Dydd Sul, 15 Tachwedd 2020

Rydym bellach wedi dod allan o gyfnod clo byr ac yn wynebu’r wythnosau a’r misoedd nesaf dan ganllawiau newydd Llywodraeth Cymru. Beth gawn ni ei wneud, a beth sydd wedi’i wahardd y tro yma yw’r cwestiynau sy’n codi’n gyson mewn sgyrsiau. Ac er ein bod yn deall bod y cyfyngiadau mewn lle am resymau da, mae’n gallu bod yn ddryslyd ac yn feichus gwneud yn siŵr fod yr hyn yr oeddem wedi’i fwriadu yn cyd-fynd â’r rheolau presennol. Mae’r sefyllfa mor fregus oherwydd bod agwedd unigolyn at risg, neu esgeulustod hyd yn oed un person yn gallu cael effaith mor ddifrifol ar gymaint o bobl eraill. Does dim modd osgoi’r cwestiwn o gyfrifoldeb personol – sut ydw i’n ymateb i’r canllawiau y mae’r awdurdodau wedi eu cyhoeddi?

Tydi hyn ddim yn bwnc dieithr i’r Beibl, oherwydd bod gair Duw yn cael ei ddisgrifio fel cyfarwyddyd, gorchmynion a deddfau. Ond wrth gwrs mae Cristnogaeth yn llawer mwy na dim ond dilyn rheolau’r Beibl, er bod ufudd-dod yn rhan ganolog o fod yn ddisgybl i Iesu Grist. Mae agwedd y Cristion wrth ufuddhau i’r Arglwydd yn allweddol hefyd. Yn 1 Ioan 5:3-4 gwelwn y geiriau hyn: ‘Oherwydd dyma yw caru Duw: bod inni gadw ei orchmynion. Ac nid yw ei orchmynion ef yn feichus, am fod pawb sydd wedi eu geni o Dduw yn gorchfygu’r byd.’

Felly mae’r Cristion yn ufuddhau i Dduw oherwydd cariad. Ond sylwch fod Ioan yn mynd ymlaen i nodi nad yw gorchmynion Duw yn feichus. Sut hynny? Oherwydd bod rhywbeth sylfaenol wedi digwydd yng nghalon y Cristion sy’n ei alluogi i ymateb yn gadarnhaol i Air Duw, ac i fyw mewn ffordd hunan-aberthol a chariadus. Mae Ioan yn dweud eu bod wedi eu geni o Dduw ac wedi gorchfygu’r byd. Hynny yw bod yr Ysbryd Glân wedi rhoi bywyd ysbrydol newydd, dyheadau newydd a nerth o’r newydd i’r Cristion. Heb yr enedigaeth newydd hon, byddwn yn parhau yn fydol – yn gaeth i’n dymuniadau hunanol er gwaethaf y canlyniadau i’n hunain ac i eraill.

Rhyfeddod mawr y newyddion da yw bod Iesu wedi dod i’r byd i’n rhyddhau o’r gaethiwed hon, a bod ei gariad Ef yn arwain at gariad newydd ymhlith ei bobl. Wrth i ni ymgodymu â’r canllawiau diweddaraf, cofiwn yr hyn y mae Iesu wedi bod yn fodlon ei wneud er mwyn sicrhau diogelwch tragwyddol i’w bobl:  ‘Cariodd ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren, er mwyn i ni, a’n pechodau wedi mynd, allu byw i wneud beth sy’n iawn.’ (1 Pedr 2:24 Beibl.net)

Rhodri

Llais Bro Aled 15.11.20

Comments are closed.