Dydd Sul, 24 Mawrth 2013

Darlleniad y Dydd:  Mathew 21:1-11 (BCND tud.24 / BCN: tud.22)

Yng nghanol y tymor wyna dyma ni’n troi eto i feddwl am Iesu, Oen Duw. Y defaid a’r ŵyn sy’n dod yn gyntaf yr adeg yma a nhw sy’n cael y flaenoriaeth. A ninnau, fel defaid ac ŵyn Duw sy’n cael y flaenoriaeth gan Dduw hefyd. Mae Iesu’n gofalu amdanom ac yn bugeilio drosom. Roedd yno cyn ein geni fel y mae’r ffermwr wedi bod yn gofalu am y ddafad ymhell cyn iddi gael oen. Mae Iesu yno hefyd ar ein genedigaeth ac yn clywed ein hanadl gyntaf! Mae’n gwylio drosom i’n porthi a bydd yno hefyd ar hyd ein hoes pan fyddwn yn crwydro, yn gwaelu neu’n magu ŵyn ein hunain! Mae’n bugeilio ein teuluoedd fel y mae ffermwr yn bugelio’r praidd a’i ddyhead mawr yw dwyn ei ddefaid i ddiogelwch ei gorlan lle caiff eu bugeilio am byth.

Yn llyfr y Datguddiad y mae’r geiriau hyn rwy’n eu darllen pob tro y byddaf yn arwain traddodiant: “A bydd yr Oen, yr hwn sydd yng nghanol yr Orsedd yn eu bugeilio hwynt ac yn eu harwain at ffynhonnau dyfroedd bywyd…” (Datguddiad 7: 17)

Mae’r geiriau yn ein hatgoffa fod Iesu yn Oen sydd wedi ei ladd ond ei fod eto’n fyw, a’i fod yn Oen sydd hefyd yn Fugail sydd yn gallu arwain pobl i fywyd tragwyddol fel y mae bugail yn arwain ei ddefaid at ddŵr i’w cadw’n fyw.

Yr hyn sy’n rhyfeddol am y disgrifiad hwn o’r Arglwydd Iesu yw’r mawredd sy’n perthyn iddo ond hefyd ei fod yn ddarlun mor gyfarwydd i ni.

Mae pob bugail da yn rhoi ei fywyd dros y defaid yn y tymor yma o brysurdeb a gofal. Rhoddodd Iesu ei fywyd trosom ni. Rhoddodd ei orau i ni. Wnaeth o ddim arbed ei hun. Ffrwyth llafur y ffermwr ydi’r boddhad o weld llond cae o ŵyn iach yn pesgi ar y tir. Gweld ffrwyth i’r holl fuddsoddiad yn y bridio a’r paratoi gofalus. Gweld ymlaen mae’n debyg i’r tymor nesaf a’r tymor ar ôl hynny.

Yn llyfr y proffwyd Eseia lle mae Duw yn rhoi gwybod i’w bobl am ddioddefaint Crist – pennod 53 – y mae’n dweud y bydd Crist, wrth ddioddef a marw yn gweld ffrwyth ei lafur – llafur ei ddioddefaint ar y groes. Dyma’r adnod: ‘Pan rydd ei fywyd yn aberth dros bechod, fe wêl ei had, fe estyn ei ddyddiau, ac fe lwydda ewyllys yr Arglwydd yn ei law ef.’ (Eseia 53: 10)

Ar drothwy’r Pasg diolchwn i Iesu ei fod wedi ein gweld ymlaen i’r dyfodol a’i fod wedi ein gweld ni o groes Calfaria a’n gwneud ni yn rhan o ffrwyth ei aberth Ef! Rhyfeddwn at y gwirionedd hefyd mai ewyllys Duw yw ein bugeilio ni a’n gwneud yn ddefaid ei borfa!

Croeso i oedfaon y dydd! Braf fydd cael canu mawl i’n Harglwydd a’i ganmol gyda’n gilydd. “Teilwng yw yr Oen”!

Aneurin

Llais Bro Aled 24.03.13(PDF)

Llais Bro Aled 24.03.13(Word)

Comments are closed.