Dydd Sul, 18 Ionawr 2015

Darlleniad y Dydd: Luc 2:34-40 (BCND tud.63 / BCN: tud.58)

Bore da a chroeso i oedfaon y dydd heddiw pryd y cawn gyfle hefo’n gilydd eto i godi golwg ffydd at Iesu a’i addoli. Mae Iesu wedi dweud ei fod yn Fugail Da ac y mae gwirionedd hynny’n dod yn fyw iawn i ni yng nghanol profedigaethau mawr bywyd. Yn enw Iesu’r Bugail Da mae’r eglwys yn bugeilio hefyd a byddwn yn cyd-weddïo heddiw yn sicr am nerth i ddangos ein bod fel cydaelodau o gorff Crist yn cydymdeimlo mewn cariad gyda phawb o’n plith sydd mewn galar.

Gelyn na chafodd eto ei ddileu ydi angau (1 Cor 15: 26). Collodd ei rym ym muddugoliaeth Iesu ar y groes ac yn ei atgyfodiad. Collodd ei fraw hefyd gan fod y bywyd tragwyddol sydd yn Iesu yn drech nag o (1 Cor 15: 56). Ond y mae o yn ein plith o hyd fel y gwyddom yn dda ac felly mae’n rhaid i bob un ohonom ei wynebu. Gwnawn hynny gyda’r Bugail Da wrth ein hymyl i’n hamddiffyn a nerth ei Ysbryd ynom.

Dwi wedi dod i weld fod disgrifiad Iesu ohono’i hun fel Bugail yn un godidog iawn oherwydd mae’n disgrifio gymaint o agweddau o ofal Duw trosom. Mae’n ceisio’r ddafad golledig (Luc 15). Mae hefyd yn un sy’n sefyll yn hyderus wrth wynebu’r blaidd er mwyn amddiffyn y praidd, ac nid yw’n rhedeg i ffwrdd fel y byddai gwas cyflog (Ioan 10). Ei ddefaid o ydan ni (Salm 100) – ac oherwydd hynny mae ei ofal yn ofal i’r eithaf (Ioan 17), i’r graddau ei fod yn fodlon rhoi ei hun trosom a marw yn ein lle (Ioan 10). Mae hefyd yn ein codi i’w fynwes ac yn ein coleddu pan mae’n angen ni fwyaf amdano (Eseia 40:11).

Mewn lle arall, yn Salm 23, mae sôn am ddyffryn tywyll du, glyn cysgod angau, lle cawn y profiad o fod ‘Duw gyda ni’, ei wialen a’i ffon yn ein cysuro. Weithiau, byddwn yn cerdded ochr yn ochr ag angau am gyfnod hir o amser. Trwy salwch hir efallai, neu wrth ofalu dros eraill. Mae hyn fel cerdded trwy’r dyffryn hwn a phrofwn gynhaliaeth gyson a chymdeithas y Bugail Da yn ein cynnal a’n cysuro. Dro arall fe ddaw angau fel blaidd neu lew i gipio ar amrant, yn ddisymwth, yn frawychus o  sydyn. Nid ydym wedi ei ddisgwyl ac mae ei ddylanwad i’w weld mor derfynol.

Ar adegau fel hyn, cofiwn am allu’r Bugail i arbed ei ddefaid o enau’r llew. Mae’r bugail dewr, Dafydd, yn gysgod o ddewrder a gallu Iesu’r Bugail Da. Mae’n dweud hyn am ei brofiad: “Bugail ar ddefaid ei dad yw dy was; pan fydd llew neu arth yn dod ac yn cipio dafad o’r ddiadell byddaf yn mynd ar ei ôl, yn ei daro, ac yn achub y ddafad o’i safn.”( 1 Samuel 17:34)

Credwn ninnau fod y rhai a gipiwyd yn sydyn gan angau hefyd yn brofiadol o Iesu yn dod i’w harbed o ‘safn y bedd ac angau’ a bod y Bugail Da wedi eu cipio’n ddiogel i’w fynwes ac i’w fywyd tragwyddol o afael y gelyn mawr (Datguddiad 21:4).

Aneurin

Llais Bro Aled 18.01.15 (PDF)

Llais Bro Aled 18.01.15 (Word)

Comments are closed.