Dydd Sul, 2 Chwefror 2014

Darlleniad y Dydd:  2 Corinthiaid 1: 1-7  (BCND tud.196  / BCN: tud.179)

Bore da a chroeso i oedfaon y dydd. Cefais fy nharo gan hanes Terezin yr wythnos hon wrth wylio rhaglen deledu am y lle. Ar ôl bod hefo Eilir a’r corau ym Mizoram, roedd y rhaglen yn hynod o afaelgar. Rhaglen ydoedd am hanes côr o Iddewon – côr o garcharorion y Natsïaid a fu’n gaeth yn ‘nhref’ Terezin yng ngwlad Tsiec dros gyfnod yr ail ryfel byd. Roedd rhai o’r Iddewon hyn wedi bod yn flaenllaw ym myd busnes a’r celfyddydau, ond bellach, roeddent yn cael eu camdrin yn enbyd a’u gorfodi i fyw a gweithio mewn gwersyll erchyll yn Terezin. Roedd yr amodau byw yn farbaraidd – lle i 6 mil o bobl ond 60 mil yn ceisio byw yno heb fawr o fwyd na gwres, a mil y diwrnod o bobl a phlant yn cael eu rhoi ar drên a’u gyrru i Auschwitz i farw yn y celloedd nwy yno, tra byddai mwy pob dydd yn cyrraedd Terezin.

Yn wyneb y fath greulondeb, llwyddodd un cerddor i gynnal ysbryd y ‘dref’ trwy ffurfio côr. I gychwyn, canu hen alawon Tsiec a fyddent ond roedd angen i’r Natsïaid gorthrymus glywed neges wahanol. Un o’r meddiannau a oedd gan y cerddor ifanc, Rafael Schachter, ymhlith ei eiddo prin oedd un copi o’r Requiem gan Verdi a dyma fynd ati i’w dysgu fesul cymal i’r côr. Yn y darn, mae darlun o Dduw fel Barnwr yn gweithredu o blaid y rhai a orthrymwyd ac yn dial eu cam. Roedd llygad-dystion ar y rhaglen yn tystio i’r ffordd ryfeddol a dirgel y byddent yn dod at ei gilydd i ymarfer a’r gwahaniaeth a wnai perthyn i’r côr i fywydau ac ysbryd yr unigolion. Ar ddiwedd dydd, byddai’r côr yn ymarfer mewn hen selar damp a thywyll a byddai’r gerddoriaeth yn eu codi i fyd arall ac yn eu hatgoffa o fawredd a phrydferthwch gorau dynoliaeth. Codai’r gerddoriaeth eu hysbryd uwchlaw dioddefaint corfforol, ofn a phryder, gan gyflawni pwrpas nefol. Yn 1944, perfformiwyd y Requiem gerbron y milwyr ffiaidd a chafodd y geiriau eu clywed ganddynt. Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach roedd Rafael Schachter a gweddill y côr yn cael eu cludo ar wagenni anifeiliaid gan y trên a oedd yn arwain i Auschwitz.

Am dros ddegawd bellach, bu’r arweinydd cyfoes, Murry Sidlin, yn paratoi ei hun a’i gôr i fynd yno i Terzin i berfformio’r Requiem enwog, a hynny yng nghwmni’r llygad-dystion. Llwyddodd, ac fe gafodd y muriau tamp glywed cerddoriaeth ogoneddus Verdi unwaith eto. “Er mwyn iddynt wybod ein bod wedi eu clywed” – dyna oedd baich Sidlin. (BBC Four “Remembering the Holocaust: Defiant Requiem.”)

Gwelwn o’r darlleniad yr wythnos nesa nad yw erledigaeth hiliol yn ddieithr i’r Iddewon ond cofiwn, o ystyried y darlleniad heddiw, fod Duw yn ein herio ni i ddefnyddio’r ffordd y cawn ein cysuro ganddo yn ein profedigaethau a’n treialon i gysuro eraill. Mae Duw yn ein “cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion, felly rydan ni, yn ein tro, yn gallu cysuro pobl eraill. Rydan ni’n eu cysuro nhw trwy rannu am y ffordd mae Duw’n ein cysuro ni.” Dyma her wirioneddol i ni.

Aneurin

Llais Bro Aled 02.02.14 (PDF)

Llais Bro Aled 02.02.14 (Word)

 

Comments are closed.