Dydd Sul, 11 Mawrth 2018

Darlleniad y Dydd:  Marc 12:28-34 (BCND:tud.53 / tud.49)

Croeso cynnes i bawb ohonoch i’n hoedfaon heddiw…a chymryd y byddwn yn gallu cyfarfod, nid fel y Sul diwethaf! Diolch i bawb fu wrthi’n llafurio yng nghanol yr eira, a gobeithio bod y cyfnod lle daeth cymaint o weithgareddau arferol i stop wedi bod yn gyfle i ni droi ein meddyliau at mor aruthrol yw ein Harglwydd – meddyliau a achosodd i’r Apostol Paul foli fel y gwelwn yn Rhufeiniaid 11:33 ‘O ddyfnder cyfoeth Duw, a’i ddoethineb a’i wybodaeth!’

Un peth wnaeth fy nharo yng nghanol helbul yr wythnos diwethaf oedd cymaint o ddylanwad y mae rhywbeth mor syml â chyfeiriad y gwynt yn gallu ei gael ar fywyd rhywun! Yn ôl yr arbenigwyr, daeth y rhew, yr eira a’r oerfel difrifol atom (neu’r dihiryn o’r Dwyrain yng ngeiriau rhai sylwebwyr!) oherwydd bod y gwyntoedd wedi chwythu o’r Dwyrain gan ddod ag aer oer gyda hwy dros ynysoedd Prydain.  Ac ar yr un pryd ymwelodd storm Emma â ni o gyfeiriad Môr yr Iwerydd, â’r cyfan gyda’i gilydd yn achosi hafoc! Er mor anarferol yw’r cyfuniadau hyn ym myd y tywydd, rydym yn deall yn iawn y gall patrymau fel hyn godi yn ein bywydau ni hefyd; un peth yn dylanwadu ar y llall gan achosi rhyw fath o effaith domino.

Nid yw’n annisgwyl felly fod llinyn amlwg o un peth yn dylanwadu ar y llall i’w weld yn y Beibl hefyd, ac mae hynny’n cael ei awgrymu’n gryf yng ngeiriau Iesu yn ein darlleniad ar y cyd heddiw. Mae Iesu yn cadarnhau dau o orchmynion yr Hen Destament wrth ateb yr ysgrifennydd ac mae’r gorchmynion hyn wedi eu nodi yn Deuteronomium 6:4-5 a Lefiticus 19:18. Wrth gyfuno’r ddau orchymyn, mae Iesu yn dangos nad oes modd gwahanu’r ddwy agwedd hyn o fywyd y crediniwr oddi wrth ei gilydd. Ni all neb garu Duw heb garu ei gymydog, ac ni all rhywun garu ei gymydog heb garu Duw. Ac yn fwy sylfaenol na hynny hyd yn oed, mae’r cariad sy’n cael ei orchymyn i’r credinwyr tuag at Dduw a chymdogion yn gariad sy’n deillio o gariad blaenorol Duw tuag at ei bobl. ‘Yr ydym ni’n caru, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.’ (1 Ioan 4:19)

Ac felly mae’r gorchymyn i garu Duw â’n holl galon, enaid, meddwl a nerth yn cael ei roi oherwydd bod Duw wedi caru ei bobl yn llwyr yn barod – cymaint felly nes iddo roi ei Fab i farw drostynt (Rhufeiniaid 5:8). Oherwydd hyn, ymateb i gariad Duw a wna’r Cristion trwy ymrwymo’n llwyr mewn cariad i Grist trwy nerth yr Ysbryd Glân. Ac mae caru Duw â phopeth sydd gennym yn naturiol yn arwain at ufuddhau i’w orchmynion, a charu pobl eraill (ein cymdogion) ‘nid ar air nac ar dafod ond mewn gweithred a gwirionedd.’ (1 Ioan 3:18)

Rhodri

Llais Bro Aled 11.03.18

Comments are closed.