Dydd Sul, 9 Rhagfyr 2012

Bore da!  Mae’r Nadolig o fewn cyrraedd!  Ac mae’r panig arferol ar y gorwel! Fel llawer o ddynion, dwi’n gadael y cwbl tan y funud ola!  Fi ’di’r un sy’n rasio o un siop i’r llall ar y 24ain o Ragfyr pan mae’r goleuadau yn diffodd a phan mae’r staff yn ysu am gael cau y drysau a mynd allan i barti.  Dydw i ddim yn cael llawer o groeso gallwch fentro!  Pob blwyddyn rwy’n dweud  “siopa Dolig ym mis Tachwedd y flwyddyn nesa”.  Ond dyma hi, canol mis Rhagfyr a dim un anrheg yn cuddio yn unlle!  “Don’t panic Mr Mannering!”  A sori o flaen llaw i bawb a fydd yn cael sgarff a sannau eto eleni!

Diolch mai nid mewn panig a brys y daeth Iesu i’r byd.  Cafodd pob peth ei drefnu ymlaen ymhell cyn y noson honno ym Methlehem.  Ydi hi’n ormod meddwl fod holl gwrs hanes y byd wedi ei lunio fel paratoad ar gyfer y digwyddiad rhyfeddol hwn ym Methlehem?  Ydi hi’n ormod meddwl fod a wnelo holl dragwyddoldeb hyd yn oed â geni Iesu?

Yn Efengyl Mathew ac Efengyl Luc cawn hanes y paratoi a fu yn agos i’r amser – hanes y bugeiliaid a’r doethion, hanes Mair yn derbyn y newydd, ac Elisabeth hithau, mam Ioan Fedyddiwr a oedd am baratoi’r ffordd at weinidogaeth gyhoeddus Iesu yn nes ymlaen.

Ond yn Efengyl Ioan cawn hanes y paratoi a fu o dragwyddoldeb.  Mae Ioan yn dweud fod Iesu, fel ‘Y Gair’, ym mynwes y Tad o’r dechrau cyntaf un.  Y ‘Gair’ a oedd gyda Duw.  Y ‘Gair’ sydd yn Dduw.  A’r ‘Gair’ yma sy’n cael ei wneud yn gnawd ac a ddaeth i drigo yn ein plith ‘yn llawn gras a gwirionedd’ (Ioan 1).

Dyma ryfeddod!  Oes, mae yna ryfeddod yn y seren ac yng nghân yr angylion. Ond ‘dyda ni ddim yn ei gadael hi yn fan’na.  Wrth edrych y tu ôl i’r digwyddiadau hyn gallwn weld holl baratoadau manwl Duw dros y canrifoedd ac o dragwyddoldeb yn cael eu gwireddu, a hynny ‘trosom ni’ yn Iesu!  Ac i ni fel Cristnogion, dyma ryfeddod gwirioneddol y Nadolig.

Neges fawr y Beibl ydi fod Duw y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân wedi paratoi o dragwyddoldeb fod Duw y Mab, Iesu, i gael ei eni yn faban, yn gig a gwaed fel ni, eto heb bechod, i fedru dioddef a marw yn ein lle ar groes.  Dod yn wir ddyn ac yntau yn wir Dduw.  Gall pawb ymddiried yn hwn!  Yn Iesu mae gobaith y ddynoliaeth yn sicr.  Er nad oes yna banig yn yr hyn y mae Duw wedi ei baratoi trosom ni yng Nghrist, eto mae yna gyfrifoldeb arnom ni hefyd i frysio ato.  Yng ngeiriau’r garol: “Am hyn bechadur, brysia fel yr wyt! Ymofyn am y noddfa, fel yr wyt!” (C.Ff. 464)

Gobeithio y cewch fendith yn oedfaon y dydd heddiw ac y byddant o gymorth i ni frysio at Iesu ein Gwaredwr gogoneddus.  Cofiwch hefyd am yr Oedfa arbennig nos Sul nesa – Oedfa Carol a Phlygain.  Dewch â chroeso!

Aneurin

Llais Bro Aled 09.12.12(PDF)

Llais Bro Aled 09.12.12(Word)

Comments are closed.