Dydd Sul, 16 Rhagfyr 2012

Ar drothwy’r Nadolig daw rhyw arwyddocâd newydd i’r sêr rhywsut.  Fe fydda i’n meddwl yn aml am y doethion – y sêr ddewiniaid yn cychwyn allan ar eu taith.  Y fath wefr!  Roeddent yn sicr o’u ffeithiau – “Gwelsom ei seren Ef yn y dwyrain” meddent heb amheuaeth o gwbl wrth Herod. Roeddent yn sicr fod brenin newydd wedi ei eni!

Trist oedd y newydd am farwolaeth Syr Patrick Moore, un a dreuliodd ei oes yn dilyn y sêr.  Roedd wedi llwyddo i wneud map o’r lleuad pan oedd yn ifanc iawn ac ni pheidiodd ei ddiddordeb heintus.  Tybed a ddaeth i adnabod y Crewr? Tybed a gafodd y wefr o blygu wrth ei grud?  Tybed a gafodd y wefr o weld y Brenin ar ben y daith fel y cafodd y doethion filoedd o flynyddoedd yn ôl?

Gwneud i mi deimlo’n fach iawn y mae’r sêr.  Fedrai ddim ond syllu a rhyfeddu. Teimlo’n fach, a theimlo weithiau nad ydi fy mywyd i yn cyfri rhyw lawer.  Teimlo nad ydw i’n neb wyneb yn wyneb â’r bydysawd rhyfeddol ac anferth yma.  Fel ’na y bydda i’n teimlo beth bynnag ond diolch fyth, mae’r Beibl yn dysgu mai’r un Duw a greodd y sêr sydd wedi ein creu ni a’i fod yn ein caru ac yn ein hadnabod.

Os ddaru’r doethion deimlo’n fychan wrth edrych ar y sêr, sut deimlad oedd hi tybed i ddod wyneb yn wyneb â’u Creawdwr?  Mae yna rhyw arswyd sanctaidd o fod ym mhresenoldeb Iesu, Brenin Tragwyddoldeb.

Yr hyn y mae’r Beibl yn ei ddweud ydi fod Iesu, yn ei fawredd, yn ein caru. Y Brenin sydd yn ein caru, Duw ei hun, neb llai, sydd yn ein cyfri’n bwysig yn ei olwg.  Gan gymaint ei gariad, cafodd ei eni er mwyn gallu dioddef a marw yn ein lle. “Daeth y Gair yn gnawd” yw neges y Nadolig. “Ganwyd i chwi heddiw Geidwad, Crist yr Arglwydd!” Mae’r Arglwydd sydd wedi creu y sêr wedi ei eni’n dlawd er ein mwyn, wedi marw yn ein lle, ac wedi ei atgyfodi hefyd i dorri grym teyrnasiad marwolaeth drosom ni. Aeth yn ôl at Dduw i’w ogoniant ac y mae yno yn gweddïo drosom pob awr.

Fe fydd pawb ohonom yn cofio’n anwyliaid eleni wrth fwrdd y Nadolig, rhai yn wynebu’r golled am y tro cyntaf, eraill yn edrych yn ôl dros ysgwydd y blynyddoedd. Ar adegau fel hyn y mae cofio fod ein profiadau oll yn cyfri gan Dduw a bod gennym y fath Waredwr gogoneddus yn destun diolch dwfn iawn.  Mae’n rhaid ein bod yn cyfri yng ngolwg Duw.  Gwnaeth hyn i gyd er ein mwyn. Diolch iddo!

Dathlwn yr hanes cyfan eleni, y paratoi yn nhragwyddoldeb ac o dan yr Hen Destament, yna Bethlehem, Nasareth, Galilea, Calfaria, y bedd gwag, mynydd yr Olewydd, Pentecost yr oruwch ystafell, gogoneddiad y nefoedd, gosod ei elynion yn droedfainc i’w draed, eiriolaeth yr eiliad hon ac am byth. Syrthiwn wrth draed ein Brenin.  Addolwn Ef, Iesu, fel y gwnaeth y doethion, gan gredu ynddo, a chredu iddo ddod i’n symud ninnau bob un o dywyllwch i oleuni ei deyrnas dragwyddol. ‘Mae E’n ddigon – y tragwyddol fywyd yw!’

Aneurin

Llais Bro Aled 16.12.12(PDF)

Llais Bro Aled 16.12.12(Word)

Comments are closed.