Dydd Sul, 15 Ionawr 2017

Darlleniad y Dydd:  Mathew 8:5-13 (BCND:tud.8 / BCN: tud.8)

Bore da a chroeso cynnes i bawb ohonoch i’n hoedfaon ym Mro Aled heddiw. Wrth ysgrifennu’r geiriau hyn ar nos Iau, rwy’n eich croesawu i’r oedfaon yn y gobaith y bydd rhai yn cael eu cynnal yn ein capeli oherwydd mae rhagolygon y tywydd yn ddigon ansicr ar hyn o bryd! Beth bynnag a ddaw, gweddïwn am gael profi bendith Duw wrth fyfyrio ar ddymuniad Dafydd edifeiriol i gael ei olchi fel y byddai’n wynnach nag eira (Salm 51:7), a’r newyddion bendigedig mai marwolaeth Mab Dafydd, yr Arglwydd Iesu Grist sy’n ein glanhau o bob anghyfiawnder a phechod! (1 Ioan 1:7-9) Ac wrth ystyried hyn, a chymaint o gredoau mwyaf sylfaenol Cristnogaeth, daw’n amlwg fod y geiriau ‘trwy ffydd’ yn allweddol. Mae glanhad o anghyfiawnder a phechod yn dod i Gristnogion trwy ffydd yng Nghrist, ac nid yn awtomatig i bawb oherwydd yr hyn wnaeth Iesu.

Yn ein darlleniad ar y cyd heddiw gwelwn ffydd yn cael ei ddangos mewn ffordd glir ac annisgwyl. Yn y darn dan sylw o Mathew 8 gwelwn ganwriaid yn pwyso ar Iesu am gymorth. Roedd y canwriad yn swyddog ym myddin yr Ymerodraeth Rufeinig ac yn gyfrifol am gant o ddynion eraill. O’r herwydd gwyddai’n iawn sut oedd pethau’n gweithio o ran awdurdod. Roedd ef yn derbyn gorchmynion gan y rhai uwch ei ben ac yntau gydag awdurdod dros y milwyr dan ei ofal. Gan fod y Rhufeiniaid yn llywodraethu Israel ar y pryd gallwn ddychmygu statws a dylanwad y gŵr hwn, ond nid yw’n defnyddio hynny i’w fantais yn ei sgwrs hefo Iesu. Yn hytrach, mae’n dod yn wylaidd at Iesu gan sylweddoli nad oedd yn deilwng o’i sylw (gan na fyddai Iddewon yn mynd i dai’r cenhedloedd gan y byddai hynny yn eu gwneud yn aflan yn ôl y Gyfraith). Ond er mor ostyngedig ydoedd, nid oedd yn rhy swil i erfyn am gymorth gan Iesu. Dibynnodd ar allu ac awdurdod Crist i ateb ei angen, neu’n fwy penodol i achub ac iacháu ei was, a dyna a ddigwyddodd (ad. 13). Oherwydd ei ffydd, mae Iesu yn ei ganmol, ac yn ei ddefnyddio fel enghraifft a rhybudd i rai oedd yn credu mai hwy oedd pobl Dduw. Mae’r wers hon gan Iesu yn parhau i ninnau heddiw hefyd. Wrth ystyried ein ffydd personol rhaid i ni gwestiynu ydym ni’n dibynnu ar awdurdod ac aberth Crist i faddau pechod neu ydym ni’n tybio mai dyletswydd Duw yw rhoi maddeuant i ni? Ydym ni’n credu y cawn etifeddu bywyd tragwyddol oherwydd pwy ydym, neu ydym ni’n barod i ddod at Iesu gan gydnabod ein heuogrwydd a phwyso’n unig ar ei gyfiawnder pur Ef? Gweddïwn am arweiniad yr Ysbryd Glân i’n hargyhoeddi a’n tywys at y cyfoeth difesur o ras sydd ar gael i’r edifeiriol trwy ffydd yn Iesu Grist.

Rhodri

Llais Bro Aled 15.01.17(PDF)

Llais Bro Aled 15.01.17(Word)

Comments are closed.