Darlleniad y Dydd: Datguddiad 1: 12-19 (BCND:tud.270/BCN: tud.248)
Bore da a chroeso i oedfaon y dydd! Rydan ni wedi cael ein bendithio’n fawr yn ddiweddar wrth droi at lyfr Eseia yn y Beibl a sylwi gymaint a gafodd o ei weld o gynllun Duw ganrifoedd cyn geni Iesu Grist. Rydan ni’n meddwl am broffwydi fel rhai sy’n medru gweld ymlaen – proffwydo’r dyfodol. Mae gan bob un ohonom ddiddordeb yn yr hyn sydd o’n blaenau ni – ac mae’n siŵr ei fod yn beth reit iach cymryd diddordeb yn yr hyn sy’n mynd i ddigwydd i ni!
Wedi dweud hynny, mae yna ffyrdd gwell na’i gilydd i ddod â ni i weld ein dyfodol. Dibynnu ar y Beibl sydd orau i ni o bell ffordd, yn hytrach na chwilio am swynwyr sy’n mynd i honni y medran nhw weld manylion ein dyfodol. (Eseia 8:19)
Gwyddoniaeth gyntefig sydd ganddom ni o hyd i broffwydo’r dyfodol, hyd yn oed yn y byd meddygol – does yr un ‘prognosis’ yn gant y cant. A phwy all ragweld sut y bydd hi ar beldroedwyr Cymru yn yr ‘Euros’? Mae angen gofal mawr felly wrth ymddiried y dyfodol i unrhyw wyddoniaeth, ffawd na pherson. Felly, pam ddylen ni wrando ar broffwydi’r Beibl?
Un rheswm ydi hyn: cael gwybod beth yr oedd Duw am ei wneud oedd y proffwydi yn y Beibl. Cael datguddiad o gynllun a bwriadau Duw oedden nhw, ac ar ôl cael gwybod beth oedd cynllun Duw, fe fydden nhw hefyd yn cael gwybod beth oedd am ddigwydd i unigolion a phobl o ganlyniad i’r ffordd yr oedd Duw am siapio’r dyfodol. Fe fydden nhw’n dweud wrth y bobl, heb flewyn ar dafod, beth oedd eu hopsiynau, a beth fyddai canlyniadau gwrando neu wrthod gwrando ar yr hyn yr oedd Duw yn ei ddweud, a’r hyn yr oedd o am ei wneud.
Yr hyn sy’n rhyfeddol am lyfr y proffwyd Eseia ydi pa mor gywir a manwl ydi’r datguddiad a gafodd o’r ffordd yr oedd Duw am ddelio hefo sefyllfa’r byd. Roedd Duw am ddod fel baban, fel plentyn, fel gwas i’w fyd ei hun! Roedd am ddod i gymryd arno’i hun ‘ein doluriau ni, a’n hanwireddau ni i gyd’. Byddai’n dod fel yr Oen i’w ladd yn ein lle! Y Meseia, Iesu, a Iesu’n unig fyddai yn Iawn dros bechodau’r holl fyd, ac fel Oen Duw, byddai’n atgyfodi ac yn derbyn ‘pob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear’. Fe fydd dyfodol pob un ohonom yn dibynnu ar ein cred ynddo, neu ein hanghrediniaeth ynddo.
Pa ddychymyg dynol fyddai’n gallu proffwydo hyn am y ffordd y byddai Duw yn gweithredu? Mae’n rhaid bod Ysbryd Duw yn goleuo’r proffwydi ac yn eu cynghori. Dyna pam mae’r Beibl yn well i ni na dim pan mae’n dod yn fater o ystyried ein dyfodol! Os ydach chi eisiau gwybod beth sydd am ddigwydd i chi, darllenwch y Beibl! Mae Gair Duw yn ddibynadwy ac yn gallu goleuo ein dyfodol ni trwy’r un Ysbryd.
Aneurin
Llais Bro Aled 12.06.16(Word)