Dydd Sul, 18 Mawrth 2018

Darlleniad y Dydd:  Seffaneia 3:14-20 (BCND:tud.856 / tud.780)

Croeso cynnes i’n gwasanaethau wrth i ni brysuro tuag at ddigwyddiadau’r Pasg. Gweddïwn y bydd yr Arglwydd Iesu’n dod yn fwy byw i ni dros yr wythnosau nesaf, wrth i ni geisio arweiniad ac eneiniad yr Ysbryd Glân ar ein hoedfaon a’n cyfarfodydd.

Beth sy’n gwneud cân dda yn eich tyb chi? Cwestiwn a drafodwyd yn hirfaith o gwmpas cystadleuaeth Cân i Gymru ychydig wythnosau yn ôl! Geiriau crefftus a theimladwy neu alaw gofiadwy nad oes posib ei chael allan o’n pen?! Petaem yn gofyn i wahanol bobl dwi’n siŵr y byddem yn cael amrywiaeth eang o atebion yn cyd-fynd â chwaeth bersonol, ond eto themâu digon cyfarwydd sy’n tueddu i fod yn destun nifer fawr o ganeuon. Themâu cyfarwydd gan eu bod yn deillio o’n profiadau cyffredin ni fel pobl – cariad, colled, dyheadau a llawenydd. Tybed sut y mae cân y crediniwr yn cymharu?  Neu beth am gân Duw? Yn ein darlleniad ar y cyd heddiw, mae’r Arglwydd yn cymell ei bobl i ganu, yn wir i weiddi’n uchel mewn llawenydd a gorfoledd. Ond mae yna reswm penodol pam fod Seffaneia 3 yn annog pobl Dduw i ganu – oherwydd bod Duw am weithredu mewn ffordd arbennig er mwyn ei bobl. O adnodau 15 i 17, gwelwn nifer o ddisgrifiadau o’r hyn oedd yn sail i obaith a llawenydd Israel. Ond wrth gwrs proffwydoliaeth o’r hyn oedd i ddod a geir yma, nid disgrifiad o’r sefyllfa yr oeddynt ynddi ar yr adeg hynny. Anogwyd y bobl i lawenhau gan y byddai’r Arglwydd yn troi eu cosb oddi wrthynt, yn delio â’u gelynion ac y byddai Ef yn eu canol hwy fel Brenin yn teyrnasu. Allwch chi ddychmygu mor felys yw clywed geiriau o’r fath yn cael eu dweud wrthoch? Ac os nad yw hynny’n ennyn ymateb, beth am y ffaith fod yr Arglwydd ei hun yn gorfoleddu ac yn llawenhau â chân oherwydd ei bobl? (Ad. 17) Duw yn dathlu oherwydd achubiaeth ei bobl – fel y dywedodd Iesu yn Luc 15:7!

Wrth i ni agosáu at y Pasg, cawn ein hatgoffa o’r gwahaniaeth rhyngom ni a phobl Dduw yn yr Hen Destament. Roeddynt hwy’n edrych ymlaen at ddyfodiad y Meseia, rydym ni’n edrych yn ôl ar fywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu yn ddiolchgar. Iesu yw’r Meseia, a thrwyddo Ef y gweithredodd Duw un waith ac am byth i achub ei bobl. Fel y dywed Galatiaid 3:13 ‘Prynodd Crist ryddid i ni oddi wrth felltith y Gyfraith pan ddaeth, er ein mwyn, yn wrthrych melltith, oherwydd y mae’n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un a grogir ar bren!” Y cwestiwn allweddol felly yw – ydym ni’n perthyn i’r Meseia – ydym ni wedi troi i ffwrdd o bob gobaith a hunan gyfiawnder arall a thrystio’n unig ynddo Ef? Os felly, gallwn uno yn y gân nefolaidd a dweud –

Diolch byth, a chanmil diolch,

diolch tra bo ynof chwyth,

am fod gwrthrych i’w addoli

a thestun cân i bara byth;

Rhodri

Llais Bro Aled 18.03.18 (PDF)

Llais Bro Aled 18.03.18 (Word)

Comments are closed.