Dydd Sul, 1 Gorffennaf 2018

Darlleniad y Dydd:  Daniel 7:13-14 (BCND:tud.811 / BCN:tud.739)

Croeso i bawb ohonoch i’n hoedfaon ar draws y Fro heddiw. Ar ddechrau mis arall gweddïwn am fendith ac arweiniad Duw er mwyn i ni allu dod trwy Grist ‘mewn hyder at orsedd gras er mwyn derbyn trugaredd a chael gras yn gymorth yn ei bryd.’ (Hebreaid 4:16)

Pwy sydd wedi cael digon erbyn hyn? Wedi wythnos a mwy o dywydd crasboeth, gwn fod nifer o ffermwyr yn crefu am gawod o law ar gyfer y tir, ond faint ohonoch chi sy’n cytuno?! Does dim modd anwybyddu effaith y tywydd arnom nac ar weddill y greadigaeth o’n cwmpas. A dweud y gwir mae’n eithaf brawychus sylweddoli mor ddibynnol ydym ar ddŵr, ac mor sydyn mae pethau’n dirywio mewn cyfnod estynedig o sychder a gwres. Mae’r effeithiau’n amlwg o danau mewn coedwigoedd i ffyrdd yn toddi, ond tybed ydym ni’n ymwybodol o beryglon sychder o fath gwahanol, sychder ysbrydol? Ydym ni’n gweld effaith anwybyddu neu bellhau oddi wrth yr Arglwydd ar ein bywydau? Fel y mae’r greadigaeth yn dibynnu ar ddŵr, mae’r Beibl yn ein hatgoffa bod dynion a merched yn fodau ysbrydol sydd angen bod mewn perthynas gyda’u Creawdwr. Ond mor hawdd yw mynd trwy fywyd fel pe bai hynny ddim yn wir, gan dybio y bydd popeth yn iawn dim ond i ni ddilyn ein trywydd ein hunain yn dawel heb godi gwrychyn pobl eraill. Nid syniad newydd yw hwn, a dyna pam mae cymaint o rybuddion yn y Beibl i’n gwarchod rhag gwneud niwed tragwyddol i ni’n hunain. Ystyriwch y geiriau cofiadwy yma gan Dduw yn Jeremeia 2:13: “Yn wir, gwnaeth fy mhobl ddau ddrwg: fe’m gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw, a chloddio iddynt eu hunain bydewau, pydewau toredig, na allant ddal dŵr.’ Ai felly y mae pethau arnom ni? Er bod pethau’n allanol yn edrych mewn trefn, mewn gwirionedd rydym fel petaem yn dyheu am ddŵr ond yn ceisio disychedu ein hunain trwy sugno mwd a baw! Rydym yn ymdrechu’n galed heb wneud unrhyw les i’n heneidiau gan ein bod yn troi at bethau fydd yn ein niweidio yn hytrach na dod at yr unig ffynnon fydd yn ein hiacháu a’n glanhau o’n holl aflendid.

Cofiwch i Iesu gyfeirio ato’i hun fel bara’r bywyd a rhoddwr y dŵr bywiol (Ioan 6:35 a 4:10). Dangosa hyn yn glir mai Ef yw’r un sy’n dod â gwir fywyd i ni, ac na all neb ohonom ffynnu na dwyn ffrwyth yn ysbrydol heb inni berthyn i Grist gan dderbyn o’r hyn y mae wedi ei ennill i’w bobl trwy farw ar y Groes. Diolchwn iddo am ei haelioni, a gofynnwn am gymorth ei Ysbryd i weld ein hangen a dod mewn ffydd at yr unig Achubwr.

Rhodri

Llais Bro Aled 01.07.18

Comments are closed.