Dydd da, a chroeso mawr i bawb ohonoch i’r gwasanaethau ym Mro Aled heddiw. Diolchwn i’r Arglwydd am gyfle arall i’w geisio gyda’n gilydd a’i addoli, a gweddïwn y cawn ein hadeiladu a’n herio trwy waith ei Ysbryd yn ystod y dydd a thrwy’r wythnos sydd i ddod.
Tybed faint ohonoch sydd yn bwriadu dilyn y Gemau Olympaidd pan fyddant yn cychwyn yn ystod y pythefnos nesaf? Rhai ohonom am wneud taith i Gaerdydd neu Lundain i fod yn rhan o’r dyrfa o bosib? Hyd yn oed os nad oes gennych ddiddordeb ynddynt, maent yn siŵr o fod yn llenwi’r penawdau newyddion trwy gydol yr haf! Mae’n syfrdanol cymaint o fathau gwahanol o chwaraeon a welir yno, ond fod amcanion yr holl gystadleuwyr mor debyg i’w gilydd. Maent yn trafaelio i Lundain o bob cornel o’r byd oll er mwyn cystadlu, gyda’r gobaith y byddant yn llwyddo i ennill eu camp hwy a chael derbyn y fedal aur enwog honno. Mae pob peth y maent wedi bod yn ymarfer ac yn gweithio er ei fwyn wedi ei wneud yn y gobaith o gael ennill. Ond ar y diwedd, wedi’r holl baratoi a’r cynnwrf sydd yn ystod y Gemau, mae rhywun yn cael y teimlad fod mwyafrif y cystadleuwyr yn cael eu siomi’n fawr. Os edrychwn ar y niferoedd, mae’n amlwg mai cyfran fach iawn o’r rhai fydd yn ceisio am wobr sydd yn cael yr hyn y maent wedi gobeithio amdani.
Beth amdanom ni? Wrth edrych ar addewidion Duw i’w blant, cawn weld nad ydym yn gobeithio’n ofer. Oherwydd bywyd, marwolaeth ac atgyfodiad yr Arglwydd Iesu, mae addewidion Duw ar gael i bawb ohonom sy’n ymddiried ein bywydau i Grist. Felly, yn wahanol i’r athletwyr hynny sy’n aml yn siomi, oherwydd pwy yw gwrthrych ein ffydd ni (“awdur a pherffeithydd ffydd” -Hebreaid 12:2), nid gweithio ar ein liwt ein hunain a gobeithio am y gorau yr ydym ni i’w wneud, ond rhoi ein bywydau i glosio at Iesu gan dderbyn ei ras a byw ein bywydau mewn diolchgarwch iddo. Wrth edrych ar yr athletwyr yn chwysu dros yr haf felly, cofiwch eiriau Salm 130:7 “O Israel, gobeithia yn yr Arglwydd, oherwydd gyda’r Arglwydd y mae ffyddlondeb, a chydag ef y mae gwaredigaeth helaeth.”
Rhodri
Llais Bro Aled 15.07.12(Word)