Dydd Sul, 19 Mawrth 2017

Darlleniad y Dydd:  Salm 61:1-8 (BCND:tud.523 / BCN: tud.478)

Bore da a chroeso i chi i gyd i’r oedfaon bore ’ma. Gofynnwn y bydd yr Arglwydd yn agor ein calonnau heddiw i dderbyn ei air, ac i ddyfnhau ein perthynas gydag Ef.  Gweddïwn y byddwn yn cael noddfa yng Ngair Duw a chymdeithas gariadus gyda’i bobl Ef.

Mae’r Beibl a’n profiadau ni o fywyd yn cadarnhau nad yw bywyd yn fêl i gyd o bell ffordd. Gwyddom am sefyllfaoedd digon dyrys a chyfnodau poenus a ddaeth i’n rhan ni, ein teuluoedd neu’n cyfeillion. Wrth ddeffro yn y bore, gallwn deimlo fod o’n cymryd ymdrech annaturiol i adael amddiffynfa’r matras, i ddod o’r gwely a wynebu’r dydd. Ac ar brydiau byddai’n hawdd i ni feddwl y bydd hi’n dipyn o gamp i ni frwydro ymlaen ar ein pen ein hunain, heb wybod beth sydd gan y dydd i’w gynnig. Gall nifer fawr o ffactorau ddylanwadu’n drwm arnom o siomedigaethau a cholledion i bwysau gwaith a’r glaw trwm. Ydy ein calon ni hefyd yn cael ei lethu gan bwysau bywyd?

I sefyllfa fel yma y cawn ein cyflwyno yn ein darlleniad ar y cyd yr wythnos yma, Salm 61. Wrth ddarllen, rydym yn teimlo bron ein bod yn clustfeinio ar sgwrs bersonol iawn rhwng Dafydd y Salmydd, a’r Arglwydd Dduw. Mae’n galw a galw ar Dduw o ben draw’r byd i wrando ar ei weddïau. Mae’n debygol fod y Salm yma wedi ei ysgrifennu pan oedd Dafydd yn ffoi am ei fywyd oddi wrth unai y brenin Saul, neu ei fab ei hun, Absalom. Pan oedd popeth yn ei erbyn, a nifer fawr o bobl yn ceisio ei ladd, roedd Dafydd yn troi at yr Arglwydd mewn gweddi. Sylwch sut iaith mae’n ei ddefnyddio wrth weddïo ar Dduw. I ble mae eisiau cael ei arwain? Yn aml heddiw y temtasiwn ydy ein bod ni’n gweddïo am fywyd haws, neu am gael ein harwain allan o’r frwydr neu lanast sy’n ein hwynebu ni. Rydym yn rhedeg at yr Arglwydd er mwyn iddo newid ein sefyllfa yn ôl ein dealltwriaeth ni o’r sefyllfa. Ond sylwch sut iaith mae Dafydd yn ei ddefnyddio: “Pan dw i’n anobeithio, arwain fi at graig uchel ddiogel. Achos rwyt ti’n le saff i mi fynd; yn gaer gref lle all fy ngelynion ddim dod. Gad i mi aros yn dy babell am byth, yn saff dan gysgod dy adenydd.” (Adn. 3-4)

Pan mae Dafydd mewn argyfwng, mae’n mynd at yr Arglwydd gan wybod ei fod yn le saff i fod. Mae’n dweud “Mae’r sefyllfa dwi’n ei brofi yn ddifrifol, ond rwyt ti yn dda, yn gadarn ac yn gysur i mi”. Dim ots beth sy’n digwydd ar y ddaear o’n cwmpas ni, does dim all wanhau’r Duw tragwyddol. Os awn ni ato yn edifeiriol, mae’r sicrwydd gawn ni o gael perthynas gydag o ymhell tu hwnt i unrhyw beth allem ni ei gael ar y ddaear. Ymhob storm fydd yn ein bywyd ni, mae gennym ni angor sydd yn fwy na digon cryf i’n cadw ni, wnaiff byth symud na’n gadael ni i fynd.

Gwion

Llais Bro Aled 19.03.17 (PDF)

Llais Bro Aled 19.03.17 (Word)

Comments are closed.