Dydd Sul, 11 Tachwedd 2012

Bore da iawn i chi ar Sul y Cofio. Mae’n rhaid i mi gyfadde fy mod yn cael fy nhynnu pob sut ar ddiwrnod fel heddiw.  Mae gen i gof am fy nhaid yn sôn am y rhyfel – yr ail ryfel byd – a’r ffrindiau a gollodd er na fuodd o ei hun ar faes y gad. Roedd y rhyfel yn fyw iawn iddo a’i genhedlaeth, a hyd yn oed i genhedlaeth fy rhieni gan y byddent wedi gorfod gwneud penderfyniadau mawr ynglŷn â’r orfodaeth filwrol a meddwl o ddifri am gost rhyddid a heddwch a rhyfel.

Yr hyn sy’n cael ei gredu’n gyffredin yw fod aberth y miloedd a fu’n ymladd anghyfiawnder a thrais wedi prynu heddwch i’n cenhedlaeth ni, a’n bod ni yn awr yn gallu mwynhau rhyddid – hyd yn oed y rhyddid i fod yn heddychwyr – o ganlyniad i’r rhyfela a fu.  Mae gen i rhyw deimladau o ddyled felly, yn corddi’n ddwfn.

Ond eto, mae greddf ynof hefyd sy’n dweud fod lladd cyd-ddyn yn anghywir. Fedra i ddim dychmygu sut beth fyddai wynebu person arall, a’i gyfrif yn gymaint o elyn nes y byddwn yn fodlon ei ladd.  A fyddwn i, mewn amgylchiadau arbennig, yn medru rhoi heibio fy ngreddf naturiol i arbed bywyd?  A fyddwn i, dan deimladau o ofn neu o fod eisiau amddiffyn rhywun arall, yn fodlon lladd y rhai a fyddai’n bygwth?  A fyddwn i yn gallu cyfiawnhau trais dan rai amgylchiadau?  Mae gen i rhyw deimladau o ansicrwydd ynglŷn â sut y byddwn i yn ymateb yn corddi’n ddwfn hefyd.

Ond rwy’n gofyn yn amlach na pheidio, sut y dylswn i ymateb fel disgybl i Iesu? Beth yw arweiniad yr Ysbryd a’r Gair i mi?  Mae un egwyddor glir a phendant iawn yn y Gair sef fod cariad Duw yn gallu achub a newid y gelyn pennaf (Rhuf. 5: 10).  O’i gariad y mae Duw wedi rhoi ei Fab i’r byd (Ioan 3:16).  Os yw Duw wedi fy ngharu i gymaint â hyn, mae’n ofynnol i mi rwan, fel Cristion, barchu a charu pob person arall.  Gorchymyn Crist i ni ydi: “Carwch eich gelynion, gweddïwch dros y rhai sydd yn eich erlid” (Mathew 5: 44).  Dyma ei esiampl Ef ar y groes pan weddïodd “O Dad, maddau iddynt …”(Luc 23: 34).

Heddiw, felly ar ddydd y Cofio mi fydda i yn ceisio cofio am bawb, o bob gwlad, sydd mewn profedigaeth gan weddïo dros y ddwy ochr ymhob argyfwng a rhyfel. Gweddïwn fel hyn gan gredu fod Duw yn gweithredu trugaredd a barn, yn ei Arglwyddiaeth, i’r rhai gostyngedig; mewn dial a chyfiawnder o blaid y diniwed, ac yn ei ras a’i gariad anorchfygol i gymodi’r gelynion ffyrnicaf.

Gweddïaf hefyd y bydd yr Ysbryd yn fy mhlygu i wrth groes Calfaria er mwyn i mi gael y nerth i fod yn debycach i’r Arglwydd yn fy holl ymwneud ag eraill. 

Aneurin

Llais Bro Aled 11.11.12(PDF)

Llais Bro Aled 11.11.12(Word)

Comments are closed.