill 2013
Darlleniad y Dydd:  Luc 9:1-9 (BCND tud.74 / BCN: tud.68)

Bore da, a chroeso i oedfaon y dydd. Yn y darlleniad heddiw mae Iesu yn anfon y disgyblion cyntaf allan i’r pentrefi i gyhoeddi’r newydd da ac i iacháu. Maent yn mynd yn ufudd ac yn dod yn ôl ato hefo hanesion rhyfeddol ac mewn llawenydd mawr. Diolchwn i’r Arglwydd fod y newydd da yn dal i gael ei rannu ym mhentrefi’r Fro a  gweddïwn yn daer am fendith yr Ysbryd ar y Gair ac ar bawb sy’n gwrando. Llawenydd a gawn ninnau wrth ymateb i’r Gair ac wrth i ni glywed am ymateb eraill.

Bydd yr ymateb i’r Gair yn cael ei ddisgrifio weithiau fel y llawenydd sydd yn dod wrth i’r rhai sydd heb fwyd gael bwyd. Gallwn ddeall hynny’n iawn yr adeg yma o’r flwyddyn ar ôl gaeaf a gwanwyn mor galed a llwm. Mae prinder cyffredinol wedi bod ar feed ac nid oes maeth yn y borfa. Mae hyn wedi arwain at golledion mawr ac mae sawl diadell wedi gorfod byw ar eu cythlwng ers misoedd. Mae’r blewyn glas yn brin, ond unwaith y daw i’r golwg fe fydd y ddafad yn gwrthod yr hen wair ac yn chwilio am fwy o’r glas. Fe wyddant fod maeth a chynhaliaeth yn hwnnw.

Mae’r rhai sy’n ymateb i Air Duw yn profi’r un math o beth. Un o’r pethau sy’n digwydd wrth i bobl gael goleuni’r Ysbryd ydi eu bod nhw’n chwilio am gynhaliaeth a maeth yn y Gair. O’r blaen, dim ond geiriau sych a diflas oedd y Beibl ond mae hynny wedi newid bellach. Mae’r Beibl rwan fel blewyn glas iddynt a does dim byd tebyg iddo!

Yn y Gair mae pleser a chynhaliaeth bywyd y Cristion gan fod Duw yn siarad trwy ei Air ac yn dod â ni i lawnder. Peth braf ydi eistedd i lawr i blatiad o fwyd ar ôl diwrnod caled o waith. Bydded felly heddiw wrth i ni ddod, ar ôl wythnos digon anodd i lawer, i wledda ar fendithion Duw wrth i’r newydd da gael ei osod o’n blaenau yn yr oedfaon ac wrth i ni fwynhau cwmni’n gilydd.

Cofiwch yn arbennig heddiw am gynulleidfa Llanfair Talhaiarn. Maent yn ôl yn y capel bellach ar ôl y llifogydd ac mae’r capel yn edrych yn hynod o dda o’r tu mewn ac o’r tu allan. Diolchwn o galon i bawb sydd wedi llwyddo mor dda i lywio’r gwaith o adfer a thacluso Soar ac i bawb am eu help i wneud y capel yn addas eto i gynnal yr oedfaon a’r Ysgol Sul. Dymunwn fendith Duw ar y blaenoriaid a’r gynulleidfa oll.

Aneurin

Llais Bro Aled 28.04.13(PDF)

Llais Bro Aled 28.04.13(Word)

• Y Neges i Pergamus (Datguddiad 2:12-17) – Aneurin Owen (21.04.2013)

Dydd Sul, 21 Ebrill 2013
Darlleniad y Dydd:  Deuteronomium 34:1-8 (BCND tud.196 / BCN: tud.179)

Croeso cynnes i oedfaon y dydd heddiw! Diolchwn i Dduw am gyfle arall i’w geisio a gweddïwn ar i’w Ysbryd Glân ein harwain, ein cysuro a’n hargyhoeddi i bwyso ar Grist, yr un y mae holl ysblander Duw yn disgleirio ohono. (Hebreaid 1:3 Beibl.net)

Mae’r wythnos hon wedi bod yn un ddadleuol iawn yn y byd gwleidyddol wrth i angladd cyn Brif Weinidog Prydain, Margaret Thatcher gael ei chynnal yn Llundain ddydd Mercher. Yn anffodus, tueddu i fynd dros ben llestri wnaeth y naill ochr a’r llall ynglŷn â Thatcher, gyda’r ffaith syml fod teulu’n galaru yn tueddu i fynd yn angof. Yn naturiol, wrth i gyn-arweinydd farw mae llawer yn ceisio cloriannu dylanwad yr arweinydd hwnnw gan ystyried pa fath o etifeddiaeth y mae wedi ei adael. Yw pethau’n well neu’n waeth yn sgil yr arweinydd hwnnw, a beth sy’n rhaid i’w olynwyr ei wynebu?

Gwelwn etifeddiaeth yn cael ei haddo i’r dyfodol yn ein darlleniad heddiw hefyd, wrth i Foses farw a’r Arglwydd ddweud wrtho beth oedd i ddilyn. Moses oedd yr un a ddefnyddiodd yr Arglwydd i ryddhau ei bobl o gaethiwed erchyll yng ngwlad yr Aifft gan eu harwain i wlad well. Ond er cystal arweinydd oedd Moses (anghymharol yn ôl Deteronomium 34:10-12) anghyflawn fu ei ymdrech gan na chafodd fynd i mewn i wlad yr addewid ei hun. Gwnaeth weithredoedd rhyfeddol gan fod yn gysgod inni o’r hyn y byddai Crist yn ei wneud fel cyfryngwr rhwng dyn a Duw, ond eto oherwydd ei anffyddlondeb ni chafodd fynd i mewn i wlad yr addewid – yn hytrach, rhoddwyd y fraint honno i’w ddisgynyddion. Pam? Oherwydd ffyddlondeb ein Duw graslon, ac oherwydd Ei fod wastad yn cyflawni’r addewidion a roddodd. I Dduw y bo’r diolch fod yr Israeliaid wedi cael eu rhyddhau o’r Aifft ac wrth gwrs defnyddiodd Moses yn helaeth yn y broses honno. Ond ble methodd Moses, llwyddodd Crist, trwy ei fywyd, marwolaeth a’i atgyfodiad i ddod â’i bobl i wlad yr addewid yn dragywydd. Gwlad heb farwolaeth na galar na llefain na phoen, ble bydd “ef yn preswylio gyda hwy, byddant hwy yn bobloedd iddo ef, a bydd Duw ei hun gyda hwy, yn Dduw iddynt.” (Datguddiad 21:3-4)  Felly wrth i ni ystyried methiannau a llwyddiannau ein harweinwyr, cofiwn mai Iesu yw’r unig un sydd â record 100% ym mhopeth a wnaeth a’r unig Un sy’n haeddu clod diderfyn gan bawb. Cofiwn eiriau Philipaid 2:9-11 “Am hynny tra-dyrchafodd Duw ef, a rhoi iddo’r enw sydd goruwch pob enw, fel wrth enw Iesu y plygai pob glin yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear, ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad.”

Rhodri

Llais Bro Aled 21.04.13(PDF)

Llais Bro Aled 21.04.13(Word)

• Y Neges i Smyrna (Datguddiad 2:8-11) – Rhodri Glyn (14.04.2013)