Dydd Sul, 31 Mai 2020

Cofion cynnes at bawb o ddarllenwyr Llais Bro Aled lle bynnag yr ydych. Wrth i ni barhau i wynebu ansicrwydd a gofid y cyfnod hwn, ac wrth i’w effaith dorcalonnus ddod yn amlycach yn ein cymunedau, gweddïwn yn daer am gymorth Duw gan gofio geiriau’r Salmydd – ‘Un tlawd ac anghenus wyf fi, ond y mae’r Arglwydd yn meddwl amdanaf. Ti yw fy nghymorth a’m gwaredydd; fy Nuw, paid ag oedi!’ (Salm 40:17)

Gan anwybyddu’r holl hanesion gwleidyddol sydd wedi codi’n ddiweddar ynglŷn ag unigolion dylanwadol, y cwestiwn mawr i lawer o bobl ar hyn o bryd yw sut fydd y dyfodol yn edrych? Pryd, os o gwbl, fydd yna ddychwelyd at y cyfarwydd? Neu oes rhaid i ni ddod i delerau hefo ffyrdd tra gwahanol o fyw ac ymwneud â’n gilydd am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd? Beth fydd y ‘normal newydd’ i’n cymunedau ni tybed? Does neb yn gwybod yn iawn, dim hyd yn oed arbenigwyr gwyddonol, ond ni ddylai hynny arwain yn anorfod at anobaith – yn enwedig felly i Gristnogion sydd wedi cael eu geni o’r newydd i ‘obaith bywiol trwy atgyfodiad Iesu Grist’ (1 Pedr 1:3).

Rydym yn byw mewn byd sydd wastad yn newid, ac rydym ninnau’n newid hefyd – boed ni’n barod i gyfaddef hynny neu beidio! Byddwn yn newid yn gorfforol wrth i amser basio, a bydd amgylchiadau’n effeithio arnom mewn amrywiol ffyrdd. Mae hynny’n wir i bawb o’r ddynol ryw, ac mae’r newidiadau hyn yn gallu bod yn niweidiol ac yn boenus. Ond dylai Cristnogion fod yn disgwyl ac yn dyheu am newid, a hwnnw’n newid er gwell, ynom ni ac yn y byd. Nid ffydd statig yw’r ffydd Gristnogol, ond perthynas fywiol â’r Arglwydd Iesu trwy’r Ysbryd Glân, lle mae adnewyddu a thrawsffurfio yn cael ei annog (Rhufeiniaid 12:2). Wrth i ni dyfu yn ein hadnabyddiaeth a’n parodrwydd i ufuddhau i Dduw, bydd yr Ysbryd yn ein cynorthwyo i weld o’r newydd hyfrydwch Iesu Grist fel Gwaredwr ac mor ffiaidd yw pechod ac anghyfiawnder – ynom ni ac yn y byd. Ond nid dim ond newid mewnol yr ydym yn dyheu amdano, ond newid ar ein daear hefyd. Dyna pam yr ydym yn gweddïo yng ngweddi’r Arglwydd: ‘deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys, ar y ddaear fel yn y nef.’

Felly o ystyried y dyddiau dyrys yr ydym yn ei wynebu a’r ‘normal newydd’ sydd o’n blaenau, beth am i ni ddiolch i Dduw bod bywyd newydd yn realiti am byth i’r rhai sydd wedi ymddiried yng Nghrist, a bod ‘drws trugaredd heb ei gau’.

Rhodri

Llais Bro Aled 31.05.20

Comments are closed.