Dydd Sul, 5 a 12 Ionawr 2020

Croeso cynnes i’n hoedfaon a blwyddyn newydd fendithiol i bawb o ddarllenwyr Llais Bro Aled. Gwyddom am nifer o’n plith a wynebodd brofedigaeth dros yr wythnosau diwethaf ac wrth i ni gydymdeimlo â’r teuluoedd, rydym am barhau i weddïo ar i’r Arglwydd a’i gynhaliaeth fod yn amlwg i bawb sy’n profi hiraeth am anwyliaid.

Wn i ddim faint ohonoch a ymunodd yn y gwylio, ond mae’n debyg mai’r rhaglen gomedi Gavin and Stacey oedd y rhaglen deledu fwyaf poblogaidd dros gyfnod y Nadolig. Ac yn ôl yr ystadegau, llwyddodd i ddenu mwy o wylwyr nag unrhyw raglen arall ar y teledu ers blynyddoedd lawer. Rhaid i mi gyfaddef nad ydw i’n ffan mawr o’r gyfres, ond sylwais ar un olygfa yn arbennig lle’r oedd y cymeriadau Gavin a Stacey yn hel atgofion am fod ar lan y môr yn y Barri. Yno ar ddechrau’r gyfres, (flynyddoedd yn ôl bellach!) dywedodd un cymeriad wrth y llall  – os wnei di ddweud dy fod yn fy ngharu, fe atebaf i’r un peth. Un yn gorfod mentro i ddechrau yn y gobaith y byddai’r llall yn cadw at y fargen!

Diolch byth nad felly mae cariad Duw yn cael ei ddisgrifio i ni yn y Beibl na’i gyflwyno i’r ddynolryw trwy’r Arglwydd Iesu Grist! Na, egwyddor dra gwahanol sydd i’w chael wrth i Fab Duw ddod i’r byd i achub pechaduriaid euog a’i galw i fod yn ddisgyblion iddo’i hun. Yn hytrach na galw pobl i fentro’n ddall gan obeithio’r gorau beth fydd y canlyniadau, mae Duw yn gweithredu i ddechrau, ac yna’n galw pobl i ymateb i’w wahoddiad cariadus. Ac mae’r neges yma i’w gweld trwy gydol y Beibl. Ystyriwch wrth i ni gychwyn blwyddyn newydd yr anogaeth hon gan yr Apostol Paul yn Rhufeiniaid 12:1 – ‘Felly, am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i’n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich hunain iddo yn aberth byw – un sy’n lân ac yn dderbyniol ganddo. Dyna beth ydy addoliad go iawn!’

Pam mae’r Cristion yn cael ei annog i ildio’i hun yn llwyr i Dduw? Ar sail beth mae Duw wedi ei wneud yn barod – dangosodd ei drugaredd rhyfeddol a’i gariad tuag atom wrth i Iesu ddod i fyw, marw ac atgyfodi drosom. A thrwy wneud hyn, rhoddodd Iesu ei hun yn llwyr er mwyn delio â phechod, a dileu’r elyniaeth oedd rhwng y ddynoliaeth a Duw. Felly, er bod ildio’n hunain yn llwyr i Dduw yn amlwg yn weithred o ffydd, nid yw’n naid i’r tywyllwch oherwydd rydym eisoes wedi gweld mor drugarog yw’r Un sy’n ein galw ato trwy ei Fab. ‘Diolch Iddo byth am gofio llwch y llawr!’

Rhodri

Llais Bro Aled 05.01.20 + 12.01.20

Comments are closed.