Dydd Sul, 31 Ionawr 2021

Fu’r wythnos ddiwethaf ddim yr orau os oeddech chi wedi cychwyn edrych ymlaen at yr haf! O fewn diwrnod i’w gilydd cawsom wybod na fydd yr Eisteddfod Genedlaethol na’r Sioe Fawr yn cael eu cynnal eleni. Wn i ddim os mai cyd-ddigwyddiad oedd bod y ddau sefydliad wedi dod i’r un penderfyniad tua’r un pryd, ond roedd yn ddiddorol gweld y tebygrwydd yn y cyhoeddiadau a wnaed am y gohirio. Yn y ddau achos, mynegwyd siom na fyddai digwyddiad 2021 yn cael ei gynnal, wedi’i ddilyn gyda datganiad hyderus y bydd yr Eisteddfod a’r Sioe yn dychwelyd yn ystod haf 2022. Mae’n ymddangos felly bod y swyddogion wedi dod i gasgliadau ar sail yr hyn y maent yn ei wybod ar hyn o bryd, ac yna gobaith am yr hyn a ddaw yn y dyfodol.

Ac i raddau, dyna’r patrwm sy’n cael ei annog yn y Beibl hefyd – byw o ddydd i ddydd mewn ffydd sy’n seiliedig ar yr hyn y mae’r Arglwydd wedi ei ddweud wrthym, gan fod yn obeithiol wrth edrych ymlaen at y dyfodol.

Wrth i Gristnogion wynebu amgylchiadau amrywiol, nid yw Gair Duw yn ein cymell i anwybyddu’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd, oherwydd tydi’r Arglwydd ddim yn gwneud hynny. Pan oedd pobl Dduw yn cael eu cam-drin dan gaethiwed yr Aifft, dywedodd yr Arglwydd wrth Moses: ‘Yr wyf wedi gweld adfyd fy mhobl yn yr Aifft a chlywed eu gwaedd o achos eu meistri gwaith, a gwn am eu doluriau. Yr wyf wedi dod i’w gwaredu o law’r Eifftiaid…’ (Exodus 3:7-8)

Felly, pan mae Cristnogion yn mynd trwy gyfnodau anodd, dylem bwyso ar y gwirionedd bod yr Arglwydd yn cofio amdanom. Ac yn ymarferol, yn y Bregeth ar y Mynydd dysgodd Crist Ei ddisgyblion sut oedd cyflwyno’r cyfan i’r Arglwydd mewn gweddi, a sut yr oeddem i beidio â phryderu ond yn hytrach dibynnu ar ein Tad nefol o ddydd i ddydd – ‘Digon i’r diwrnod ei drafferth ei hun.’ (Mathew 6:34)

Ond o ble y daw’r gobaith wrth edrych ymlaen at y dyfodol? Wrth feddwl am haf 2022, mae’r gobaith yn seiliedig ar frechlyn sy’n diogelu’r boblogaeth rhag effeithiau gwaethaf COVID 19. I’r rhai sydd â’u ffydd yn Iesu Grist, mae yna obaith hyd yn oed sicrach oherwydd parodrwydd Iesu i gymryd ein dolur a’n gwaeledd arno’i hun wrth Iddo farw am ein pechodau. Wrth ystyried y presennol a’r dyfodol, mae geiriau’r Bugail Da am ei braidd mor dyngedfennol: ‘Yr wyf fi’n rhoi bywyd tragwyddol iddynt; nid ânt byth i ddistryw, ac ni chaiff neb eu cipio hwy allan o’m llaw i.’ (Ioan 10:28)

Rhodri

Llais Bro Aled 31.01.21

Comments are closed.