Dydd Sul, 5 Tachwedd 2017

Darlleniad y Dydd:   Salm 47:5-9 (BCND:tud.516/ tud.471)

Wythnos o wyliau? Ia plîs! Dyna’r ymateb dwi wedi ei gael ymhob ysgol wrth fynd i wasanaethau diolchgarwch y plant cyn gwyliau’r hanner tymor. Ac mae’n naturiol i bawb, waeth beth yw’n hoed, i fod eisiau mwynhau mymryn o seibiant a thawelwch yn dilyn cyfnod trwm o weithgarwch. Ond petaem yn bod yn onest, faint ohonom sydd wedi cael ein temtio i feddwl felly am ddyddiau Sul hefyd? Ar ddiwedd wythnos brysur a ninnau wedi ymlâdd, pam ddim aros adref â’n traed i fyny yn hytrach na mynd i’r oedfa? Mae’n siŵr fod y demtasiwn yna’n dweud mwy am y ffordd yr ydym ni’n meddwl am wasanaethau Cristnogol nac am ein prysurdeb. Petaem yn cael gwahoddiad i gyfarfod y Prif Weinidog neu’r Frenhines gyda gweddill ein teulu, fyddem ni’n barod i daflu’r cyfan i ffwrdd er mwyn cael aros adref? Wrth i ni droi at ein darlleniad ar y cyd o Salm 47 heddiw, gwelwn gynulleidfa o bobl Dduw yn llawn cyffro oherwydd eu bod yn moli Brenin y Brenhinoedd. Mae’r Salmydd fwy nac unwaith yn annog y bobl i ganu mawl i’r Arglwydd oherwydd ei fod yn frenin ar y cyfan: yr holl ddaear, yr holl genhedloedd, a hyd yn oed holl arweinwyr y byd. Ai felly y byddwn ni’n meddwl am Dduw wrth ddarllen y Beibl, gweddïo neu ganu mawl?

Wrth gwrs, rhyfeddod dysgeidiaeth y Beibl yw nad ydym angen paratoi ein hunain i fynd i weld y brenin yn ei balas wrth fynd i’r capel. Mae Iesu Grist yn fwy grymus, sanctaidd ac ysblennydd nac unrhyw frenin neu ymerawdwr dynol – gwirionedd a amlygwyd wrth i’r disgyblion cyntaf gyhoeddi ‘Iesu yw’r Arglwydd’ yn Llyfr yr Actau. Ond yn ychwanegol at hynny mae’r Testament Newydd yn ein dysgu fod y Brenin Iesu yn drugarog ac yn ein cymell i ddod ato fel ag yr ydym – yn wan, yn frwnt ac yn euog.

Sut allwn ni fentro gwneud y fath beth haerllug? Gan fod y Brenin arbennig hwn wedi dod i’n byd yn barod, gan ddarostwng ei hun fel caethwas a marw ar groes, cyn esgyn i’r nefoedd at ddeheulaw Duw. Oherwydd pwy yw Iesu, a beth a wnaeth trwy ei farwolaeth, ei atgyfodiad a’i esgyniad, gall y Cristion ‘nesáu mewn hyder at orsedd gras, er mwyn derbyn trugaredd a chael gras yn gymorth yn ei bryd.’ (Hebreaid 4:16)

Felly beth ydym ni’n ei wneud wrth fynd i’r oedfaon gyda’n gilydd? Cael braint fel y gynulleidfa yn Salm 47 o ddod gyda’n teulu ysbrydol i wrando’n eiddgar ar newyddion da’r Brenin, ac ymateb i hynny trwy’n ffydd, ein mawl a’n diolchgarwch. Diolchwn am i Grist ‘ddod yn dlawd drosoch chwi, er mwyn i chwi ddod yn gyfoethog trwy ei dlodi ef.’ (2 Corinthiaid 8:9)

Rhodri

Llais Bro Aled 05.11.17 (PDF)

Llais Bro Aled 05.11.17 (Word)

 

Comments are closed.