Dydd Sul, 11 Tachwedd 2018

Croeso cynnes i chi i’r oedfaon wrth i ni gofio 100 mlynedd ers y cadoediad a ddaeth a’r Rhyfel Byd Cyntaf i ben. Yng nghanol y cyfan fydd yn digwydd heddiw, trown at Dduw gan weddïo ar iddo gynnal pobl ar draws y byd sy’n ceisio dod i delerau ag effeithiau trychinebus rhyfel. A diolchwn hefyd, er y niwed a’r tywyllwch sy’n dod yn sgil casineb a thrais, fod gobaith am gymod a heddwch tragwyddol trwy waed Iesu Grist, ‘oherwydd ef yw ein heddwch ni.’ (Effesiaid 2:14)

Ydych chi erioed wedi cael y profiad hwnnw o siarad â hen ffrind, neu gyd-weithwyr nad ydych wedi eu gweld ers blynyddoedd a rhyfeddu iddynt gofio amdanoch? Mae yna rywbeth hyfryd iawn mewn dod i ddeall fod pobl yn cofio amdanoch, ac yn arbennig i Gristion mae gwybod fod Cristnogion eraill yn cofio ac yn gweddïo drosom yn gysur enfawr mewn amgylchiadau anodd. Nid yw hynny’n syndod gan fod y Beibl yn annog credinwyr i weddïo’n daer ar Dduw mewn pob math o sefyllfaoedd gwahanol, a hynny mewn hyder y bydd yr Arglwydd yn gweithredu yn ôl ei ddoethineb ei hun, ac er daioni ei bobl. (Rhufeiniaid 8:28)

Ond nid dim ond pobl sy’n cofio amdanom. Wrth ddarllen y Beibl gwelwn y datganiad rhyfeddol fod Duw ei hun yn cofio ei bobl. Yn ystod darlithoedd DAWN yn Aberystwyth yn ddiweddar arweiniodd Hywel Edwards ni i fyfyrio ar adnodau y byddai’n ddigon hawdd i ni frysio heibio iddynt ar ddiwedd Exodus 2.  ‘Ond yr oedd pobl Israel yn dal i riddfan oherwydd eu caethiwed, ac yn gweiddi am gymorth, a daeth eu gwaedd o achos eu caethiwed at Dduw. Clywodd Duw eu cwynfan, a chofiodd ei gyfamod ag Abraham, Isaac a Jacob; edrychodd ar bobl Israel ac ystyriodd eu cyflwr.’ (Exodus 2:23-25)

Tydi Arglwydd y Lluoedd ddim yn anymwybodol o’n poenau a’n anghenion. Wrth glywed cwynfan ei bobl oherwydd gormes y gelyn, cofiodd Duw y cyfamod a wnaeth â hwy. Cyfamod yw’r gair cyfoethog a geir yn y Beibl i ddisgrifio’r ymrwymiad diwyro hwnnw y mae’r Arglwydd wedi ei wneud i’w bobl. Ac i Gristnogion heddiw, mae mwy fyth o gysur o wybod mai cyfamod newydd yng ngwaed Iesu Grist sydd gennym erbyn hyn. (Luc 22:20) Nid gobeithio y bydd Duw yn gwneud rhywbeth i’w hachub rhywbryd yn y dyfodol y mae’r saint, ond ymddiried fod yr hyn a gyflawnodd Iesu trwy ei farwolaeth a’i atgyfodiad yn ddigon i achub pawb sy’n credu, yn awr ac am byth.

‘Duw a’n cofiodd, Duw a’n carodd,

Duw osododd Iesu’n Iawn;

Duw er syndod ddarfu ganfod

trefn gollyngdod inni’n llawn.’

Rhodri

Llais Bro Aled 11.11.18

Comments are closed.