Dydd Sul, 16 a 23 Chwefror 2020

Croeso cynnes i bawb ohonoch i’r oedfaon heddiw gan obeithio na fydd Storm Dennis yn achosi dinistr tebyg i’r hyn a wnaeth Ciara mewn cymaint o ardaloedd y Sul diwethaf. Gweddïwn hefyd dros deuluoedd y gwyddom amdanynt a effeithiwyd gan y llifogydd neu sydd wedi profi profedigaethau torcalonnus. Gofynnwn i Dduw fod yn gysgod ac yn dŵr cadarn iddynt yn eu trallod. (Salm 61:3)

Wrth weld y dyfroedd hollbresennol yn gorlifo drwy dai a thros y ffyrdd a’r caeau’r wythnos ddiwethaf, anodd oedd peidio cael ein hysgwyd gan mor rymus y gall y tywydd fod, ac mor annigonol y gallwn ni deimlo yn wyneb y fath rym. Ac ymateb tebyg iawn a ddaeth wrth weld y tannau dychrynllyd yn sgubo dros ehangder Awstralia ychydig wythnosau yn ôl.  Ar un llaw mae dŵr a thân yn elfennau mor bwysig yn ein ffyniant a’n bodolaeth fel dynoliaeth, ond ar y llaw arall, pan maent yn lledaenu’n aflywodraethus nid oes fawr ddim y gallwn ei wneud i geisio atal y difrod a achosir ganddynt.

Gwelir egwyddor debyg yn y Beibl, lle mae’r Arglwydd yn ei ofal drostynt yn rhybuddio’i bobl rhag gadael i bethau sy’n ddefnyddiol ac yn bwysig fynd allan o reolaeth yn eu bywydau. Meddyliwch am rai esiamplau – arian, gwaith, serch a theulu – elfennau sy’n rhoddion gan Dduw, ond sy’n gallu dinistrio’n bywydau os ydynt yn troi yn bopeth i ni. Cofiwch beth ddywedodd Iesu Grist wrth ddysgu’i ddisgyblion am beryglon arian yn y Bregeth ar y Mynydd:  “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac i arian ar yr un pryd. (Mathew 6:24 Beibl.net)

Dychmygwch y demtasiwn i Iesu adael i bethau eraill gymryd drosodd yn ystod ei weinidogaeth. Caru poblogrwydd a’r enw da a dderbyniodd gan y tyrfaoedd, caru’r grym a’r awdurdod syfrdanol oedd ganddo, neu hyd yn oed caru’i ddisgyblion i’r graddau nad oedd yn barod i wneud unrhyw beth fyddai’n gwneud iddynt deimlo’n annifyr. Ond diolch byth, ni ildiodd i’r temtasiynau hyn. Er holl ymdrechion twyllodrus y diafol, bu Iesu’n ffyddlon. Carodd y Tad trwy’r cyfan, a dangosodd hynny trwy fyw’n gwbl ufudd iddo – ufudd-dod a’i harweiniodd i’r Groes. Ac ar sail hynny yr ydym yn diolch i Dduw am Ei ras tuag at rai annheilwng, gan annog ein gilydd i droi at Grist – yr Un sy’n gwybod yn iawn beth yr ydym yn ei wynebu. ‘Oherwydd, am iddo ef ei hun ddioddef a chael ei demtio, y mae’n gallu cynorthwyo’r rhai sydd yn cael eu temtio.’ (Hebreaid 2:18)

Rhodri

Llais Bro Aled 16.02.20 + 23.02.20

Comments are closed.