“Peidiwch ag ofni, fy mhraidd bychan, oherwydd gwelodd y Tad yn dda i roi i chwi’r deyrnas.”
(Luc 12:32)
Dyma’r geiriau hyfryd a rannodd Iesu gyda’i ddisgyblion wrth iddo sôn wrthynt am eu hofnau a’u pryderon. Ac wrth i ni baratoi at Nadolig gwahanol eleni, diolchwn fod y geiriau hyn yr un mor berthnasol i’r rhai sy’n eiddo’r Bugail Da yn 2020 hefyd.
Sylwch ar y tosturi yng ngeiriau Iesu. Er mor ddryslyd ac anobeithiol y gallwn deimlo wrth wynebu gwahanol amgylchiadau, os ydym wedi ymddiried yng Nghrist ni fyddwn ar ein pen ein hunain nac yn ddi-amddiffyn. Dywed Iesu mai ei braidd bychan Ef yw’r disgyblion – ac mae ganddo ofal arbennig drostynt.
Dros y blynyddoedd diwethaf bu mwy a mwy yn cwestiynu gwerth anfon cardiau Nadolig, ond tybed nad yw’r flwyddyn ddiwethaf wedi gwneud i nifer ailystyried hyn yng ngoleuni’r pellter gorfodol sydd wedi bod rhwng cymaint o deuluoedd, ffrindiau a chymdogion? Ac oni ddylem ailystyried addewidion Duw a gofal Iesu Grist dros ei bobl yn yr un ffordd? Heb yr arferion cyfarwydd yr ydym wedi arfer cael cysur ohonynt, gweddïwn am help Duw i gael golwg o’r newydd ar hyfrydwch y Pen Bugail a’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn rhan o’i braidd trwy ffydd.
Fel y gwelsom wrth ystyried proffwydoliaeth Micha 5 ddydd Sul, roedd Duw wedi dweud o flaen llaw y byddai’r un o Fethlehem yn fugail i’w bobl. Y disgrifiad yw – ‘Fe saif ac arwain y praidd yn nerth yr Arglwydd … A byddant yn ddiogel’ (Micha 5:4). Yn ein gwendid a’n hofn byddwn yn cael ein temtio i feddwl nad yw Iesu’n gallu gwneud gwahaniaeth yn ein sefyllfa benodol ni – ond nid yw hyn yn wir. Does dim angen mor fawr na sefyllfa yn rhy argyfyngus fel nad yw’r Arglwydd Iesu’n barod i fugeilio’r rhai sy’n troi ato am gymorth. Gwelwyd hynny’n glir trwy gydol gweinidogaeth Iesu ar y ddaear.
Wrth i mi ddymuno Nadolig bendithiol i ddarllenwyr Llais Bro Aled, cofiwn sut bynnag y bydd pethau dros yr wythnosau nesaf, bod pobl Crist yn ddiogel yn ei gorlan Ef gan fod y Bugail Da wedi rhoi ei einioes dros y defaid. (Ioan 10:11) Ac nid diogelwch dros dro yw hyn, ond un o’r bendithion tragwyddol sy’n dod o fod yn etifeddion teyrnas Dduw.
Fe’n gwnaeth ni, blant dynion,
yn ferched, yn feibion,
i’w Dad yn ‘tifeddion
o’r deyrnas sydd fry,
i fyw yn ei feddiant
mewn nefol ogoniant
er mawrglod a moliant i’r Iesu. (469 Caneuon Ffydd)
Rhodri