Dydd Sul, 5 Chwefror 2017

Darlleniad y Dydd:  Galarnad 3:22-26 (BCND:tud.749 / BCN: tud.682)

Bore da a chroeso cynnes i bawb ohonoch i’n hoedfaon heddiw. Ar gychwyn y mis bach, ac yn wir ar gychwyn bob diwrnod yn ôl ein darlleniad ar y cyd, mae gennym reswm i ddiolch i’r Arglwydd oherwydd bod ei gariad a’i garedigrwydd yn ddiddiwedd ac yn newydd bob bore (Galarnad 3:22-23). Ystyriwch hyn am funud: diddiwedd ac eto’n newydd bob bore! Am faint o bethau yn ein bywydau y gallwn ddweud yr un peth? Dangosa hyn fod tosturi Duw atom yn bersonol – yn gwneud gwahaniaeth yn y sefyllfaoedd go iawn y byddwn ni yn ei wynebu. Hefyd mae ei gariad yn golygu y gallwn ddibynnu’n llwyr arno gan nad oes diwedd iddo. Ac wrth gwrs er bod cariad yn aml yn cael ei ddisgrifio mewn llawer o ffyrdd gwahanol, i’r Cristion mae cariad Duw wedi cael ei amlygu yn Iesu Grist ei hun – ein Gwaredwr ac Oen Duw sy’n cymryd ymaith bechod y byd. (Ioan 1:29) Gan fod Iesu Grist wedi rhoi addewid na fyddai’n gadael ei ddisgyblion yn amddifad, a’i fod wedi rhoi’r Ysbryd Glân yn rhodd iddynt, gallwn wynebu bob diwrnod yn hyderus bod cariad, caredigrwydd a chryfder at bob gofyn trwy’r hwn sydd yn fy nerthu i. (Philipiaid 4:13)

Yn ychwanegol at dderbyn aelodau newydd nos Sul diwethaf cawsom gyfle ganol yr wythnos flaenorol i ystyried dysgeidiaeth y Beibl ar waith a gorffwys. Dwi’n siŵr fod llawer ohonom wedi cael y profiad o deimlo baich prysurdeb ac amrywiol gyfrifoldebau yn pwyso arnom o bryd i’w gilydd, ac yn y cyfarfod cafwyd trafodaeth ar y ffordd y mae’r Beibl yn ein dysgu fod bywyd y Cristion i gael ei nodweddu gan waith a gorffwys, ac na ddylai’r naill na’r llall lwyr reoli. Er mwyn byw fel hyn rhaid i ni dderbyn doethineb gan yr Arglwydd i osod blaenoriaethau a gwneud dewisiadau anodd. Wrth gwrs, pen draw’r cyfan yw’r gorffwys tragwyddol a gawn yn yr Arglwydd Iesu Grist ei hun. Oherwydd i Iesu gyflawni ewyllys ei Dad yn llwyr trwy ei fywyd a’i farw aberthol ar y groes, nid oes angen i ni weithio i ennill unrhyw ffafr oddi wrth Dduw. Rhodd yw’r bywyd llawn sydd ar gael, ac wrth roi’n ffydd yng Nghrist y derbyniwn ef. Ac wrth i ni deimlo gofidiau a beichiau bywyd yn drech na ni, cofiwn fod Iesu wedi galw ar y blinedig a’r llwythog i ddod ato Ef i gael gorffwys – gorffwys tragwyddol i’n heneidiau. (Mathew 11:28-29) Y cwestiwn i ni felly yw, ydym ni’n profi gorffwysfa yn Iesu Grist, neu ydym ni’n teimlo’n hunain yn cael ein llethu yn ceisio plesio pobl eraill, llwyddo yn ein byd gwaith, neu’n ceisio gwneud yn siŵr ein bod yn cadw rheolaeth ar bopeth?

Rhodri

Llais Bro Aled 05.02.17(PDF)

Llais Bro Aled 05.02.17(Word)

 

 

Comments are closed.