Dydd Sul, 16 Chwefror 2014

Darlleniad y Dydd:  Job 39:1-4 (BCND tud.487  / BCN: tud.444)

Bore da, a chroeso mawr i bawb ohonoch i’n hoedfaon heddiw. Gobeithio’ch bod wedi dygymod â’r stormydd mawr yn ddiweddar a gweddïwn dros y rhai hynny sydd wedi wynebu colledion a phryderon yn sgil y tywydd garw.

Yn ein darlleniad ar y cyd heddiw, rydym yn gweld rhan o ymateb Duw i gwestiynau mawr Job ynglŷn â dioddefaint. Nid yw’r Arglwydd yn cynnig atebion syml, ffwrdd a hi i Job, nac ychwaith yn rhoi esboniad manwl iddo o’i sefyllfa. Yn hytrach, mae’r Arglwydd yn arwain Job i ystyried cymhlethdod bywyd, a’r dirgelwch mawr sydd ynghlwm wrth lywodraeth Duw dros ei holl greadigaeth. Mae’n gwneud hyn ar ddechrau Job 39 trwy gyfeirio at yr anifeiliaid gwyllt nad oes neb dynol yn eu bugeilio, ond sydd serch hynny yn rhan o drefn creadigaeth Duw. A ninnau’n agosáu at gyfnod yr wyna, gallaf ddychmygu bod llawer o baratoi at y prysurdeb (a’r diffyg cwsg!). Hyd yn oed gyda’r paratoadau mwyaf trylwyr, mae llawer yn ddibynnol ar dywydd sy’n parhau’n anwadal ac yn gallu achosi problemau enfawr fel y gwelwyd y llynedd. Er ein holl ymdrechion fel dynoliaeth i ddeall y greadigaeth a’i threfn, rhaid i ni gydnabod bod elfen gref o ddirgelwch wastad am fodoli. Ond serch y dirgelwch  yma, mae’r Beibl yn ein dysgu nad yw’r Cristion i fodoli mewn ansicrwydd na phryder parhaus ynglŷn â’r dyfodol. Lawer gwaith yn y Beibl, gwelwn enghreifftiau sy’n dangos y gallwn, ac y dylem ddibynnu ar yr Arglwydd sydd wedi’n creu ac yn ein galw i berthynas gariadus gyda’i hun trwy Iesu. Gallwn ddibynnu arno oherwydd ei allu mawr, ac yn sgil ei haelioni tuag at ei bobl. Sylweddolwn yn sgil hyn nad oes angen i ni adael i ofnau nac ansicrwydd danseilio ein ffydd. Cyfeiriodd Iesu yn ei bregeth ar y mynydd yn uniongyrchol at fywyd gwyllt er mwyn dysgu ei ddisgyblion nad oedd angen iddynt bryderu am yfory: ‘Edrychwch ar adar yr awyr: nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn casglu i ysguboriau, ac eto y mae eich Tad nefol yn eu bwydo. Onid ydych chwi yn llawer mwy gwerthfawr na hwy?’ (Mathew 6:26)

Beth am i ni fynd â’n cwestiynau dwys at Dduw mewn gweddi heddiw, ac er na chawn ateb i bopeth,  diolchwn Iddo a molwn Ef wrth gofio neges ail bennill emyn Dafydd William (736 Caneuon Ffydd):

O anfeidrol rym y cariad,
anorchfygol ydyw’r gras,
digyfnewid yw’r addewid
bery byth o hyn i maes;
hon yw f’angor ar y cefnfor,
na chyfnewid meddwl Duw;
fe addawodd na chawn farw,
yng nghlwyfau’r Oen y cawn i fyw.

Rhodri

Llais Bro Aled 16.02.14 (PDF)

Llais Bro Aled 16.02.14 (Word)

Comments are closed.