Dydd Sul, 8 Gorffennaf 2018

Darlleniad y Dydd:  Luc 12: 1-3 (BCND:tud.80 / BCN:tud.73)

Croeso cynnes i chi gyd i’r gwasanaethau ar draws Bro Aled bore ma. Wrth i’r tywydd barhau i fod yn gynnes a braf, dewch i ni fanteisio ar y cyfle i dorheulo yng ngogoniant Duw y Goruchaf. Rhown ein hunain o’i flaen gan adael iddo gynhesu a goleuo pob rhan o’n bywydau a’n gwneud ni yn debycach i’r Arglwydd Iesu.

Gyda hynny mewn golwg, tybed faint ohonoch chi sydd â diddordeb mewn pobi? Efallai eich bod yn hoff iawn o’r rhaglen ‘Great British Bake Off’ ac yn grefftus iawn yn gwneud bara a chacennau o bob math. Ar y llaw arall, mae yna rai ohonom ni yn anobeithiol am bobi. Mi ymgeisiais unwaith yn y brifysgol i bobi bara, ond roedd hi’n debycach i fricsen na thorth yn y pen draw! I ddod at y pwynt, cynhwysyn hollbwysig mewn bara ydy burum. Burum ydy’r peth sy’n galluogi’r does i godi ac i’r dorth fod yn ysgafn a blasus. Mae’r burum yn cael ei gymysgu trwy’r does i gyd, ac yn effeithio ar bob rhan ohono. Mae’n bwysig i ni gofio hyn: dydy burum ddim yn effeithio ar un rhan yn unig, ond ar y cyfan.

Felly, dewch i ni edrych ar ein darlleniad heddiw: Luc 12:1-3. Ar y darlleniad cyntaf, mae’n ymddangos fod y Phariseaid hefyd yn bobyddion brwd gyda’u burum, ond gwelwn mai rhybudd rhag rhagrith ydyw. Y cyhuddiad yn eu herbyn gan Iesu ydy bod eu bywydau cyhoeddus – eu geiriau, gweithredoedd, agweddau ac ymatebion – yn wahanol iawn i’w bywydau preifat. Roedden nhw’n cyhoeddi eu bod yn ddi-bechod, eto roedd eu hagweddau a’u gweithredoedd yn dangos y gwrthwyneb. Yn debyg i furum mewn toes, mae rhagrith yn recriwtio pobl i wneud yr un peth – mae’n ymledu drwy gymdeithas. Wrth ragrithio, mae’r bar yn cael ei osod yn rhy uchel ac yn annog pobl i esgus eu bod yn neidio drosto.

Wrth ddweud ein bod ni’n Gristnogion, rhaid cofio ein bod ni i gyd yn bechaduriaid sydd wedi ein hachub gan ras Duw yn unig. Rhaid i ni beidio ag esgus ein bod ni’n ddi-bechod neu yn well nac unrhyw un arall. Mae dwy adnod olaf ein darlleniad yn gwneud yn glir pam: bydd pob peth yn dod i’r wyneb ryw ddydd o flaen yr Arglwydd, Barnwr cyfiawn y greadigaeth.

Lock the door, pull down the blind, turn out the light; it does not mater, it makes no difference; God is everywhere, you cannot shut him out or prevent his seeing.”

Dyma ddyfyniad gan J.C.Ryle o’r 19fed ganrif sy’n disgrifio ein hymgais ni i gelu pethau oddi wrth Duw a’r Byd. Wrth i ni edrych ar ein hunain heddiw, tybed ydym ni’n euog o geisio portreadu ein hunain fel rhywun gwell nag ydym ni go iawn? Ydym ni’n dibynnu ar glod pobl eraill am ein hapusrwydd? Tybed ydym ni’n cynnal bywyd pechadurus yn y dirgelwch gan obeithio na fydd neb yn ffeindio allan amdano?

Gwion

Llais Bro Aled 08.07.18

Comments are closed.