Dydd Sul, 21 Chwefror 2016

Darlleniad y Dydd: Mathew 22:41-46 (BCND:tud.27/BCN: tud.25)

Mae trafodaethau pwysig ar y gweill yn Ewrop ar hyn o bryd a fydd yn llywio’n barn ynglŷn â sut i bleidleisio yn y refferendwm sydd i ddod cyn hir. Mewn neu mas – dyna fydd y cwestiwn i ni fel poblogaeth. Cwestiwn syml iawn ond fe fydd y dadleuon o blaid ac yn erbyn yn gymhleth ac fe fydd llawer un yn ceisio’n perswadio ar sawl lefel. Diau y bydd rhai yn defnyddio dadleuon economaidd, dadleuon emosiynol ar sail rhagfarn, eraill o blaid gweledigaeth fawr ynglŷn â dyfodol Ewrop a rhai wedyn o blaid meithrin perthynas masnachol newydd hefo economïau newydd India a China a symud oddi wrth ein dibyniaeth ar Ewrop. Cwestiwn syml – ond mae dod i benderfyniad yn gymhleth a dweud y lleiaf!

Heno byddwn yn edrych ar hanes Josua yn arwain y genedl i mewn i wlad yr Addewid. Roedd yna benderfyniadau mawr i’w gwneud yr adeg hynny hefyd. Ond yn y bôn yr un cwestiwn – i mewn, neu mas! Roedd storïau brawychus yn dod yn ôl gan yr ysbïwyr am natur y wlad a’i phobl, ond roedd eraill yn dweud am y manteision tymor hir – a bod adnoddau’r wlad newydd yn eithriadol. Wedi’r cyfan – gwlad yn llifeirio o laeth a mêl oedd hi! Mae Josua wedi dod i benderfyniad, ac wrth wneud ei benderfyniad yn gyhoeddus fel arweinydd o flaen y bobl, mae Josua yn gosod ger eu bron ei resymau a’i argyhoeddiad personol. Mae yna un ffactor pwysig sydd yn ei yrru ymlaen, sef ei ymddiriedaeth yng nghynllun Duw ar gyfer y genedl ifanc a oedd dan ei ofal. Roedd o’n gweld mai dyma oedd bwriad Duw iddyn nhw feddiannu’r wlad yn ei nerth o gan y byddai Duw gyda nhw a gan mai Duw sy’n ffyddlon i’w Air ydi Duw. (Deuteronomium 31:7-8)

Roedd Josua, wrth ddatgan ei ffydd, yn gwneud hynny ar sail ei gred y byddai Duw yn ffyddlon iddo’i hun yn bennaf. Dyma eiriau’r cyfamod a wnaeth Duw hefo Israel a oedd yn canu yng nghalon Josua wrth iddo fentro ymlaen:

“Yr wyf yn galw’r nef a’r ddaear yn dystion yn dy erbyn heddiw, imi roi’r dewis i ti rhwng bywyd ac angau, rhwng bendith a melltith. Dewis dithau fywyd, er mwyn i ti fyw, tydi a’th ddisgynyddion, gan garu’r Arglwydd dy Dduw a gwrando ar ei lais a glynu wrtho…..” (Deuteronomium 30: 19-20)

Ar sawl ystyr, mae’r argyhoeddiad a gawn gan yr Ysbryd i benderfynu ymddiried ein bywyd i’r Iesu yn gwestiwn syml – byw ynddo neu farw hebddo – ond mae’r gwaith o’n cael i ddewis bywyd yn gymhleth ofnadwy gan fod ein calonnau mor dwyllodrus. Beth am ddefnyddio heddiw i ymgysegru fel y gwnaeth Josua i ‘wasanaethu’r Arglwydd’ yn unig (Josua 24: 14-16) a gweddïo am nerth yr Ysbryd i feddiannu holl fendithion gwlad yr Addewid sydd gennym yng Nghrist?

Aneurin

Llais Bro Aled 21.02.16 (PDF)

Llais Bro Aled 21.02.16 (Word)

Comments are closed.