Dydd Sul, 14 Ionawr 2018

Darlleniad y Dydd:   1 Ioan 2:15-17 (BCND:tud.264 / tud.242)

Bore da a chroeso cynnes i chi i’r oedfaon ar draws Bro Aled. Dewch i ni roi clod i’r Arglwydd trwy ein mawl heddiw gan ei fod yn deilwng o’n holl fawl. Dewch i ni gydaddoli’r Duw byw sy’n frenin perffaith, yr un sy’n codi’r gwan o’r llwch ac yn achub yr anghenus.

Tybed ydych chi’n gyfarwydd efo’r geiriau “Ni all neb wasanaethu dau feistr… Ni allwch wasanaethu Duw ac Arian”? Mae Iesu’n eu dweud fel rhan o’r Bregeth ar y Mynydd yn Mathew 6. Maen nhw’n weddol adnabyddus, ond tybed ydyn ni wir yn ystyried beth maent yn eu olygu? A meddwl am eiriau Ioan yn ein darlleniad heddiw, beth mae’n ei olygu i “beidio caru’r byd a’i bethau…” ond yn hytrach, caru’r Tad.

Os edrychwn ar adnod 16 o 1 Ioan 2, gwelwn restr o bethau sy’n cael eu cynnig gan y Byd: trachwant y cnawd a’r llygad, a balchder mewn meddiannau. Mewn rhai cyfieithiadau mae ‘brolio yn y pethau ryda ni wedi eu cyflawni’. Ydy rhain yn ‘ddigwyddiadau’ penodol? Nac ydyn! Cyfeiriadau at ffordd o feddwl ydynt, ffordd o feddwl sy’n arwain ni oddi wrth Dduw a thuag at hunanoldeb, balchder a thrachwant – tri cham sy’n ein harwain yn bellach o lle dylem ni fod.

Ystyriwch drachwant y cnawd neu bethau corfforol. Rydym yn aml yn gallu anwybyddu hyn gan feddwl ei fod yn gyfyngedig i anfoesoldeb rhywiol, ond y gwir ydy ei fod yn cyffwrdd ar bob agwedd o’n bywydau ni! Chwennych bwyd neu ddiod arbennig i’r fath raddau fel ein bod ni’n byw ar gyfer y pethau yna – maent yn dod yn feistri ar ein bywydau.

Ystyriwch wedyn drachwant y llygaid, neu chwant am bethau materol. Eto, mae’n cynnwys yr agwedd rywiol, ond mae hefyd yn ymestyn at farnu pobl yn ôl eu edrychiad, neu ymarweddiad. Os ydym yn canolbwyntio gymaint ar olwg pobl eraill neu ar ein hunanolwg, yna rydym yn anwybyddu priodweddau ysbrydol a chymeriad person.

Yn olaf wedyn, mae gennym falchder mewn meddiannau a chyflawniadau neu gampau. Efallai ein bod yn ymfalchïo yn ein balchder o’n meddiannau, neu o’n clyfrwch, o’n ffrindiau neu o’n cyfoeth. Mae hyn yn ein harwain i feddwl ein bod o statws uwch na rhai pobl, gan edrych i lawr ar bobl eraill ac i ffwrdd o ogoneddu Duw am ei gariad a’i ffyddlondeb.

Os ydym yn dweud ein bod yn Gristnogion, hynny ydy yn bobl sy’n byw trwy ras Duw yn unig i addoli Duw efo’n holl berson, ond eto yn parhau i gwrso beth sydd gan y byd i gynnig i’n boddhau ni, allwn ni yn wir ddweud mai Iesu sy’n gyntaf yn ein calonnau?

Gwion

Llais Bro Aled 14.01.18 (PDF)

Llais Bro Aled 14.01.18 (Word)

Comments are closed.