Dydd Sul, 30 Ebrill 2017

Darlleniad y Dydd: 1 Brenhinoedd 3:10-14 (BCND:tud.312/: tud.285)

Bore da a chroeso i wasanaethau’r Fro. Gweddïwn y bydd Duw yn siarad gyda ni heddiw ac yn ein cymell i mewn i berthynas agosach gydag Ef. Cyflwynwn hefyd ein cyd-Gristnogion yn y Fro a thros y byd sy’n mynd trwy amseroedd caled yn eu bywydau. Gweddïwn y byddant yn troi at Dduw, yr un sy’n falm i bob briw.

Ysgwn i ydym ni’n meddwl am Dduw fel ein Duw ni? Yn aml, rydym yn ystyried ein hunain fel pobl sydd wedi’n dewis ganddo, ac yn bobl iddo Ef, ond ydym ni’n meddwl amdano fel ein Duw NI? Wrth ddarllen Salm 67 fe ddown at y cymal yma yn adnod 6: “O Dduw, ein Duw ni”.

Mae’n siŵr mae un o’n beiau mwyaf ni fel Cristnogion ydy gwneud yn fach o waith a phŵer Duw heddiw yn ein bywydau. Pa mor aml ydym ni’n rhoi Duw mewn bocs capel – dim ond yn ei ystyried ar fore, prynhawn neu nos Sul? Ar ôl gwneud proffes fod Duw wedi’n hachub ni yn gyfan gwbl o afael pechod a’n bod ni’n dod yn Gristnogion, mae mor hawdd i ni wthio Duw i ymylon ein bywydau. Os ydych chi unrhywbeth fel fi, mae’n debyg eich bod wedi meddwl rhywdro “ Na i ddim gweddïo am hyn, mae’n broblem rhy fach i Dduw” neu “Dydw ddim ond am weddïo am y pethau sydd wir yn bwysig, wedyn bydd Duw yn siŵr o wrando”.

Ar y groes, fe brynnodd Duw ni gyda gwaed gwerthfawr ei unig Fab, Iesu Grist, er mwyn i ni gael rhannu yn nhrysorau di-ddiwedd y Nefoedd. Ydych chi erioed wedi bod mewn bwyty ble mae nhw’n gwerthu diodydd gyda ‘unlimited refills’? Dyna ddyfais wych! Talu unwaith a chewch lemonêd am weddill y pryd bwyd heb orfod talu mwy! Anhygoel! Mi fuasai’n ffolineb llwyr i beidio cymryd mantais o’r cyfle tra ei fod yno, ond am ryw reswm, dyna rydym ni’n ei wneud gyda rhoddion Duw. Ar ôl yfed o’r dŵr bywiol, am ryw reswm, rydym ni’n mynd i ddogni’r hyn sydd gennym yn hytrach na mynd at y ffynnon yn ddyddiol i dorri ein syched.

Mae Duw yn Dduw i ni. Rydym ni mor werthfawr iddo fo, felly pam nad ydy o mor werthfawr i ni? Mae’n gallu cyflenwi pob angen fydd arnom ni byth. Dewch i ni felly fynd ato am bob angen. Dewch i ni weddïo arno am bob peth. Dewch i ni yn ein gwendid fynd ato yn ei nerth, yn ein llawenydd fynd ato yn ei hyfrydwch, ac yn ein diflastod fynd ato yn ei gyffro. Pwy bynnag ydym ni, beth bynnag ydy ein sefyllfa, dewch i ni gofio fod Duw yn union beth rydym ei angen, yn union lle rydym ni ei angen, ac yn gallu gwneud mwy na allwn ddychmygu sy’n bosib.

Gwion

Llais Bro Aled 30.04.17 (PDF)

Llais Bro Aled 30.04.17 (Word)

Comments are closed.