Dydd Sul, 3 Mai 2020

Erbyn y penwythnos, byddwn yn cychwyn mis arall lle mae’r calendr arferol yn amherthnasol, gwyliau banc yn ddiystyr a hyd yn oed Eisteddfod yr Urdd wedi ei gohirio am flwyddyn. Wn i ddim sut yr ydych chi’n dygymod â’r cyfnod hwn, ond mae’n ddiddorol gweld beth mae pobl wahanol yn tueddu i’w wneud o dan y fath amgylchiadau! Yn ôl yr ystadegau a’r silffoedd gwag yn y siopau, mae nifer cynyddol wedi troi at goginio a phobi adref. Ac yn enwedig dros yr wythnosau braf aeth heibio, bu llawer yn rhoi mwy nag arfer o sylw i’w gerddi. Ymdrechom ni fel teulu hefyd i wneud mymryn o arddio wrth blannu ychydig o lysiau, perlysiau a blodau gwyllt. Bu’n brofiad braf cael pawb allan yn yr ardd yn gwneud eu rhan wrth i ni baratoi’r tir cyn plannu hadau. Wedyn yr aeth pethau’n anoddach. Nid oherwydd bod y glaw wedi’n stopio rhag mynd allan, ond oherwydd y disgwyl hirfaith i weld arwydd fod yr hyn a blannwyd yn cychwyn egino! Gwnaeth hyn i mi feddwl yn ehangach am amynedd, a’n tueddiad fel pobl i fethu byw yn ein crwyn os nad yw pethau’n dilyn ein hagenda neu’n hamserlen ni. Efallai fod rhai ohonoch yn teimlo felly ar hyn o bryd, wedi hen syrffedu ar y cyfyngiadau a’r pryderon sy’n parhau fel cysgod drosom. Sut allwn ni wynebu misoedd yn ychwaneg o hyn?

O droi at Iago 5, gwelwn y cysylltiad rhwng amynedd ac ymddiriedaeth wrth i Iago annog Cristnogion fel hyn yn adnodau 7 ac 8:  ‘ Byddwch yn amyneddgar, gyfeillion, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Gwelwch fel y mae’r ffermwr yn aros am gynnyrch gwerthfawr y ddaear, yn fawr ei amynedd amdano nes i’r ddaear dderbyn y glaw cynnar a diweddar.  Byddwch chwithau hefyd yn amyneddgar, a’ch cadw eich hunain yn gadarn, oherwydd y mae dyfodiad yr Arglwydd wedi dod yn agos.’

Gall ffermwr aros yn amyneddgar am ei gnwd oherwydd ei fod yn ymddiried y bydd y glaw yn dod yn ei amser ac y bydd cynnyrch gwerthfawr i’w gasglu yn y pen draw. Yr un modd, yn ôl Iago, dylai Cristnogion fod yn amyneddgar ac yn gadarn ym mhob gorthrymder oherwydd y gallant ymddiried yn yr Arglwydd fydd yn dod yn ôl.

Yn ystod y cyfnod pryderus hwn beth ddylai fod yn gymorth i’r Cristion yw gweld y cyfan o safbwynt amserlen y Beibl, lle mae’r Duw tragwyddol yn llywodraethu. Rydym ar hyn o bryd yn parhau i fyw mewn byd syrthiedig a thoredig lle mae salwch, anghyfiawnder a phechod yn effeithio ar filiynau o bobl bob dydd. Ond gobaith mawr y Cristion yw na fydd hynny’n wir am byth. Mae’r Beibl yn ein dysgu fod buddugoliaeth Iesu Grist un waith am byth dros bechod, marwolaeth a’r diafol yn mynd i wneud gwahaniaeth tragwyddol i’r rhai sy’n ei garu, ac yn wir i’r holl greadigaeth. Ac mae wedi cychwyn gwneud gwahaniaeth syfrdanol yn barod trwy’r Ysbryd Glân ym mywydau’r rhai sydd wedi troi ato mewn ffydd. Oherwydd hynny gall Cristnogion wynebu profedigaethau a thrafferthion difrifol yn pwyso ar addewidion megis ‘nid atal yr Arglwydd unrhyw ddaioni oddi wrth y rhai sy’n rhodio’n gywir.’ (Salm 84:11)

Dydyn ni ddim yn gwybod am ba hyd y bydd y firws Corona yn parhau i effeithio arnom, ond rydym yn gwybod y bydd diwedd rhyw ddydd ar bob afiechyd, anghyfiawnder a phechod, ac y bydd y cyfan yn dod yn realiti wedi i Iesu ddychwelyd mewn gogoniant. Er nad yw hyn yn rhywbeth y byddwch yn debygol o’i ddarllen ar y newyddion, dyma’r pwyslais a fu’n gymorth i Paul ddyfalbarhau trwy ei holl dioddefiadau: ‘Dydy’n trafferthion presennol ni’n ddim byd o bwys, a fyddan nhw ddim yn para’n hir. Ond maen nhw’n arwain i fendithion tragwyddol yn y pen draw – ysblander sydd y tu hwnt i bob mesur. Felly mae’n sylw ni wedi’i hoelio ar beth sy’n anweledig, dim ar beth welwn ni’n digwydd o’n cwmpas ni. Dydy beth sydd i’w weld ond yn para dros dro, ond mae beth sy’n anweledig yn aros am byth!’ (2 Cor. 4:17-18)

Rhodri

Llais Bro Aled 03.05.20

Comments are closed.