Dydd Sul, 24 Mehefin 2012

Mae heddiw yn ddiwrnod i’r Fro gyfan i ddod ynghyd i gyd-adrodd o’r Gair a chanu mawl i’r Arglwydd.  Diwrnod arbennig i-Grist! Gobeithio y medrwch chithau ddod i’r oedfaon heddiw, bydd croeso mawr i chi.

Mae ’na ddipyn o baratoi wedi bod a diolch i bawb sydd wedi bod yn brysur hefo’r plant a’r ieuenctid a’r oedolion.  Clywais amryw yn dweud fod y plant ar y blaen o ran y dysgu! Dewch heb boeni – y nod yw canmol yr Arglwydd a mwynhau ei gwmni a dathlu ei drugaredd i rai fel ni!

Os ydych awydd paratoi cyn dod, ga’i awgrymu eich bod yn darllen Eseia 43? Yma fe gewch addewidion mawr yr Arglwydd ac wrth ystyried beth sy’n cael ei addo, ni fyddwn yn medru peidio canmol Iesu!

Un neges fawr yn y rhan yma o’r Beibl ydi fod Duw wedi ein gwneud yn eiddo iddo – “eiddof fi ydwyt” (adn. 1)  “Oherwydd myfi, yr Arglwydd yw dy Dduw” (adn. 3) ac yna: “Sanct Israel yw dy Waredydd” (adn. 3).

Cafodd amryw eu hachub o’r llifogydd yn ddiweddar.  Bu’n rhaid achub rhai o weithwyr y gwasanaethau brys hyd yn oed.  Mae’r syniad o gael ein hachub yn gyfarwydd iawn i’r plant.  Mae Sam Tân yn arwr mawr, a’i waith o ydi achub y rhai sydd mewn tân – neu’n amlach na pheidio, achub Norman Preis o ryw drafferth neu’i gilydd!  Pan fydd pawb arall yn methu fe fydd Sam yn siwr o lwyddo! Weithiau, fel y gwelsom yn hanes y llifogydd yn Nhal y Bont ger Aberystwyth mae angen rhywrai weithiau i fod yn achubydd i’r achubydd.  Ar ein gorau, byddwn yn parhau i fod mewn angen am help!

Pan feddyliwn am ein cyflwr ni ein hunain, pwy sydd yn ddigon abl a chryf i’n helpu ni?  Pwy sydd yn gallu gwneud y gwaith o’n gwaredu ni?  Y gwir plaen ydi nad oes yna neb sydd yn ddigon galluog nac addas i’r gwaith yma, dim ond un.  Pan fydd pawb a phob peth arall yn methu ein hachub na’n cysuro, y mae’r gair yma o Eseia yn dod i’r meddwl – pwy sydd gennym ni fel Gwaredydd? Neb llai na Sanct Israel ei hun, Arglwydd y Lluoedd, yr Arglwydd Iesu!  A dyma’i addewid: “Pan fyddi’n rhodio trwy’r tân, ni’th ddeifir, a thrwy’r fflamau, ni losgant di.” (adn. 2)

Cyn dod heddiw, myfyriwch ar fawredd ein Gwaredwr a rhyfeddol nerth y gras a’r maddeuant sydd ganddo fo – a neb arall – i’w rhoi i ni. O ystyried hyn, yna medrwn ganu hefo’n gilydd nes bydd y nefoedd yn clywed:

Yng Nghrist ei hun mae ‘ngobaith i,

Ef yw ’ngoleuni, nerth a’m cân;

Mewn stormydd llym, a sychder blin,

F’amddiffyn ydyw yn y tân;

A’i Goncwest Ef yw ’nghoncwest i,

Rwy’n eiddo’i Grist, mae’n eiddo i mi,

Nid oes gan angau golyn mwy,

Fe’m prynwyd trwy ei werthfawr waed!

Pam gwneud hyn i ni, Arglwydd? “Am dy fod yn werthfawr yn fy ngolwg, yn ogoneddus, a minnau’n dy garu.” (Eseia 43:4)

Aneurin

Llais Bro Aled 24.06.12(PDF)

Llais Bro Aled 24.06.12(Word)

Comments are closed.