Dydd Sul, 8 Gorffennaf 2012

Bore da iawn i chi a chroeso i oedfaon y dydd!  Beth fydd ein gweddi heddiw tybed?  Byddaf yn meddwl weithiau am yr holl weddïau sy’n codi o’r Ofalaeth ac yn meddwl am Dduw yn eu derbyn ac yn eu hateb.  Mae’n rhaid ei fod yn Dduw mawr, a dyna sydd yn wir yn siŵr.

Mae’r Beibl yn cynnwys geiriau gweddi nifer fawr o bobl ac yn y Testament Newydd y mae gennym gofnod o weddïau Crist ei hun.  Mae Iesu yn ein dysgu i fod yn daer mewn gweddi ac mae’n rhoi esiampl i ni o weddi – gweddi’r Arglwydd.  Oes ’na bwynt gweddïo?  Sut mae gwybod os yw Duw yn gwrando ac yn ateb?

Un o’r pethau dwi wedi sylwi arno yn ddiweddar ydi cywion yr adar bach. Maent yn gynnwrf i gyd, yn ysgwyd eu plu, yn gweiddi’n daer am fwyd gan y fam a’r tad.  Weithiau bydd y fam ymhell o’r golwg ond dydi hynny ddim yn stopio cri y cyw.  Bydd y cyw yr un mor daer er na fydd yn gweld y bwyd yn dod!  Mae’n siŵr ei fod yn credu y bydd yn cael tamed arall cyn hir – mae yn ffyddiog!  Bydd y fam yn cyrraedd yn y man hefo rhyw bryfyn bach blasus ac yn ei roi wrth geg y cyw.  Bydd hwnnw bron â thagu wrth ei lowcio’n ddiolchgar.  I ffwrdd a’r fam eto a chyn hir bydd y gynffon yn crynu eto a’r plu yn codi, a’r taerineb yn dod yn ôl i gri y cyw!

Oes ’na bwynt i weddi?  Oes, os ydym yn newynog am Dduw, ein Tad nefol. Amdano fo ’dan ni’n gweddïo fel y cyw yn galw am ei fam.  A sut rydan ni’n gwybod os ydym wedi cael ateb i’n gweddi?  Fel y mae’r cyw yn cael ei fwydo, felly y mae presenoldeb Duw yn ein llenwi â gorfoledd a sicrwydd a thangnefedd.  Nid cael ‘pethe’ gan Dduw a wnawn trwy weddi ond cael Duw ei hun!

Gweddïwn felly heddiw am Dduw ei hun: “Y mae fy enaid yn sychedu am Dduw, am y Duw byw ..” (Salm 42:2)  Ac o gael Duw, oni chawn ni bopeth arall?

Gweddïwn hefyd dros ein gilydd fel y bydd presenoldeb yr Arglwydd yn dod yn brofiad i lawer mewn galar ac anhwylder; ac wrth edrych ymlaen, rhown ein oll i ofal y Duw sydd yn ein caru mor fawr ac a roddodd ei Fab yn Waredwr mor berffaith i ni.

            Aneurin

Llais Bro Aled 08.07.12(PDF)

Llais Bro Aled 08.07.12(Word)

Comments are closed.