Dydd Sul, 4 Chwefror 2018

Darlleniad y Dydd:  Joel 3:14-16 (BCND:tud.830 / tud.756)

Bore da a chroeso i’n hoedfaon ar draws Bro Aled heddiw. Diolchwn fod yr Arglwydd wedi ein rhoi ni mewn gwlad lle gallwn gyfarfod yn rhydd i’w addoli, heb unrhyw ofn na braw.

Unwaith i chi ddechrau meddwl am y peth mae yna lawer o fanteision o fod yn blentyn – bwyd yn cael ei ddarparu’n gyson, dim poeni am arian, gallu mynd i chwarae heb feddwl am yr hyn sy’n dod fory neu’r wythnos nesaf, a’r diniweidrwydd o beidio bod wedi profi na deall llawer o ddrygioni’r byd. Oedd, roedd bod yn blentyn yn amser da i lawer ohonom ni. Ond un peth dwi ddim yn gweld ei golli ydy cael braw! Rhywsut wrth dyfu, mae llai o bethau’n rhoi braw i mi a dwi’n llai tebygol o gael hunllefau. Cofiwch pan yn blentyn pan fyddai ci yn cyfarth yn ymosodol arnoch chi, neu eich bod yn colli’ch ffordd mewn tyrfa o bobl, neu efallai fod gwylan wedi swoopio lawr (does dim gair Cymraeg i gyfleu yr hyn mae gwylanod llwglyd yn ei wneud!) a dwyn eich hufen iâ allan o’ch dwylo! Yn ystod y sioc a’r crio, beth mae’r plentyn eisiau fwyaf? Mam neu dad! Wnaiff neb arall y tro. Rhaid cael mam neu dad yna i cael cwtsh a’i gadw’n saff.

Yn ein darlleniad heddiw o lyfr Joel, ysgogiad tebyg sydd i ni. Y braw: 14Mae tyrfaoedd enfawr yn Nyffryn y dyfarniad!  Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos yn Nyffryn y dyfarniad! 15 Mae’r haul a’r lleuad wedi tywyllu, a’r sêr wedi diflannu. 16 Mae’r ARGLWYDD yn rhuo o Seion; a’i lais yn taranu o Jerwsalem, nes bod yr awyr a’r ddaear yn crynu. Dyna i chi ddigwyddiad i godi braw ar rywun! Mae’r effeithiau naturiol yn ddigon brawychus: haul a’r lleuad a’r sêr wedi diflannu, a’r awyr a’r ddaear yn crynu, ond beth ddylai roi’r ofn mwyaf i ni ydy sut mae’r darlleniad yn cychwyn. Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos (Joel 3:14). Mae’r dydd yn dod pan fydd pawb yn sefyll o flaen gorsedd y Goruchaf ac yn ateb am sut maen nhw wedi byw. Ydy hyn yn codi braw arna chi? Os ydy o, mae diwedd adnod 16 yn andros o gysur: mae’r ARGLWYDD yn lle saff i’w bobl guddio ynddo, mae e’n gaer ddiogel i bobl Israel. Yng ngwyneb barn Duw, gallwn redeg i guddio ynddo fel plentyn yn rhedeg at ei rieni. Wrth sylweddoli ein bod yn euog, gallwn droi ato fo, rhedeg i guddio yn ei freichiau a gofyn am faddeuant yn enw Iesu Grist.

Mae’r Arglwydd yn farnwr cyfiawn, ond mae o hefyd yn gaer ffyddlon a chadarn i’r rhai sy’n llochesu yn ei fynwes. Os oes gennym ofnau, poenau ac euogrwydd yn ein bywyd, dewch i ni redeg i guddio yn ei freichiau Sanctaidd Ef.

Gwion

Llais Bro Aled 04.02.18 (PDF)

Llais Bro Aled 04.02.18 (Word)

Comments are closed.