Dydd Sul, 18 Chwefror 2018

Darlleniad y Dydd:  Deuteronomium 33:26-29 (BCND:tud.196 / tud.179)

Bore da a chroeso cynnes i bob un ohonoch i’n gwasanaethau. Tybed beth ydych chi’n ei ddisgwyl wrth i ni ddod at ein gilydd heddiw? Sul cyffredin o fwynhau cymdeithasu gyda’n cyd-aelodau, cael moli’r Arglwydd a gwrando ar ei Air? Faint ohonom sydd wrth fynd i’r capel yn disgwyl cael ein newid gan Dduw? Oherwydd dyna anogaeth Rhufeiniaid 12:2 Beibl.net – i ni adael i Dduw ‘newid eich bywyd chi’n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny’n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna’r peth iawn i’w wneud.’

Golyga hyn ein bod trwy nerth ac arweiniad yr Ysbryd Glân yn barod i gyflwyno’n hunain fel aberth i’r Arglwydd, gan droi cefn ar ein hen ffordd bechadurus o feddwl a gweithredu. Ac wrth gwrs, mae hon yn broses barhaus i’r Cristion, lle’r ydym yn gwrando ac yn ufuddhau i lais y Bugail Da sydd wedi rhoi ei einioes dros y defaid. (Ioan 10:11)

Os yw hynny’n gwneud i ni deimlo braidd yn anghyfforddus rhaid i ni holi’n hunain, ydym ni’n ymddiried ym mwriadau Duw ar ein cyfer, neu’n tybio fod ein cyfforddusrwydd yn well i ni na’r hyn y mae’r Tad nefol yn ei ddymuno i’w blant?

Mae’n darlleniad ar y cyd o ddiwedd Deuteronomium yn cynnwys disgrifiad hyfryd o Dduw ddylai wneud i ni feddwl eto pam ydym ni’n petruso rhag ymddiried ynddo. ‘Duw’r oesoedd yw dy noddfa, (lle diogel, Beibl.net) ac oddi tanodd y mae’r breichiau tragwyddol.’ (33:27) Disgrifiad hyfryd, ond wrth ddarllen yr holl adnodau sy’n cael eu cynnwys ar ddiwedd pennod 33 sylweddolwn fod gwedd ddigon ymosodol i’r hyn y mae Duw wedi ei wneud dros ei bobl hefyd. Oherwydd wrth achub ei bobl, mae’r Arglwydd wedi gorfod trechu’r gelyn. Ac wrth i ni edrych ymlaen at y Pasg, gwelwn fod achubiaeth y Cristion wedi’i sicrhau wrth i Grist drechu’n gelynion pennaf ni (pechod, marwolaeth, y diafol) trwy ei farwolaeth a’i atgyfodiad. Os yw Duw felly wedi mynd i’r fath drafferth er mwyn ein hachub rhag y gelyn all ein dinistrio, pam ydym ni’n ofni gadael iddo barhau i weithio ynom er daioni o ddydd i ddydd? ‘Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll. Ac os rhoddodd ei Fab, sut y gall beidio â rhoi pob peth i ni gydag ef?’ (Rhufeiniaid 8:32)

Diolchwn heddiw fod Duw wedi gweld ein cyflwr truenus ac wedi dod yng Nghrist i’n hachub, ac ildiwn ein hunain iddo yn ffyddiog ‘y bydd i’r hwn a ddechreuodd waith da ynoch ei gwblhau erbyn Dydd Crist Iesu.’ (Philipiaid 1:6)

Rhodri

Llais Bro Aled 18.02.18

Comments are closed.