Dydd Sul, 14 Hydref 2012

Bore da a chroeso!  Y mae pob cyfle i gydaddoli mor werthfawr!  Gwnawn yn fawr o’n cyfle heddiw i ddyrchafu ein Duw ac i fod hefo’n gilydd yn ei gwmni. Er ein bod ar wahân o ran lle, rydym yn un yn yr Ysbryd ac hefo’n gilydd o flaen gorsedd gras.  Edrychwn i wyneb Iesu, ceisiwn drugaredd ein Duw ac addolwn Ef!

Mae’n siŵr ein bod wedi troi ein meddyliau a’n gweddïau i gyfeiriad Machynlleth yn aml iawn dros y bythefnos olaf yma ac yna, mewn ffordd arbennig ers i ni glywed am y ddamwain ger Dolgellau lle bu farw’r Parch. M J Morris, tad Meirion a Morris nos Sul diwethaf.  Roedd ar ei ffordd gartref wedi bod yn pregethu trwy’r dydd yn Clwyd St., y Rhyl.  Roedd wedi ei feddiannu gan yr alwad i bregethu, a mynnai gyflawni pob cyhoeddiad i’r eithaf fel y gwyddom yn dda yn yr ardal yma.  Diolch i’r Arglwydd amdano ac am ei ymroddiad i waith ei deyrnas.  Roedd wedi cartrefu ym Machynlleth ers sawl blwyddyn ac ’roedd yn gymydog i April Jones a’i theulu hithau.  Soniais am fynd hefo’n gilydd at orsedd gras.  Diolchwn bod y fath le yn bodoli ar adegau fel hyn.

Nid oes yr un darlun na chysgod yn gwneud iawn hefo’r hyn ydyw’r orsedd mewn gwirionedd, ond maent yn siŵr o’n helpu.  Cofiwn am hanes dydd y Cymod sydd yn Lefiticus 16 pryd y byddai caniatâd i’r archoffeiriad fynd i mewn i’r cysegr sancteiddiolaf i daenu gwaed dros y drugareddfa.  Cofiwn am y darlun o’r brenin ar ei orsedd yn estyn teyrnwialen aur tuag at y rhai yr oedd ef am eu derbyn i’w bresenoldeb – a hynny’n diogelu na fyddent yn cael eu lladd wrth ddod i’w bresenoldeb. (Esther 5:2)

Yng Nghrist y mae gorsedd Duw yn orsedd gras!  Ei waed Ef, gwaed croes Calfaria, sydd ar y drugareddfa – y mae’n ateb drosom ac yn ein cuddio!  A fydd, neu a ydyw’r deyrnwialen aur sydd yn ei law Ef yn cael ei ymestyn tuag atom ni, droseddwyr a phechaduriaid?  A gawn ni fynd heb ofni cael ein lladd at Dduw yn llawnder ei sancteiddrwydd a’i gyfiawnder?  Er mai ‘cael ein lladd’ yw ein cyflwr ofnadwy yn y byd yma, ar yr orsedd hon y mae un arall a gafodd ei ladd, Iesu ein brawd a’n Harglwydd.  Ef yw’r Oen a laddwyd, ac sydd eto’n fyw!  Yn ei law Ef y mae’r deyrnwialen aur sy’n awdurdodi bywyd tragwyddol i ni.  Ateb Duw ydi: “Ydi! Mae’r deyrnwialen yn pwyntio atat ti! Tyrd, er i ti gael dy ladd, i’r bywyd tragwyddol a ddiogelwyd i ti trwy farwolaeth ac atgyfodiad fy Mab!”  Nid ar chwarae bach felly y mae’r orsedd hon yn cael ei galw yn orsedd Gras.

Mentraf ddweud mai dyma’r unig fan sydd yn ddigon mawr ac ofnadwy – sy’n crynu mewn arswyd oherwydd presenoldeb Duw, ac eto sy’n ddigon diogel a chysurlon – yn llawn o’i gariad a’i ras – i ni fedru cael y nerth a’r gorffwys i fyw yn ein gofidiau a’n profedigaethau dyfnaf.  Awn gyda Meirion a Sarah a’r plant, Morris a Glenda a’r plant a’r teulu i gyd, gyda theulu April hefyd a phob teulu arall sydd mewn angen, mewn gweddi ac addoliad heddiw at orsedd gras ein Duw.

Aneurin

Llais Bro Aled 14.10.12(PDF)

Llais Bro Aled 14.10.12(Word)

Comments are closed.