Dydd Sul, 19 Mehefin 2016

Darlleniad y Dydd: Eseia 51:1-3 (BCND:tud.667/BCN: tud.609)

Bore da a chroeso i chi i oedfaon y Sul. Gweddïwn y byddwn fel Bro yn cael profiad personol o ras rhyfeddol ein Duw rhyfeddol heddiw.

O’r holl bethau ddigwyddodd yr wythnos ddiwethaf – y doniol, y gwych, y siomedig a’r rhyfedd – mae ’na un peth yn sefyll allan yn amlwg, sef llofruddiaeth aelod seneddol Batley a Spen, Jo Cox, brynhawn ddydd Iau. Mae ein gweddïau a’n cydymdeimlad gyda’i theulu a’i ffrindiau yn yr amser dwys iawn yma. Mewn wythnos yn llawn o sôn am chwaraeon, am wleidyddiaeth, ac am chwaraeon mewn gwleidyddiaeth, mae’r drosedd hon mor ddifrifol gan ei bod hi wedi cael ei hethol i gynrychioli a cheisio gwella ei hardal. Roedd hi’n ddieuog ac yn ddiniwed o unrhyw drosedd, mewn swydd gyhoeddus yn ceisio gwneud gwahaniaeth i’w hardal leol ac ar ran ymgeiswyr lloches.

Er ei holl waith a’i holl fwriadau da, daeth hyn i gyd i ben brynhawn dydd Iau. Gwelais un person ar y we yn gofyn “I ba gyfeiriad mae’n cymdeithas ni’n mynd?”

Mae ein Byd angen Yr Efengyl. Mae adegau fel yma yn dangos i ni pa mor dorredig yw ein byd. Mae’n dangos gymaint o gasineb a dicter sydd yn ein cymdeithas. Os ydan ni’n cyfuno’r digwyddiad difrifol o drist yma gyda phethau eraill sydd wedi bod ar y newyddion – cefnogwyr pêl-droed yn creu trwbl ac yn ymladd yn Ffrainc; y refferendwm Ewropeaidd a’r holl gasineb a thyndra mae hwnnw wedi ei greu; yr etholiadau yn America sydd fel tase nhw’n defnyddio ofn a chasineb fel tanwydd ar gyfer y dadleuon – mae’n dod yn amlwg ein bod ni fel pobl yn gwbl llygredig ein natur, nid yn unig yn ein gweithredoedd a’n geiriau.

Mewn amser fel yma, mae’n rhaid i ni fel Cristnogion rannu’r Efengyl. Dim ond yr Efengyl sydd yn gallu ac yn mynd i roi gobaith. Dim ond yr Efengyl sy’n gallu newid ein natur er mwyn i ni ddod yn bobl sy’n dangos cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth (Galatiaid 5:22,23). Dim ond trwy Iesu Grist mae gwir newid natur. Dim ond marwolaeth ac atgyfodiad mab Duw all fynd at wraidd ein problem fel pobl – ein pechod – a’n rhyddhau ni o’n cadwyni.

Felly, wrth i ni edrych ar y byd o’n cwmpas a sylweddoli pa mor lygredig yw gan bechod, dowch i ni beidio ag anobeithio. Mae gobaith. Mae Iachawdwr.

Gwion

Llais Bro Aled 19.06.16(PDF)

Llais Bro Aled 19.06.16(Word)

Comments are closed.