Dydd Sul, 22 Ebrill 2018

Darlleniad y Dydd:  Eseciel 12:1-7 (BCND:tud.760/ tud.692)

Croeso cynnes i chi i’n hoedfaon heddiw. Dwi ar hyn o bryd (prynhawn dydd Iau) yn rhyfeddu at y tywydd hafaidd yr ydym yn ei fwynhau (ymddiheuriadau mawr os ydych yn darllen hwn ar ddydd Sul a hithau’n oer a glawog eto!) O’r diwedd mae’r gwanwyn wedi cyrraedd – ond beth fydd hynny’n ei olygu i chi? Llawenydd o allu edrych ymlaen at adael y sied wyna, neu obaith o bosib y gallwch fynd am dro braf heb gap a menyg?! Arwydd clir fod pethau’n newid o ran y tymhorau yw’r anifeiliaid sy’n dangos eu pennau fel gwenoliaid neu’r gôg. A phryd oedd y tro diwethaf i chi glywed sŵn unigryw’r gwcw? Mae tipyn o flynyddoedd ers i mi ei chlywed ddiwethaf, ond mae hynny’n dweud mwy amdanaf i na’r gôg! Dwi ddim wedi clywed y gôg, gan nad ydw i wedi bod yn gwrando, nac yn treulio cymaint â hynny o amser allan yn yr awyr agored!

Mae’r Beibl yn ein rhybuddio yn aml fod methu clywed a deall yr hyn a ddywed Duw yn broblem gyffredin ymysg pobl. Nos Fercher daethom i ddiwedd y gyfres o gyfarfodydd Dal i Gredu a gynhaliwyd yng Nghefn Meiriadog ac yn y sesiwn olaf roeddem yn ystyried sut yr oedd y disgyblion yn meddwl am Iesu yn ôl Efengyl Marc. Dyma’r bobl oedd wedi cael y seddi gorau i weld awdurdod Mab Duw wrth i Iesu ddysgu, iacháu a maddau pechod. Ond er y fraint aruthrol yma, llwyddodd y disgyblion i gam-ddeall, i fethu gweld yn glir pwy oedd Iesu a pham yr oedd wedi dod atynt. Yn Marc 8:18 mae Iesu yn troi atynt ac yn gofyn iddynt: ‘A llygaid gennych, onid ydych yn gweld, ac a chlustiau gennych, onid ydych yn clywed?’ Er eu bod yn tybio eu bod yn deall ac yn gweld yn gywir pwy oedd Iesu, nid felly yr oedd. Cyhuddiad ddigon tebyg a welwn yn ein darlleniad o Eseciel 12 heddiw hefyd. Pobl Dduw sydd ar fai gan eu bod yn wrthryfelgar ac oherwydd hynny’n methu gweld, clywed na deall neges Duw am eu cyflwr. Dyna pam mae Eseciel yn dangos iddynt trwy ddarn o ddrama gyhoeddus fod tro ar fyd. Mae’n pacio’i fagiau fel petai’n mynd ar daith bell ac yn cloddio trwy wal y ddinas i arwyddo’r ffaith y byddai pobl Dduw yn cael eu cipio o’u tir gan y gelyn.

Er y rhybudd a ddaeth i bobl trwy Eseciel, roedd gobaith hefyd – fod Duw am weithredu i achub ei bobl. Ac mae’n gwneud hynny trwy Fab Dafydd, y Bugail da roddodd ei fywyd dros y defaid – ‘Byddaf yn gosod arnynt un bugail, fy ngwas Dafydd, a bydd ef yn gofalu amdanynt; ef fydd yn gofalu amdanynt ac ef fydd eu bugail.’ (Eseciel 34:23) Gweddïwn heddiw am i’r Ysbryd Glân roi llygaid ffydd i ni edrych ar Iesu, a chlustiau parod i wrando ac ufuddhau i’r Un sy’n ein galw ato’i hun.

Rhodri

Llais Bro Aled 22.04.18

Comments are closed.