Mae hi’n fore Sul y Pasg! Cawn gyfle heddiw i gofio a dathlu dydd atgyfodiad Iesu! Mae’r gred yn yr atgyfodiad yn hollol ganolog i’r ffydd Gristnogol. Heb gredu hyn, ofer yw ein ffydd – does gennym ddim i obeithio ynddo. OND! ‘y gwir yw fod Crist wedi ei gyfodi!’ (1 Cor.15:20). Y mae gennym le felly i bob gobaith yng Nghrist – gobaith na chawn ein siomi ganddo! (Rhuf.5:5)
Tybed a gawsoch chi gyfle wedi holl brysurdeb yr wyna i edrych ar ffrwyth eich llafur? Gallaf ddychmygu rhai ohonoch yn rhyw droi yn ôl i edrych ar lond cae o ddefaid ac ŵyn ac yn teimlo yn ’o bles hefo’r hyn a welwch chi! Pwyso ar ambell i giat neu sbio o ben tractor ac yn teimlo ei bod wedi bod yn werth yr holl ymdrech. Mae rhywbeth yn braf mewn cael cynhaeaf – cynhaeaf ŵyn yn ei bryd fel pob cynhaeaf arall – a chael gweld ffrwyth eich llafur eto ar y tir. Teimlad heb ei ail yw cael gorffen!
Dyna sydd mor rhyfedd am dymor yr arholiadau hefyd. Er gwaetha’r straen a’r boen o adolygu a pharatoi, mae cael gorffen yr arholiad ola yn bleser o’r mwya! Neu mi roedd i mi ers talwm! Cael edrych ymlaen at yr haf a chael teimlo bod y cyfan wrth gefn, wedi ei orffen!
Yn Oedfa’r Fro heno byddwn yn ystyried y gair “Gorffennwyd” a lefarodd yr Arglwydd ar y groes. Nid gair gŵr yn sigo dan boen oedd hwn ond gair buddugoliaeth! Gwyddai Iesu nad oedd dim arall i’w ychwanegu at yr hyn a oedd yn rhaid digwydd i Dduw gael ei ogoneddu’n llawn ac i’r iachawdwriaeth fawr gael ei chyflawni! Mater o amser bellach oedd cael y fuddugoliaeth ar angau – tri diwrnod a dweud y gwir! Pan aeth Mair a’r disgyblion at y bedd, chwilio am gorff marw yr oeddent. Yr hyn a welsant oedd bedd gwag a Iesu byw!
Edrych yn ôl, gweld y gwaith wedi ei orffen a gweld ffrwyth ei lafur – dyna a gafodd Iesu. Cael y profiad o weld Mair yn ei addoli, cael gweld Pedr yn cael ei adfer trwy ras, clywed Tomos yn cyffesu “Fy Arglwydd a’m Duw” – dyna ffrwyth llafur Iesu! A phob tro y bydd un ohonom ni yn edifarhau a dod i gredu ynddo mae llawenydd yn y nefoedd oherwydd fe gaiff Crist fwy eto o ffrwyth ei lafur sef gweld ei ddefaid a’i ŵyn – y rhai y bu farw yn eu lle – yn llenwi’r nefoedd! ‘Am fod fy Iesu’n fyw, byw hefyd fydd ei saint!’
Dewch heddiw, a dewch heno i ddathlu gwaith gorffenedig Crist a gadewch i ni ryfeddu eto at ei atgyfodiad nerthol!