Darlleniad y Dydd: Actau 12: 1-5 (BCND:tud.142/BCN: tud.130)
Bore da a chroeso i’r oedfaon heddiw. Rydym yn ddiolchgar i gyfeillion o’r Henaduriaeth sydd wedi dod atom y ddau Sul olaf yma i drefnu’r pleidleisio – gobeithio eu bod wedi mwynhau croeso’r eglwysi i gyd yn eu tro. Rydym yn ymddiried yn Nuw fod ganddo ddyfodol ar ein cyfer ac ar gyfer ei waith yn ein plith dros y cyfnod nesaf yma yn ein hanes fel gofalaeth. Codwn ein llygaid eto at yr Arglwydd a’n gwnaeth, ac a’n gwnaeth yn ‘ddefaid ei borfa’. (Salm 100) ‘Deuwn i’w byrth a diolch’ a dyrchafwn ei Enw gyda’n gilydd. Mae Iesu yn haeddu pob mawl ac anrhydedd gan mai Ef yn unig sy’n deilwng i agor dirgelwch Duw i ni.
Mi fydda i’n rhyfeddu wrth edrych ar bres papur! Rhyfeddu cyn lleied dwi’n gallu ei brynu hefo fo gan amlaf a meddwl yn ôl i amser yr hen bapur deg swllt coch hwnnw oedd werth gymaint mwy na 50c! Ond mae pres papur yn eithriadol o gywrain ar un olwg – pob llinell, ysgrifen a llun yn berffaith yn eu lle. Ond wrth edrych ar bapur pum punt, er enghraifft, dydi o ddim yn bapur deg punt er ei fod o mor debyg. Mae’n rhaid cael papur pum punt i ddangos i ni beth ydi papur pum punt. Yn yr un modd ni all neb ond Duw ddatguddio Duw i ni. Mae’n rhaid i ni gael Duw i ddangos i ni pwy ydi Duw. Er fod y cread oll yn tystio i fawredd Duw, dydi’r cread, er ei fawredd, ddim yn Dduw. Welwn ni mo Dduw yn llawn wrth edrych ar y pethau a greodd. Mae’n rhaid i ni wrth ddatguddiad gwell na hynny – a dyna gawn ni yn Iesu trwy i’r Ysbryd Glân ei ddatguddio yn Dduw ac yn ddyn i ni. Yn Iesu Grist rydym yn cael gweld Duw yn llawn (Colosiaid 1:19) ac mae tystiolaeth yr Ysbryd Glân yn ddibynadwy hefyd gan fod yr Ysbryd Glân yn Berson Duw hefyd ac yn adnabod dyfnderoedd Duw yn gyflawn (1 Corinthiaid 2:10).
Mae neges yr Efengyl felly, o’r cychwyn cyntaf yn siŵr o achosi gwrthwynebiad fel y gwelwn ni o’r darlleniad heddiw. Gwrthwynebiad hyd at y man lle’r oedd Cristnogion yn cael eu lladd am arddel Dwyfoldeb, Arglwyddiaeth a dyndod llawn Iesu. I’r Cristnogion a oedd yn llygaid-dystion i’r Iesu atgyfodedig, doedd yna neb na dim uwch na Iesu – yn sicr neb o frenhinoedd na llywodraethwyr y gwledydd nac unrhyw dduw na duwies o’u heiddo. Lladdwyd Iago, brawd Ioan gan gleddyf Herod oherwydd ei fod yn meiddio cyhoeddi’r newyddion da am atgyfodiad Iesu a’i Arglwyddiaeth ac am fod llawer, o glywed y newyddion da, yn ‘troi at yr Arglwydd’. Mae’n syndod o hyd fod newyddion gorau’r byd yn creu y fath atgasedd a gwrthwynebiad ond dyna oedd profiad yr Eglwys Fore. Mae addoli Iesu yn her aruthrol i drefn y byd ond dyma’n braint.
Aneurin
Llais Bro Aled 10.04.16 (PDF)
Llais Bro Aled 10.04.16 (Word)