Dydd Sul, 13 Mai 2018

Darlleniad y Dydd:  Jwdas 24-25 (BCND:tud.270/ tud.248)

Croeso cynnes i chi i’n hoedfaon ar draws Bro Aled a hithau’n Sul Cymorth Cristnogol. Wrth feddwl am anghenion pobl mewn gwahanol rannau o’r byd, diolchwn nad yw ffiniau gwleidyddol yn atal gwaith Duw, a gweddïwn ar i drugaredd yr Arglwydd gael ei amlygu trwy waith Ei eglwys fyd-eang a’r elusennau sy’n ceisio cynorthwyo’r rhai sydd mewn angen.

Dros yr wythnos nesaf byddaf yn treulio ychydig o amser gyda Christnogion o America sydd wedi bod yn ymweld yn gyson â Chymru i gynorthwyo ac annog rhai o’r arweinwyr eglwysig Cymraeg. Mae’n braf iawn cael sgwrsio â hwy a gallu holi cwestiynau am yr hyn sy’n digwydd yn eu rhan hwy o’r byd, ond yn sydyn iawn mae’r gwahaniaethau digri rhwng Cymry Cymraeg ag Americanwyr yn codi eu pen. Oni bai am y gwahaniaeth ieithyddol amlwg, a’r acenion tra gwahanol wrth i ni siarad Saesneg, un nodwedd sy’n anodd ei anwybyddu yw’n tueddiadau gwahanol pan mae hi’n dod at annog a chanmol ein gilydd. Fel Cymry rydym ni’n tueddu i fod yn hynod o swil pan mae rhywun yn gor-ganmol, a braidd yn anghyfforddus os ydynt yn bod yn rhy gadarnhaol am yr hyn yr ydym yn ei wneud. Ond mae’r Americanwyr (o leiaf y rhai yr ydw i’n yn eu hadnabod!) yn dra gwahanol. Maent yn llawn brwdfrydedd yn annog heb wrido gan weld posibiliadau yn hytrach na chanolbwyntio ar fethiannau. Heb fynd yn rhy ddwys i mewn i seicoleg trigolion gwledydd y byd, tybed onid yw’n tueddiad ni fel Cymry Cymraeg i geisio osgoi canmoliaeth yn arwain at dlodi yn ein mawl hefyd? O droi at ein darlleniad ar y cyd o ddiwedd llythyr Jwdas gwelwn fawl bendigedig i’r Arglwydd Dduw. Mae Jwdas am ganmol Duw yn helaeth gan fynd i fanylder ynglŷn â’r rhesymau pam y dylid moliannu’r Arglwydd. Ef yw’r un sy’n gallu cadw’r Cristion rhag syrthio, Ef sydd trwy Iesu Grist wedi’n hachub o’r farn gan ddod â’i bobl yn ddi-fai i’w bresenoldeb Ef am dragwyddoldeb! Wrth i ni feddwl am hyn sut ydym ni’n ymateb? Os ydym yn perthyn i Grist trwy ffydd, mae geiriau’r mawl yma yn wirioneddau amdanom yn awr ac am byth, oni ddylem ni ymuno ym mawl Jwdas trwy ddweud “Amen”? Gweddïwn am gymorth yr Ysbryd Glân i’n harwain i foli Duw â’n holl galon, heb dawelu mewn swildod rhag canmol yr Un sy’n haeddu pob clod am ein creu, ein caru, a’n cadw trwy ei Fab annwyl.

Fy enaid, bendithia’r Arglwydd, a’r cyfan sydd ynof ei enw sanctaidd.  Fy enaid, bendithia’r Arglwydd, a phaid ag anghofio’i holl ddoniau: ef sy’n maddau fy holl gamweddau, yn iacháu fy holl afiechyd.’ (Salm 103:1-3)

Rhodri

Llais Bro Aled 13.05.18

Comments are closed.