Dydd Sul, 22 Ionawr 2017

Darlleniad y Dydd:  Numeri 21:4-9 (BCND:tud.143 / BCN: tud.131)

Croeso cynnes iawn i bawb ohonoch i’n gwasanaethau ym Mro Aled heddiw. Ar ddechrau wythnos lle mae’r Cymry’n draddodiadol wedi dathlu a mynegi cariad at ei gilydd mewn amrywiol ffyrdd, mae’n hoedfaon ni yn gyfle gwych i ddathlu a diolch gyda’n gilydd am gariad godidog yr Arglwydd Dduw. Mae digon o’n hemynwyr wedi mynd ati i ddisgrifio’r cariad hwn mewn penillion cofiadwy, ond tybed pa agwedd o gariad Duw sydd wedi eich taro chi yn ddiweddar? Y ffaith fod Ei gariad yn dragwyddol ac yn dra gwahanol i’r enghreifftiau dros dro o gariad yr ydym yn ei weld mor aml ar y sgrin? Neu beth am y ffaith fod cariad Duw yn Iesu Grist wedi’i gyfeirio tuag at bobl nad oes unrhyw beth hyfryd yn eu cylch? Yn wahanol i ffilmiau rhamantus lle mae rhinweddau un person yn dal llygaid ac yna’n ennyn serch person arall – yn y stori Feiblaidd nid gweld rhywbeth apelgar mewn pobl sy’n achosi i Dduw eu caru! Yn hytrach mae cariad Duw yn rhan o’i gymeriad a’i ddiddanwch perffaith fel Tad, Mab ac Ysbryd Glân ac mae’n cael ei ddangos tuag at bobl anhaeddiannol wrth i Iesu ddod i’r byd. Dyna mae Rhufeiniaid 5:8 yn ei ddweud wrthym mor glir: ‘Ond prawf Duw o’r cariad sydd ganddo tuag atom ni yw bod Crist wedi marw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid.’ Ydym ni’n sylweddoli mor eithafol yw’r cariad hwn?

Yn ein darlleniad ar y cyd, darllenwn am hanes o’r Hen Destament y mae Iesu ei hun yn cyfeirio ato wrth iddo siarad â Nicodemus. Yn Numeri 21 gwelwn bobl Dduw unwaith yn rhagor yn frawychus o anniolchgar – maent hyd yn oed yn disgrifio’r manna o’r nefoedd fel bwyd gwael sy’n gas ganddynt! Yn sgil eu gwrthryfel mae pla o seirff gwenwynig yn dod i’w plith ac yn naturiol mae’r Israeliaid yn crefu ar Moses i wneud rhywbeth i’w hachub. Wedi i Moses weddïo, Duw sy’n ymateb i gri ei bobl, ond mae’n gwneud hynny mewn ffordd dra gwahanol i’r hyn y mae’r Israeliaid yn ei ddisgwyl. Yn hytrach na chael gwared o’r seirff, creu sarff arall yw’r ffordd y mae Duw yn datrys y sefyllfa! Rhoddodd orchymyn i Moses greu sarff bres i’w gosod ar bolyn fel bod unrhyw un oedd wedi cael ei frathu yn gallu edrych arni a byw. Ac wrth i ninnau ystyried breuder bywyd a grym dinistriol pechod yn ein bywydau ac yn ein byd, rhyfeddwn fod cariad Duw yn golygu bod bywyd tragwyddol a maddeuant llwyr i’w gael heddiw, ond nid trwy edrych ar unrhyw wrthrych, ond trwy droi mewn ffydd at Fab y Dyn a godwyd ar groes. ‘Ac fel y dyrchafodd Moses y sarff yn yr anialwch, felly y mae’n rhaid i Fab y Dyn gael ei ddyrchafu, er mwyn i bob un sy’n credu gael bywyd tragwyddol ynddo ef.” (Ioan 3:14-15).

Rhodri

Llais Bro Aled 22.01.17(PDF)

Llais Bro Aled 22.01.17(Word)

Comments are closed.