Dydd Sul, 19 a 26 Ionawr 2020

Croeso cynnes i bawb ohonoch i’n hoedfaon heddiw. Wrth i ni addoli hefo’n gilydd gan fod yn ymwybodol cymaint o deuluoedd o’n cwmpas sydd mewn galar, gweddïwn ar i’r Arglwydd amlygu ei ddaioni iddynt hwy, ac i ninnau’r un modd. Dyna sail moliant y Cristion, fel y gwelwn yn y Salmau: ‘Diolchwch iddo, bendithiwch ei enw. Oherwydd da yw’r Arglwydd; y mae ei gariad hyd byth, a’i ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.’ (Salm 100:4-5)

Mae cwestiynau mawr bywyd wedi cael eu gofyn ac yn parhau i gael eu gofyn o genhedlaeth i genhedlaeth. Pam ydym ni yma? Oes yna ffordd i wynebu’r profiadau anodd fydd yn dod i’n rhan? At bwy ddyliwn i droi mewn poen a phryder? Gan amlaf nid cwestiynau sy’n cael eu gofyn yng nghanol sgyrsiau ysgafn wrth basio fyddant, ond cwestiynau sydd yn pwyso ar feddwl nifer ohonom reit yng nghanol stormydd bywyd. Ac er mor anodd yw ystyried y fath bethau, dylem sylweddoli nad ni yw’r cyntaf i ymgodymu â’r fath faterion, er y gall deimlo felly pan ydym yn ein gwendid. Mor hawdd yw anghofio bod yna genedlaethau o bobl wedi ymdrechu i ateb y cwestiynau hyn mewn gwahanol ffyrdd, ac yn enwedig felly i Gristnogion, mor rhwydd yw colli golwg ar y cysuron sydd inni yng Ngair Duw. Ystyriwch er enghraifft y cwestiwn canlynol y mae cymaint o Gristnogion wedi ei ofyn: Beth yw ein hunig obaith mewn bywyd a marwolaeth? Mae cyfieithiad modern o hen ateb (mor bell yn ôl â 1563!) yn nodi fel hyn: Nad ydym yn eiddo i ni’n hunain ond ein bod yn perthyn, enaid a chorff, mewn bywyd a marwolaeth i Dduw ac i’n Gwaredwr Iesu Grist.

Gwelir hyn yn glir yn Salm 100, os cofiwch eiriau adnod 3: ‘Gwybyddwch mai’r Arglwydd sydd Dduw; ef a’n gwnaeth, a’i eiddo ef ydym, ei bobl a defaid ei borfa.’ Rydym i gael cysur o wybod ein bod trwy ffydd yn ddefaid i’r bugail oherwydd bod y Bugail Da wedi ildio’i fywyd er mwyn ein hachub a diddymu’r hyn oedd yn ein gwahanu oddi wrth Dduw. Nid ein hymdrech ni sydd wedi sicrhau bywyd a gobaith tragwyddol i ni, ond haelioni rhyfeddol gras Duw. Yr unig beth yr ydym ni wedi ei wneud yw dod yn waglaw at Iesu a derbyn yn ddiolchgar wrth edifarhau a rhoi’n hunain Iddo. Os byddwn byth â’n gobaith yn pylu oherwydd yr amgylchiadau a wynebwn, cofiwn nad ar chwarae bach y mae Duw yn datgan fod ei bobl yn eiddo iddo am byth, ond ar sail cariad perffaith, cariad drud. ‘Oherwydd prynwyd chwi am bris. Felly gogoneddwch Dduw yn eich corff.’ (1 Corinthiaid 6:19)

Rhodri

Llais Bro Aled 19.01.20 + 26.01.20

Comments are closed.