Dydd Sul, 19 Ebrill 2020

Gwahanol. Rhyfedd. Petai rhywun wedi gofyn i chi dros y dyddiau diwethaf sut oedd penwythnos Pasg 2020, dwi’n siŵr mai un o’r geiriau uchod a ddefnyddiwyd gan lawer ohonoch! Methu treulio amser gyda’r teulu, dim oedfaon gyda phobl mewn un lle yn cyd-addoli gyda’i gilydd, ac i rai, dim ymweliad â gwyliau Cristnogol megis Word Alive neu Llanw am y tro cyntaf ers talwm. Yn amlwg, fyddai neb wedi dewis treulio’r Pasg o dan y fath amgylchiadau, ond serch hyn mae’n Harglwydd Dduw yn parhau i fod ar waith yn y byd, ac mae’n parhau i alw’i bobl i’w addoli er gwaethaf y cyfyngiadau.

Yn naturiol, bydd nifer yn cwestiynu sut yr ydym fel Cristnogion yn gwneud synnwyr o gyfnodau fel hyn. Beth fedrwn ni ei ddweud pan mae pobl yn holi lle mae Duw yn ystod yr argyfwng hwn? Mae’n debyg bod Cristnogion ledled y byd yn pendroni ynglŷn â hyn o safbwynt eu ffydd bersonol neu wrth sgwrsio ag eraill, ac yn ddiweddar gwelais ddarn o gyfweliad gan y gweinidog a’r awdur adnabyddus Tim Keller lle’r oedd yn ymateb i’r union fater hwn. Yn ôl Keller mae tri pheth i’w ystyried. I ddechrau, cwestiwn – ydych chi’n tybio bod yr hyn yr ydym yn ei wynebu yn rhywbeth newydd?  Mae dioddefaint ac afiechydon wedi bodoli trwy hanes y ddynoliaeth, ac maent yn cael eu crybwyll yn gyson yn y Beibl. Meddyliwch am yr hyn a wynebodd Job, neu Joseff yn yr Aifft, neu’r Apostolion yn Llyfr yr Actau. Nid yw’r Beibl yn darlunio’n byd presennol fel un perffaith lle nad oes angen a thristwch. I’r gwrthwyneb, o ddarllen trwy’r Beibl gwelwn mor anodd a phoenus y mae bywyd yn gallu bod mewn byd syrthiedig. Wrth i bob un ohonom gael ein heffeithio yn sgil yr amgylchiadau ar hyn o bryd, mae’n ein hysgwyd i ofyn cwestiynau dwys ynglŷn â rôl Duw yn ein bywyd ni, efallai am y tro cyntaf. Gall pobl fod yn gefnogol mewn egwyddor i ynni gwyrdd, ond mae’r prawf o’u cefnogaeth i’w weld pan ddaw cynlluniau i godi melinau gwynt dafliad carreg o’u tai!

Yn ail, os ydym yn ystyried fod Duw yn ddigon mawr a grymus i allu atal yr holl ddioddefaint, a’n bod yn methu’n lân a deall pam nad yw’n gwneud hynny, yna dylem bwyllo am ychydig a gofyn i ni’n hunain beth yn union ydym ni’n ei gredu am Dduw? Oherwydd. os ydym yn dweud ar un llaw fod Duw yn hollalluog, yna byddai’n gwbl gyson datgan bod gan y Duw hwnnw resymau dros ganiatáu dioddefaint na allwn ni eu deall. Os yw’r Arglwydd yn hollalluog, yna mae’n rhaid i ni sydd â chyfyngiadau ar ein deall a’n gallu gydnabod y bydd nifer o’i weithredoedd y tu hwnt i’n deall ni. Mae’r Apostol Paul yn datgan hyn yn gryno yn ei fawl i Dduw yn Rhufeiniaid 11:33-34 Beibl.net:

“Mae e mor aruthrol o ddoeth! Mae’n deall popeth! Mae beth mae e’n ei benderfynu y tu hwnt i’n hamgyffred ni, a beth mae’n ei wneud y tu hwnt i’n deall ni! Pwy sy’n gallu honni ei fod yn deall meddwl yr Arglwydd? Pwy sydd wedi dod i wybod digon i roi cyngor iddo?”

I’r rhai sydd mewn pwll o anobaith a thristwch, mae’n bosibilrwydd cryf na fydd gwybod bod meddyliau’r Arglwydd gymaint yn uwch na’n meddyliau ni (Eseia 55:9) yn dod â chymaint â hynny o gysur iddynt.  Ond i’r rhai sy’n ymbalfalu ynghanol  tor-calon ac ofn, y trydydd peth i’w gofio yw er na allwn egluro’n union pam fod Duw yn caniatáu dioddefaint penodol, gallwn ddweud un peth pendant. Nid yw Duw yn caniatáu’r sefyllfa hon, nac unrhyw ddioddefaint arall, oherwydd bod ei gariad yn ddiffygiol. Yr hyn sydd wedi cael ei amlygu i ni dros wythnos y Pasg yw bod cariad Duw yn rhyfeddol. “Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.” (Ioan 3:16) Mae cariad Duw mor eithriadol nes ei fod wedi dod yn Iesu Grist i ganol ein dioddefaint, a bod y Mab wedi dioddef ei hun ar y Groes er mwyn sicrhau y byddai diwedd parhaol i bob math o bechod, dioddef a cholled.

Wrth gwrs mae ffydd yn allweddol er mwyn i hyn oll fod yn gysur i ni, ac mae angen cymorth yr Ysbryd Glân arnom, nid yn unig i gredu, ond i barhau i droi at Grist a derbyn o’i ras o ddydd i ddydd. Ond diolch i Dduw, ni adawodd Crist ei ddisgyblion yn amddifad, ac nid yw Cristnogion heddiw’n brin ychwaith oherwydd rhodd yr Ysbryd Glân. Cofiwn eiriau Iesu “… yr ydych yn awr mewn tristwch. Ond fe’ch gwelaf chwi eto, ac fe lawenha eich calon, ac ni chaiff neb ddwyn eich llawenydd oddi arnoch.” (Ioan 16:22)

Rhodri

Llais Bro Aled 19.04.20

Comments are closed.