Dydd Sul, 16 Ebrill 2017

Darlleniad y Dydd:  Eseia 53:4-6 (BCND:tud.670/ BCN: tud611)

Croeso cynnes i bawb ohonoch i wasanaethau Pasg 2017 Bro Aled. Dros y Sul arbennig hwn pan fyddwn yn myfyrio ar groeshoeliad ac atgyfodiad Iesu Grist, gweddïwn am gymorth Duw i fwrw ein baich ar yr Arglwydd sy’n cynnal (Salm 55:22), i ni roi ein hunain i Grist, ein Duw byw.

Ar brydiau mae digwyddiadau erchyll yn gwneud i ni ofyn cwestiynau dwys ynglŷn â phwy ydym fel pobl a sut fath o fyd yr ydym yn byw ynddo. Gwelwyd hyn yn ddiweddar wrth i’r newyddion adrodd am y defnydd ffiaidd o arfau cemegol yn Syria. Ond wrth edrych ar faterion fel hyn, mae’n hawdd i ni yng nghyfforddusrwydd Cymru ddiystyru cwestiynau dwys gan ddweud – “’does gan hyn ddim i’w wneud â mi.” Ond pan edrychwn ar ddigwyddiadau’r Pasg, does gan neb ohonom le i guddio nac i wneud esgusodion. Mae marwolaeth Mab Duw ar y groes yn golygu’i bod yn gwbl briodol fod pob person yn holi ei hun. Pan fyddwn yn ystyried beth sy’n allweddol i Gristnogaeth, mae digwyddiadau’r Pasg yn gorfod bod yn ganolog yn ôl tystiolaeth y Beibl. O ddiystyru pwysigrwydd y Groes a’r bedd gwag, yn sydyn iawn bydd y ffurf o Gristnogaeth sydd gennym yn troi’n grefydd ffug gyda’r pwyslais ar beth rydym ni fel pobl yn gallu ei wneud, yn hytrach na phwyslais y Beibl ar ras a chariad Duw ar waith er gwaethaf methiant a gwrthryfel pobl. Dyma gaiff ei ragfynegi yn ein darlleniad heddiw o Eseia 53 – gwas Duw yn dioddef am bechodau’r euog. Daw iachâd a heddwch, dim ond oherwydd bod Un wedi cael ei gleisio a’i ddryllio am bechodau’r bobl. Pan drown i’r Testament Newydd daw’n gwbl amlwg mai Iesu o Nasareth oedd y gwas dioddefus hwn – y cyfiawn yn marw dros yr anghyfiawn i’n dwyn ni at Dduw (1 Pedr 3:18). O ystyried arwyddocâd y Pasg, daw sefyllfa druenus dynion a merched pechadurus yn boenus o glir. Nid oes posib i ni ddod allan o’r twll yr ydym ynddo, nid oedd modd i ni wella’n hunain o glwyf marwol pechod, a’r unig obaith am achubiaeth yw’r hyn a gyflawnodd Iesu. Derbyniodd gosb pechod arno’i hun ac er iddo farw, atgyfododd yn fyw gan gael y gorau hyd yn oed ar farwolaeth, y gelyn olaf, a sicrhau bywyd tragwyddol i bawb sy’n credu ynddo. “Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth.” (Ioan 11:25-26) Ac felly, rhown ein ffydd yn Iesu – gan droi cefn ar ein pechod, diolch a llawenhau fod maddeuant i’w gael hyd yn oed i ni, a gobaith am byth oherwydd beth wnaeth Iesu. ‘Fe ydy’r unig un sy’n achub! Does neb arall yn unman sy’n gallu achub pobl.’ (Actau 4:12)

Rhodri

Llais Bro Aled 16.04.17 (PDF)

Llais Bro Aled 16.04.17 (Word)

Comments are closed.