Dydd Sul, 1 Gorffennaf 2012

Un o ddigwyddiadau mawr yr wythnos hon oedd yr hyn a ddigwyddodd ym Melfast rhwng Martin McGuinness ac Elisabeth yr Ail.  Ia, yr ysgwyd llaw a fu rhyngddynt.  Eiliad fer, ond yn siarad cyfrolau am ddatblygiad y broses heddwch. Wedi’r holl benawdau sydd wedi bod dros y blynyddoedd am y bomiau a’r lladd, dyma bennawd o fath gwahanol er bod rhai yn amau gwerth yr arwydd yma o gymod.  Mae’r creithiau yn ddyfnion iawn ar y ddwy ochr ac a fydd un ystum fer fel hyn o ysgwyd llaw yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl?  Ydach chi’n edmygu’r ddau am ysgwyd llaw?  Doedd hi ddim yn hawdd dwi’n siŵr.

A oes angen cymodi arnom ni?  Dydw i ddim yn adnabod neb sy’n gallu dweud yn onest ei fod yn byw mewn cymod hefo pawb.  Fe fydd yna densiwn yn y teulu, gyda chymdogion a chydweithwyr ar ryw adeg yn ein bywyd o hyd ac efallai y bydd yr holl beth yn dal i rygnu ‘mlaen am flynyddoedd.  Efallai ein bod wedi stopio trio gwneud rhywbeth am y peth neu’n meddwl fod y cyfrifoldeb i gymryd y cam cyntaf ar rhywun arall.  Mae’r blynyddoedd yn pasio tra rydan ni yn aros iddyn nhw ddod atom ni!  Mae Iesu yn adnabod ein cyflwr ac y mae’n rhoi cyngor i ni.  Dyma i chi ddau ohonynt:

“ Felly os wyt yn cyflwyno dy offrwm wrth yr allor, ac yno’n cofio bod gan dy frawd rywbeth yn dy erbyn, gad dy offrwm yno o flaen yr allor, a dos ymaith: myn gymod yn gyntaf â’th frawd, ac yna tyrd a chyflwyno dy offrwm.” (Mathew 5:23-24)

A hefyd, “Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Car dy gymydog a chasa dy elyn.’ Ond yr wyf fi yn dweud wrthych: carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sy’n eich erlid: felly fe fyddwch yn blant i’ch Tad sydd yn y nefoedd …” (Mathew 5:43-44)

Wrth i ni ymdrechu yn nerth yr Ysbryd Glân i faddau i’n gilydd a chymodi a’n gilydd rydan ni yn dod yn debyg i’n Tad nefol.  Ac y mae angen ymdrech!  Nid ar chwarae bach y daeth yr ysgwyd llaw yn realiti ac nid ar chwarae bach y mae Duw yn delio hefo ni.  Mae Duw wedi ein caru ni pan oeddem yn elynion.  Nid ysgwyd ein llaw mewn ystum o gymod ond ein caru ni!  Dyma beth yw rhyfeddod!  Go brin fod cariad rhwng y Frenhines a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, ond dyna sydd yn wir amdanom ni a Duw.  Wrth i ni dderbyn ei ras a’i faddeuant rydan ni hefyd yn gweld cymaint yw cariad Duw y Tad.  Y mae Ef wedi ein cymodi ni ag Ef ei hun trwy’r groes.  Y groes sydd yn chwalu’r muriau sydd rhyngom ac yn lladd yr elyniaeth sydd rhyngom a Duw a rhyngom a’n gilydd. (Effesiaid 2: 14-16) Boddi’r elyniaeth yng ngwaed y groes.  Dyma lle y cawn ninnau’r nerth i ufuddhau i Iesu ac i ddod i garu.

Croeso i chi i oedfaon y dydd. Boed i ni brofi grym cymod, maddeuant a chariad Duw hefo’n gilydd heddiw.

Aneurin

Llais Bro Aled 01.07.12(PDF)

Llais Bro Aled 01.07.12(Word)

Comments are closed.