Dydd Sul, 25 Ionawr 2015

Darlleniad y Dydd: Sechareia 4:1-6 (BCND tud.860 / BCN: tud.784)

Croeso cynnes i bawb ohonoch i’n gwasanaethau ar draws Bro Aled. A hithau’n ddydd dathlu cariad yng Nghymru heddiw, diolchwn am gariad Duw sydd bob amser drosom (Salm 103:11) ac sy’n sylfaen a gwraidd bywyd pob Cristion. Wrth i ni ystyried mor fawr yw cariad Duw tuag at ei bobl, gweddïwn am i’r cariad hwnnw ddod yn realiti cynyddol yn ein bywydau ni a’n cydnabod yng nghanol pob siom, pryder a cholled. Derbyniwn wahoddiad Iesu i fynd ato gan ymddiried ynddo a rhyfeddu ei fod Ef yn ‘Waredwr cryf i’r gwan’.

Trown heddiw at un arall o’r proffwydi llai cyfarwydd yn y Beibl. Sechareia yw’r llyfr olaf ond un o’r Hen Destament ac mae’n llawn gweledigaethau symbolaidd o’r hyn oedd i ddigwydd i bobl Dduw mewn amser digon anodd yn eu hanes. Cafodd Jerwsalem ei dinistrio, a’r genedl ei chaethgludo i Fabilon. Ond er hyn, mae Duw yn rhoi neges o obaith i’w bobl yn eu hangen, a’r neges honno oedd bod brenin am ddod i ennill buddugoliaeth ac achub. (Sechareia 9:9)

Er fy mod i’n hoff o chwaraeon yn gyffredinol, tydi golff ddim yn ffefryn gen i. Gallaf edrych ar ychydig ar y teledu, ond mae ceisio chwarae’r gêm yn gamgymeriad! Oherwydd diffyg profiad, fy nhactegau golffio yw trio taro’r bêl gyda’m holl nerth gan obeithio y bydd yn glanio yn ymyl y twll. Yn naturiol yr hyn sy’n digwydd gan amlaf yw methu taro’r bêl a mynd yn fwy a mwy rhwystredig wrth i hynny ddigwydd drosodd a throsodd! Wrth gwrs, mae pob golffiwr profiadol yn gwybod mai techneg yw’r peth allweddol wrth daro pêl golff yn hytrach na nerth y golffiwr.

Yn y rhan a ddarllenwn o bennod 4 Sechareia ceir adnod arbennig sy’n dangos rhywbeth tebyg am waith Duw hefyd. Nid yw Duw yn ddibynnol ar nerth na niferoedd dynol. Yn adnod 6 gwelwn: ‘Nid trwy lu ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd,’ medd Arglwydd y Lluoedd.’ Mae hyn yn gysur i’r Cristion oherwydd yn aml gallwn ddigalonni oherwydd ein maint neu wendid corfforol. Ond mae’r adnod yma’n ein hatgoffa nad cryfder dynol na niferoedd helaeth sydd ei angen ar i Dduw weithredu ei fwriadau, ond yn hytrach gwaith goruwchnaturiol ei Ysbryd. Yr Ysbryd Glân sy’n dangos i ni ein hangen am faddeuant, ac yn ein harwain at groes Iesu i dderbyn y ffisig ganddo Ef sydd ddim i’w gael gan y byd. Yr Ysbryd sy’n cadarnhau ein bod ar ôl ymddiried yn Iesu bellach yn blant i Dduw. Mae’r Ysbryd hyd yn oed yn ein cynorthwyo mewn gwendid, gan ymbil drosom pan nad ydym yn gwybod beth i weddïo. (Rhufeiniaid 8:26) Beth bynnag yw ein sefyllfa felly, beth am roi llai o sylw i nerth, maint a gallu dynol, a gofyn yn hytrach ar i Ysbryd Duw weithio’n nerthol ynom ni a’n heglwysi er gogoniant i’r Arglwydd?

Rhodri

Llais Bro Aled 25.01.15 (PDF)

Llais Bro Aled 25.01.15 (Word)

Comments are closed.