Dydd Sul, 18 Hydref 2020

‘Er nad yw’r ffigysbren yn blodeuo, ac er nad yw’r gwinwydd yn dwyn ffrwyth; er i’r cynhaeaf olew ballu, ac er nad yw’r meysydd yn rhoi bwyd; er i’r praidd ddarfod o’r gorlan, ac er nad oes gwartheg yn y beudai; eto llawenychaf yn yr Arglwydd, a llawenhaf yn Nuw fy iachawdwriaeth.’ (Habacuc 3:17-18)

Gyda’r mynegiant hyfryd yma o obaith a llawenydd mewn cyfyngder y mae’r proffwyd Habacuc yn disgrifio ei sefyllfa yn yr Hen Destament. Ac wrth i ninnau geisio gwneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd yn ein cyfnod ni, diolchwn y gallwn droi at yr un Duw trugarog sydd wedi sicrhau iachawdwriaeth i’w bobl trwy anfon ei annwyl Fab i’r byd.

Wrth edrych ar y newyddion dros yr wythnosau diwethaf, nid yw pethau’n edrych yn dda.  Nid yn unig rydym yn clywed am niferoedd sydd wedi’i heintio yn cynyddu mewn gwahanol ardaloedd, ond rydym hefyd yn ymwybodol o’r tensiynau sydd yna rhwng gwahanol garfannau a llywodraethau ynglŷn â’r mesurau priodol i geisio delio â’r argyfwng.  Cyfyngiadau lleol neu genedlaethol?  Gwahardd teithio, neu annog pobl i ddefnyddio synnwyr cyffredin?  Gall y dadlau a’r anghytuno fod yn ddigon diflas, ond beth sy’n amlwg yw nad oes unrhyw ganllawiau na chyfyngiadau yn mynd i wneud gwahaniaeth os nad yw pobl yn cymryd sylw ohonynt!  Wrth gwrs, mae yna gyfrifoldeb ar brif weinidogion ac arweinwyr i wneud penderfyniadau doeth ac i roi arweiniad, ond ni fydd hynny’n gwneud tamaid o wahaniaeth os yw’r boblogaeth gyffredinol yn diystyru’r hyn sy’n cael ei ddweud!  Mae gofyn i bawb ohonom ystyried y ffordd yr ydym yn gweithredu oherwydd fel mae’r ystadegau yn awgrymu, gall esgeulustod unigolion arwain at ganlyniadau trychinebus.

Ac mae’r un peth yn wir wrth i ni ystyried ein ffydd.  Wrth ddarllen Mathew 8 yn ddiweddar, sylwais mor aml yr oedd pobl yn dod at Iesu i ofyn am ei help.  Dro ar ôl tro, mae pobl mewn gwahanol fathau o drybini yn ceisio cymorth Iesu ac yn profi o’i ddaioni a’i allu rhyfeddol wrth iddo drugarhau wrthynt.  Mor hawdd fyddai i’r bobl anghenus yma ddiystyru’r hyn yr oeddent wedi ei glywed am y gŵr o Nasareth gan dybio nad oedd y newyddion da amdano’n berthnasol iddynt hwy.  Ond trwy gydol ei weinidogaeth mae Iesu yn gwrthbrofi’r camsyniad hwnnw.  Deliodd yn gariadus gyda phobl oedd yng nghanol pob math o drybini, pechod, a dryswch yn eu bywydau.  A dyna’r gobaith i ni heddiw hefyd.  Os ydym mewn ing personol, neu’n profi ansicrwydd oherwydd y pandemig presennol, cofiwn fod newyddion da Iesu’n berthnasol ac yn galw arnom i ymateb mewn ffydd.  ‘Os wnei di gyffesu ‛â’th wefusau‛, “Iesu ydy’r Arglwydd”, a chredu ‛yn dy galon‛ fod Duw wedi’i godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, cei dy achub.’ (Rhufeiniaid 10:9 Beibl.net)

Rhodri

Llais Bro Aled 18.10.20

Comments are closed.