Dydd Sul, 6 Medi 2020

Dros yr wythnosau diwethaf, mae’n naturiol fod llawer ohonom wedi bod yn pendroni ynglŷn â’r dyfodol, a beth yw’r ffordd ymlaen i ni fel gwlad, cymunedau ac eglwysi. Diolch i bawb ohonoch wnaeth ymateb i’n cais ddiwedd mis Gorffennaf i rannu’ch dymuniad ynglŷn ag ailagor capeli. 24% oedd yn gyfforddus i ailafael mewn addoliad mewn capel (gyda chyfyngiadau’r Llywodraeth mewn lle) a 76% am barhau gyda’r ddarpariaeth fel y mae hi ar hyn o bryd. Wrth gwrs byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth gyda chi am unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol gan sylweddoli fod pethau’n gallu newid yn sydyn iawn o safbwynt y canllawiau a’r cyngor a dderbyniwn.

Ac wrth sôn am ganllawiau a chyngor, mae’n gwneud i rywun werthfawrogi’r fath gyfrifoldeb sydd ar wleidyddion, swyddogion, ac arweinwyr gwahanol. Mae’n ddigon hawdd i ni feirniadu penderfyniadau yr ydym yn anghytuno â nhw (yn enwedig pan nad ydym yn gwybod y manylion i gyd!), ond mewn amgylchiadau dyrys, mae tasg arweinwyr yn aml yn un ddi-ddiolch! Mae gofyn iddyn nhw bwyso a mesur nifer o ffactorau a blaenoriaethau gwahanol cyn penderfynu ar y cam nesaf, a hyn i gyd gan wybod fod y gorau ohonyn nhw yn abl i wneud camgymeriadau. A dyna’r ymddiriedaeth y mae gwleidyddion yn pledio amdano yn ystod etholiadau – gallwch ymddiried ynom ni i wneud y penderfyniadau gorau drosoch chi!

Pwy ydym ni’n trystio felly? Ac i ba raddau ydym ni’n ymddiried yn Iesu Grist o ddydd i ddydd trwy hyn i gyd? Y gwir ydi fod ymddiried mewn eraill yn gallu bod yn brofiad digon anghyfforddus i ni, oherwydd, wrth ymddiried mewn eraill, nid ni sydd mewn rheolaeth! Meddyliwch am Iesu’n galw’r disgyblion yn Marc 1:16-20. Mae’r pysgotwyr wrth eu gwaith arferol ac mae Iesu yn dweud – “Dewch ar fy ôl i, ac fe’ch gwnaf yn bysgotwyr dynion.”  Mae’n rhaid iddyn nhw wneud penderfyniad tyngedfennol yn y fan a’r lle – ydyn nhw am ymddiried yn Iesu ac ymateb yn gadarnhaol i’w alwad Ef, neu ydyn nhw am wrthod yr alwad, gan droi cefn ar Iesu a chilio i ddiogelwch tybiedig yr hyn sy’n gyfarwydd?

Mentro wnaeth Simon ac Andreas – ‘gadawsant eu rhwydau ar unwaith a’i  ganlyn ef.’ (Marc 1:18)  Bu iddyn nhw roi eu ffydd yn Iesu Grist er nad oedden nhw’n

gwybod beth fyddai effaith dilyn Iesu ar eu bywydau. Yn nes ymlaen yn Ioan 6, gwelwn nifer o ddisgyblion Iesu yn simsanu ac yn penderfynu peidio ei ddilyn, ac mewn ymateb i hynny, mae Iesu’n gofyn i’r Deuddeg ydyn nhw am ei adael hefyd? Atebodd Simon Pedr gyda’r geiriau: ‘Arglwydd at bwy yr awn ni? Y mae geiriau bywyd tragwyddol gennyt ti, ac yr ydym ni wedi dod i gredu a gwybod mai ti yw Sanct Duw.’ (Ioan 6:68-69) Trwy ymddiried yn Iesu, profodd Pedr fywyd newydd, a daeth i weld Iesu fel y Mab unigryw a anfonodd Duw i’r byd i achub pechaduriaid. O ymddiried yn Iesu, gallwn ninnau hefyd, serch ein hofnau a’n hansicrwydd, brofi’r wefr o dderbyn bywyd newydd a’r cysur o wybod fod Crist yn ein caru ac am ein cadw trwy bopeth am dragwyddoldeb. Beth sy’n well na hynny?

Rhodri

Llais Bro Aled 06.09.20

Comments are closed.